Newidiadau danfon y Post Brenhinol

Cyhoeddwyd: 19 Ionawr 2022

Diweddariad 11 Awst 2021 – cyfnod rheoleiddio brys

O ganlyniad i ddechrau’r pandemig coronafeirws (Covid-19) ym mis Mawrth 2020 dechreuwyd 'cyfnod rheoleiddio brys' o dan Ddeddf Gwasanaethau Post 2011. Mae'r amodau rheoleiddio sy'n ymwneud â'r gwasanaeth post cyffredinol yn darparu nad yw'n ofynnol i'r Post Brenhinol gynnal y gwasanaethau hyn heb amhariadau, atal dros dro, na chyfyngiadau os bydd argyfwng.

Trwy gydol y pandemig, rydym wedi monitro’n agos ei effeithiau ar y Post Brenhinol, gan gynnwys cyfraddau absenoldeb sy’n uwch na’r arfer a heriau gweithredol wrth gydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol. Bu i ni graffu ar berfformiad y Post Brenhinol a'r mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i ddarparu gwasanaeth cystal ag y gallai i ddefnyddwyr post o dan yr amgylchiadau. Rydym yn croesawu'r perfformiad gwell o lawer dros y misoedd diwethaf, wrth i effeithiau Covid-19 gilio ac wrth i'r Post Brenhinol weithredu cynllun gwella.

O ystyried y gwelliannau hyn, ac yng ngoleuni'r gostyngiadau diweddar yn lefel y cyfyngiadau cyfreithiol ledled y DU, rydym o’r farn y dylid ystyried bod y cyfnod rheoleiddio brys yn dod i ben ar 31 Awst 2021. Yn unol â hynny, bydd trefniadau rheoleiddio arferol yn berthnasol o 1 Medi 2021. Bydd ein dull o fonitro cydymffurfiaeth yn parhau i fod yn bragmatig ac yn gymesur, gan ystyried unrhyw faterion perthnasol y tu hwnt i reolaeth y Post Brenhinol sy'n effeithio ar ei berfformiad, gan gynnwys unrhyw effeithiau parhaus o ganlyniad i’r pandemig.

Yn y cyfamser, fel y nodwyd yn ein Bwletin Cystadleuaeth a Gorfodi Defnyddwyr, rydym wedi adolygu perfformiad y Post Brenhinol yn erbyn ei dargedau ansawdd gwasanaeth yn ystod 2020/21 ac, yng ngoleuni effeithiau Covid-19 drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi penderfynu i beidio ag agor ymchwiliad.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad gan ddilyn adroddiadau am oedi i wasanaethau danfon y Post Brenhinol yn ystod y cynnydd diweddar yn yr achosion o'r coronafeirws.

“Mae'n amlwg bod hwn yn gyfnod anodd iawn i bobl ledled y wlad, gan gynnwys llawer o fusnesau a'u gweithluoedd. Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau sylweddol ar y Post Brenhinol - yn enwedig mewn wythnosau diweddar wrth i nifer yr achosion godi'n arw. Felly mae'n bwysig bod y cwmni'n cymryd pob cam angenrheidiol i gadw ei staff a'i gwsmeriaid yn ddiogel.

“Rydym wedi nodi bod hon yn sefyllfa frys o dan ein fframwaith rheoleiddio, sy'n golygu y gall y Post Brenhinol newid ei weithrediadau i reoli'r heriau y mae'n eu hwynebu, heb fod angen i Ofcom awdurdodi hyn yn ffurfiol. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad y Post Brenhinol yn ofalus, a byddwn yn aros mewn cysylltiad agos â'r cwmni i sicrhau ei fod yn darparu'r gwasanaethau gorau sy'n bosib.”

Cyhoeddodd y Post Brenhinol ar 28 Ebrill 2020 leihad dros dro yn amlder danfon llythyrau o chwech i bum diwrnod yr wythnos, gyda'r newid yn dileu dosbarthu llythyrau dydd Sadwrn. Bydd y Post Brenhinol yn parhau i sicrhau bod dosbarthu parseli a gwasanaethau dosbarthu arbennig yn cael eu darparu ar ddydd Sadwrn. Mae hyn mewn ymateb i faterion a achosir gan yr argyfwng Covid-19 presennol, gan gynnwys lefelau uchel o absenoldebau a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol.

Yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Post 2011, mae'r amodau rheoleiddio sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol ddosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, fel rhan o'r gwasanaeth post cyffredinol, hefyd yn nodi nad yw'n ofynnol i'r Post Brenhinol gynnal y gwasanaethau hyn heb darfu, atal na chyfyngu mewn argyfwng.

Yn y cyd-destun hwn, mae Ofcom yn cydnabod bod pandemig Covid-19 yn sefyllfa frys. Yn unol â hynny, mae'r fframwaith statudol yn caniatáu i'r Post Brenhinol addasu ei weithrediadau, gan gynnwys lleihau amlder dosbarthu llythyrau, heb awdurdodiad ffurfiol, os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol i ymateb i'r heriau brys y mae'n eu hwynebu o ran cynnal y gwasanaeth post cyffredinol.

Rydyn ni'n parhau i adolygu unrhyw fesurau sy'n cael eu gweithredu fel ymateb i'r argyfwng wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Diweddaru 15 Mehefin 2020

Mae'r Post Brenhinol wedi ail ddechrau dosbarthu llythyron dydd Sadwrn ers 13 Mehefin 2020.

Yn ôl i'r brig