Cais am fewnbwn: Dyfodol y gwasanaeth post cyffredinol

Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2024
Ymgynghori yn cau: 3 Ebrill 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae gwasanaethau post yn parhau i fod yn arf cyfathrebu hanfodol i lawer o bobl a busnesau, ond mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio gwasanaethau post wedi newid yn sylweddol. Ers pasio’r Ddeddf Gwasanaethau Post yn 2011, mae’r rhwymedigaethau cyfreithiol ar y darparwr gwasanaeth cyffredinol, y Post Brenhinol, wedi aros yr un fath i raddau helaeth, gyda nifer y llythyrau wedi haneru, a danfon parseli wedi dod yn fwyfwy pwysig.

Fel rheoleiddiwr post y DU, mae Ofcom yn goruchwylio’r gwasanaeth post cyffredinol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl ar yr un pryd ag ystyried ei gynaliadwyedd ariannol a’i effeithlonrwydd. Mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddarparu’r gwasanaeth cyffredinol, ac mae ei rwymedigaethau’n cynnwys cynnig danfon llythyrau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a pharseli o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ogystal â chynnig dau gyflymder danfon ar gyfer ei brif gynnyrch gwasanaeth cyffredinol: Dosbarth Cyntaf (y diwrnod nesaf) ac Ail Ddosbarth (o fewn tri diwrnod). Nid yw’r rhwymedigaethau hyn wedi newid ers 2011, er gwaethaf newidiadau sylweddol yn y marchnadoedd post.

Mae’r ddogfen hon yn nodi tystiolaeth sy’n awgrymu bod angen i’r gwasanaeth cyffredinol newid er mwyn cyd-fynd yn well ag anghenion defnyddwyr a sicrhau y gall barhau i fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn y dyfodol. Rydym yn gofyn am fewnbwn gan bob parti sydd â diddordeb ar ein hasesiad, er mwyn cael trafodaeth gyhoeddus wybodus ynghylch sut y dylid moderneiddio’r fanyleb ar gyfer y dyfodol

Ymateb i'r Cais am fewnbwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb (ODT, 99.4 KB) (Saesneg yn unig) erbyn 5pm ar 3 Ebrill 2024

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Future development of the postal USO team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig