Royal-Mail-van-sunshine-1336x560

Sicrhau dyfodol y gwasanaeth post cyffredinol

Cyhoeddwyd: 5 Medi 2024
  • Trafodaeth genedlaethol yn tynnu sylw at yr angen i ddiwygio gwasanaeth post y DU i sicrhau ei ddyfodol hirdymor
  • Ofcom i edrych ar addasu trefniadau danfon llythyrau Ail Ddosbarth, heb newid Dosbarth Cyntaf
  • Ar ôl cynnal ymchwil manwl ymysg defnyddwyr i weld a yw’r dewis hwn yn diwallu anghenion defnyddwyr post, rydym yn disgwyl ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig yn gynnar y flwyddyn nesaf

Bydd Ofcom yn asesu a fyddai rhai newidiadau i ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth – ar yr un pryd â chynnal gwasanaeth Dosbarth Cyntaf diwrnod canlynol chwe diwrnod yr wythnos – yn diwallu anghenion defnyddwyr post, cyn ymgynghori ar gynigion yn gynnar y flwyddyn nesaf. 

Gwaith Ofcom yw sicrhau bod gwasanaeth post cyffredinol ar gael sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac sy’n fforddiadwy, yn effeithlon ac yn gynaliadwy yn ariannol. 

Mae pobl wedi bod yn anfon llawer llai o lythyrau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r Post Brenhinol wedi bod yn colli cannoedd o filiynau o bunnoedd. Os na fydd y gwasanaeth post cyffredinol yn esblygu i gyd-fynd ag anghenion cwsmeriaid, mae mewn perygl o fod yn anghynaliadwy, a gallai pobl orfod talu prisiau uwch na’r angen. 

Yn gynharach eleni, fe wnaethom lansio trafodaeth genedlaethol ar ddyfodol y gwasanaeth cyffredinol, er mwyn gofyn am fewnbwn gan arbenigwyr a defnyddwyr cyn i ni lunio unrhyw gynigion. Rydym yn ddiolchgar am yr holl gyfraniadau a gawsom. Heddiw, rydym yn nodi ein camau nesaf.

Angen amlwg i ddiwygio

Rydym wedi clywed gan filoedd o bobl a sefydliadau, gan gynnwys grwpiau defnyddwyr, undebau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, y Post Brenhinol a’r diwydiant post ehangach, yn ogystal â gan ddefnyddwyr post yn uniongyrchol, o bob cwr o’r DU. 

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr a’r cyfranogwyr yn ein digwyddiadau cyhoeddus yn cydnabod bod y ffordd mae pobl a busnesau’n defnyddio llythyrau wedi newid, ac yn cydnabod y bydd angen newidiadau i’r rhwymedigaethau ar y Post Brenhinol os ydym am sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn ddibynadwy. 

Roedd cefnogaeth gref i gynnal egwyddorion sylfaenol cyffredinolrwydd, fforddiadwyedd a phrisiau unffurf.

Y dystiolaeth sydd wedi cael ei chasglu hyd yma

Mae ein hymchwil yn dangos mai fforddiadwyedd yw’r nodwedd bwysicaf i bobl o ran danfon llythyrau. Byddwn felly’n parhau i sicrhau bod dewis fforddiadwy ar gael i ddefnyddwyr, ar sail ‘un pris i unrhyw le’.[1]

Mae’r dystiolaeth rydym wedi’i chasglu hyd yma hefyd yn awgrymu bod ar bobl eisiau gwasanaeth diwrnod canlynol chwe diwrnod yr wythnos pan fydd angen iddynt anfon llythyr neu gerdyn brys o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, mae pobl yn cydnabod nad yw’r rhan fwyaf o lythyrau yn rhai brys. 

Petai llythyrau Ail Ddosbarth yn dal i gael eu danfon cyn pen tri diwrnod gwaith ond nid ar ddydd Sadwrn, a bod Dosbarth Cyntaf yn parhau heb ei newid sef chwe diwrnod yr wythnos - byddai’r Post Brenhinol yn gallu gwella ei ddibynadwyedd, gwneud llawer o arbedion effeithlonrwydd, a symud ei adnoddau i feysydd twf fel parseli. 

Mewn ymateb i’n galwad am fewnbwn ym mis Ionawr, nododd y Post Brenhinol ei gynllun manwl i foderneiddio am y tro cyntaf, a oedd yn cynnwys cynnig manwl ar gyfer newidiadau o’r fath.

Y camau nesaf

Byddwn nawr yn cynnal rhagor o ymchwil manwl ymysg defnyddwyr post i weld a yw’r opsiwn hwn – sy’n cyd-fynd yn fras ag un o’r opsiynau a nodwyd gennym yn gynharach eleni – yn diwallu eu hanghenion. Wrth i ni asesu hyn, byddwn yn ystyried y materion a’r pryderon a godwyd gan yr ymatebwyr i’n trafodaeth genedlaethol. 

Gallai’r newidiadau rydym yn eu hasesu gael eu gwneud drwy reoliadau Ofcom, ac ni fyddai’n rhaid i’r Senedd newid deddfwriaeth. Ar ôl i ni gwblhau ein hymchwil defnyddwyr, rydym yn disgwyl ymgynghori ar gynigion manwl ar gyfer diwygio ddechrau 2025, gyda’r bwriad o gyhoeddi penderfyniad yn ystod haf 2025. 

Mae llawer o wledydd eraill yn Ewrop eisoes wedi diwygio eu gwasanaeth post cyffredinol, gyda rhai yn lleihau diwrnodau danfon yn fwy radical. 

Gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw perfformiad dosbarthu’r Post Brenhinol wedi bod yn ddigon da. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae wedi torri ei rwymedigaethau ansawdd gwasanaeth ddwywaith ac rydym wedi ei ddirwyo ddwywaith.[2]

Rydym wedi bod yn pwyso ar y cwmni i drawsnewid pethau, ac ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i’w fethiant diweddaraf i gyrraedd ei dargedau danfon blynyddol. Ni waeth sut mae’r gwasanaeth cyffredinol yn esblygu, rhaid i berfformiad dosbarthu’r Post Brenhinol wella. 

Er ei fod wedi gwella rhywfaint yn ddiweddar, gan gynnwys yng nghyswllt gwelliannau effeithlonrwydd, mae rhagor i’w wneud wrth iddo foderneiddio ei rwydwaith. 

Mae anghenion defnyddwyr post wrth galon ein hadolygiad. Os byddwn yn penderfynu cynnig newidiadau i’r gwasanaeth cyffredinol flwyddyn nesaf, mae arnom eisiau sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniad gorau i ddefnyddwyr. 

Felly rydym nawr yn edrych a allwn ni gael y gwasanaeth cyffredinol yn ôl i drefn mewn ffordd sy’n diwallu anghenion pobl. Ond nid yw hyn yn rhoi rhyddid llwyr i’r Post Brenhinol - mewn unrhyw sefyllfa, rhaid iddo fuddsoddi yn ei rwydwaith, bod yn fwy effeithlon a gwella ei lefelau gwasanaeth.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Fe wnaethom osod cap i ddiogelu prisiau stampiau Ail Ddosbarth. 
  1. Rydym yn mesur perfformiad y Post Brenhinol yn erbyn targedau danfon blynyddol, o fis Ebrill i fis Mawrth. Er enghraifft, mae’n rhaid iddo ddanfon o leiaf 93% o bost Dosbarth Cyntaf – ar draws y DU – o fewn un diwrnod gwaith i’w gasglu, a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith, dros y flwyddyn ariannol gyfan. Os bydd y Post Brenhinol yn methu ei dargedau, wrth ystyried a yw wedi cydymffurfio â’i rwymedigaethau rheoleiddiol, gall Ofcom ystyried tystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth y cwmni. Rydym wedi canfod bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf:
    • 2023/24: Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau danfon ar gyfer 2023/24.
    • 2022/23: Fe wnaethom roi dirwy o £5.6m i’r Post Brenhinol am fethu ei dargedau danfon Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth.
    • 2020/21 a 2021/22: Nid oeddem wedi canfod bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio. Cafodd pandemig Covid-19 effaith sylweddol, hollbresennol a digynsail ar weithrediadau'r Post Brenhinol.
    • 2019/20: Nid oeddem wedi canfod bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio. Roedd y Post Brenhinol ar y trywydd iawn i gyrraedd ei dargedau cyn Covid-19, a gafodd effaith ar ei weithrediadau dros wythnosau olaf y flwyddyn ariannol. Yn unol â hynny, roeddem yn fodlon bod y cwmni wedi cyflawni ei rwymedigaethau rheoleiddiol.
    • 2018/19: Fe wnaethom roi dirwy o £1.5m i’r Post Brenhinol am fethu ei dargedau danfon Dosbarth Cyntaf.
Yn ôl i'r brig