Heddiw mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £5.6m i’r Post Brenhinol am fethu â chyflawni ei dargedau dosbarthu Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth yn y flwyddyn ariannol 2022/23.
O dan reolau Ofcom, bob blwyddyn mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith, a chwblhau 99.9% o’r llwybrau dosbarthu ar bob diwrnod y mae angen dosbarthiad.[1]
Yn 2022/23, dangosodd y canlyniadau perfformiad a adroddwyd gan y Post Brenhinol mai dim ond 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf a 90.7% o bost Ail Ddosbarth a ddosbarthwyd ar amser, a’i fod wedi cwblhau 89.35% o lwybrau dosbarthu ar bob diwrnod yr oedd angen dosbarthiad.
Gall Ofcom ystyried tystiolaeth a gyflwynir gan y Post Brenhinol ynghylch unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai esbonio pam ei fod wedi methu ei dargedau. Hyd yn oed ar ôl addasu perfformiad y Post Brenhinol ar gyfer effaith gweithredu diwydiannol, tywydd eithafol a chau rhedfa Stansted, dim ond 82% a 95.5% yn y drefn honno oedd ei berfformiad Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth.[2]
Mae hyn yn golygu bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau drwy fethu â chyrraedd ei dargedau o gryn dipyn a heb esboniad. Mae hyn wedi achosi niwed sylweddol i gwsmeriaid, ac nid yw'r Post Brenhinol wedi gweithredu'n ddigonol i geisio atal y methiant hwn.
Felly, rydym wedi penderfynu gosod dirwy o £5,600,000 ar y Post Brenhinol. Mae'r gosb yn cynnwys gostyngiad o 30% o'r gosb y byddem wedi'i gosod fel arall, gan adlewyrchu cydnabyddiaeth y Post Brenhinol o'i atebolrwydd a'i gytundeb i setlo'r achos. Mae'r gosb ariannol yn daladwy i Dâl-feistr Cyffredinol EF o fewn deufis.
Royal Mail’s role in our lives carries huge responsibility and we know from our research that customers value reliability and consistency.
Clearly, the pandemic had a significant impact on Royal Mail’s operations in previous years. But we warned the company it could no longer use that as an excuse, and it just hasn’t got things back on track since.
The company’s let consumers down, and today’s fine should act as a wake-up call – it must take its responsibilities more seriously. We’ll continue to hold Royal Mail to account to make sure it improves service levels.
Ian Strawhorne, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom
Blaenoriaethu a phroblemau o ran gweithrediad swyddfeydd dosbarthu
Fel rhan o'n hymchwiliad, bu i ni ystyried pryderon ynghylch sut y gellid blaenoriaethu parseli a llythyrau i'w dosbarthu.
Yn y dystiolaeth a aseswyd, ni wnaethom nodi unrhyw awgrym bod uwch reolwyr y Post Brenhinol wedi cyfarwyddo blaenoriaethu parseli dros lythyrau y tu allan i gynlluniau wrth gefn cydnabyddedig, megis yn ystod y pandemig ac yn ystod y gweithredu diwydiannol yn 2022/23.
Fodd bynnag, rydym yn pryderu yr ymddengys nad oes gan y Post Brenhinol ddigon o reolaeth, gwelededd a goruchwyliaeth dros benderfyniadau a wneir yn lleol mewn rhai swyddfeydd dosbarthu lle y gallai lefelau absenoldeb a swyddi gwag uchel fod wedi arwain at sefyllfa lle mae rheolwyr gweithrediadau cwsmeriaid – sy’n gyfrifol am swyddfeydd dosbarthu unigol – yn gwneud penderfyniadau "yn y fan a'r lle" am beth i'w ddosbarthu.
O ystyried lefelau absenoldeb a swyddi gwag uchel parhaus, ac oedi wrth godi lefelau gwasanaeth eto, rydym yn pryderu am weithrediad swyddfeydd dosbarthu, yr ydym yn ystyried ei fod yn hanfodol i'r Post Brenhinol gyflawni ei dargedau dosbarthu.
Rhaid i'r Post Brenhinol sicrhau bod ei reolwyr gweithrediadau cwsmeriaid yn derbyn hyfforddiant priodol, fel y gallant wneud penderfyniadau o'r fath. Byddwn yn cadw llygad barcud ar berfformiad y cwmni eleni, a’r camau y mae’n eu cymryd i ddychwelyd swyddfeydd dosbarthu i arferion cyn-Covid.
Caiff fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'n penderfyniad ei gyhoeddi maes o law.
Nodiadau i olygyddion
- Ac eithrio 'cyfnod y Nadolig', a ddiffinnir fel y cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr ac yn dod i ben ar ŵyl gyhoeddus y Flwyddyn Newydd ym mis Ionawr.
- Nid oedd unrhyw addasiadau arfaethedig i berfformiad y llwybrau dosbarthu a gwblhawyd, felly arhosodd hyn ar 89.35%.