Dyfodol y gwasanaeth post cyffredinol

Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2024
Ymgynghori yn cau: 3 Ebrill 2024
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)
Diweddarwyd diwethaf: 5 Medi 2024

Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom alw am ddadl genedlaethol ar ddyfodol gwasanaethau post y DU, gan dynnu sylw at y ffaith bod nifer y llythyrau wedi haneru ers 2011 a bod anghenion defnyddwyr wedi newid. Roeddem wedi nodi’r dystiolaeth roeddem wedi’i chasglu ac opsiynau ar gyfer diwygio. Roeddem wedi gofyn am fewnbwn gan yr holl randdeiliaid ac wedi cynnal digwyddiadau ym mhob un o wledydd y DU.

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a gawsom a’r safbwyntiau a fynegwyd yn ein digwyddiadau. Yna mae'n nodi ein camau nesaf. Nid ydym yn rhoi barn ar rinweddau neu fel arall y dadleuon a wnaed yn yr ymatebion, a gyhoeddir ar wefan Ofcom.

Rydym yn ddiolchgar am yr holl fewnbwn gwerthfawr a gawsom ac am gymryd rhan yn y digwyddiadau. 

Ymatebion

Yn ôl i'r brig