Mae'r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad ynghylch rheoleiddio parhaus prisiau stampiau Ail Ddosbarth y Post Brenhinol.
Ym Mawrth 2012, fe wnaethon ni orfodi capiau prisiau ar lythyrau safonol Ail Ddosbarth. Cafodd y cap ei osod ar gyfer 2012/13 ar yr amod na fyddai'n cynyddu'n fwy na lefel chwyddiant (CPI) am saith mlynedd (y cyfnod rheoli). Yng Ngorffennaf 2012, cafodd y cap diogelu hwn ei gynyddu i lythyrau mawr a pharseli hyd at 2kg o bwysau. Fe wnaethon ni osod cap yn berthnasol i'r cynnyrch hyn, oedd wedi ei osod mewn termau real (ar CPI) ar gyfer y cyfnod rheoli. Rydyn ni'n cyfeirio at y capiau prisiau hyn drwy'r ddogfen fel 'capiau diogelu'.
Yn 2017, penderfynon ni y dylai'r dull gweithredu hyn o ran rheoleiddio a wnaethon ni sefydlu yn 2012 barhau yn ei le tan 2022. Roedd hyn yn cynnwys cadw'r capiau diogelu gan ein bod yn eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau bod gwasanaeth sylfaenol fforddiadwy ar gael i bawb; ac i sicrhau bod defnddwyr gwasanethau post, yn arbennig defnyddwyr bregus, yn cael eu hamddiffyn rhag gynnydd sylweddol mewn prisiau. Yn y datganiad hwnnw, fe ddywedon ni y bydden ni'n adolygu costau'r capiau diogelu yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19.
Rydyn ni bellach wedi cwblhau'r adolygiad ac wedi penderfynu codi lefel capiau diogelwch y llythyr safonol Ail Ddosbarth o 5% mewn termau real, i 65c o'r cyfnod 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.
Bydd terfyn uchaf y cap yn cael ei osod ar 65.2c o Ebrill 2019, ond rydyn ni'n nodi bod y Post Brenhinol yn codi prisiau mewn ceiniogau llawn ar gyfer cynnyrch Ail Ddosbarth. Felly wrth ddisgrifio lefel y cap yn ein datganiad rydyn ni'n defnyddio'r geiniog gyfan (65c).
Rydyn ni wedi penderfynu cadw'r lefelau presennol ar gyfer y cap basged (yn ei gynyddu drwy'r CPI) ar gyfer yr un cyfnod. Bydd y capiau yn sicrhau bod cynnyrch Ail Ddosbarth yn parhau i fod yn fforddiadwy i ddefnyddwyr tra'n rhoi lefel o ystwythder masnachol i'r Post Brenhinol. Bydd pob cap yn codi gyda lefel chwyddiant CPI yn flynyddol ar 1 Ebrill tan ddiwedd y cyfnod rheoli sef 31 Mawrth 2024.
Bydd ein penderfyniad yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
125 Princes Street
Edinburgh
EH2 4AD