Mae Ofcom wrthi’n gosod y sylfeini ar gyfer darparu cyngor ynghylch sut gallai fod angen i’r gwasanaeth post cyffredinol esblygu i adlewyrchu anghenion newidiol defnyddwyr gwasanaethau post yn well.
Nid yw’r gwasanaeth cyffredinol wedi newid ers gweithredu’r fframwaith presennol o dan Ddeddf Gwasanaethau Post 2011. Fodd bynnag, mae galw defnyddwyr am wasanaethau post wedi newid yn sylweddol, ac mae hynny’n parhau i ddigwydd.
Felly, mae Ofcom yn casglu tystiolaeth ynghylch sut gallai fod angen i’r gwasanaeth cyffredinol esblygu i ateb anghenion defnyddwyr yn well.
Byddwn yn nodi’r dystiolaeth hon yn fanwl yn ddiweddarach eleni – gan esbonio sut mae’r galw yn newid, yr heriau a’r costau o ddarparu’r gwasanaeth cyffredinol, opsiynau posibl ar gyfer newid yn y dyfodol a sut gallai’r rhain gael eu rheoli er mwyn sicrhau camau trosglwyddo hwylus i unrhyw drefniadau yn y dyfodol. Rydym yn annog mewnbwn gan bartïon â diddordeb ar ôl i’n cyhoeddiad ymddangos.
Yn y pen draw, mater i Lywodraeth a Senedd y DU fyddai penderfynu a oes angen unrhyw newidiadau i ofynion sylfaenol y gwasanaeth cyffredinol.
Beth yw’r gwasanaeth cyffredinol?
Mae’r gwasanaeth post cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Post Brenhinol ddanfon llythyrau chwe diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn) a pharseli pum diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener) i bob cyfeiriad yn y DU, am brisiau fforddiadwy sy’n unffurf ar draws y DU. Mae’r gofynion sylfaenol hyn wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, a dim ond Llywodraeth a Senedd y DU sy’n gallu gwneud unrhyw newidiadau iddynt.
Fel y rheoleiddiwr post, gwaith Ofcom yw sicrhau bod gwasanaeth post cyffredinol yn cael ei ddarparu, gan ystyried yr angen i’r gwasanaeth hwnnw fod yn gynaliadwy yn ariannol, ac yn effeithlon. Wrth fynd ati i reoleiddio, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall anghenion defnyddwyr gwasanaethau post.
Gallwn ni hefyd bennu nodweddion ychwanegol i’r gwasanaeth cyffredinol, fel y gofyniad am ddewis o wasanaeth Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth, a gosod targedau gorfodadwy ar y Post Brenhinol i ddanfon cyfran benodol o eitemau ar amser bob blwyddyn.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pwysigrwydd gwasanaethau post, ond mae’r ffordd mae pobl yn eu defnyddio yn newid, ac rydym yn disgwyl i’r tueddiadau hyn barhau.
Mae llythyrau’n bwysig i lawer ohonom o hyd, yn arbennig i’r rheini sy’n ei chael yn anodd dibynnu ar gyfathrebiadau a thrafodion electronig. Fodd bynnag, mae nifer y llythyrau rydym yn eu hanfon a’u derbyn wedi gostwng 46% dros y degawd diwethaf, wrth i bobl a busnesau wneud defnydd cynyddol o opsiynau amgen digidol. Ac wrth i nifer y llythyrau a ddanfonir bob dydd ostwng, mae cost gyfartalog y danfon yn cynyddu.
Ar yr un pryd, mae danfoniadau parseli wedi dod yn fwyfwy pwysig i’n bywydau bob dydd ac mae disgwyliadau defnyddwyr ohonynt yn newid.
Beth rydym yn ei ystyried a pham?
Nid y DU yn unig sy’n gweld galwadau defnyddwyr yn newid, gyda dibyniaeth gynyddol ar barseli a gostyngiad yn swmp y llythyrau. Mae llawer o wledydd o amgylch y byd yn adolygu sut dylai eu gwasanaeth post cyffredinol addasu yn unol ag anghenion defnyddwyr, pryderon am yr amgylchedd a’r angen i sicrhau bod pawb yn gallu cyfranogi’n llawn mewn cymdeithas, tra bod eraill eisoes wedi crebachu cwmpas eu gwasanaeth cyffredinol.
Y llynedd, cwblhaom ein hadolygiad diweddaraf o gamau rheoleiddio gwasanaethau post, a nododd ein fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau post o 2022 i 2027. Ers hynny, mae trafodaeth gyhoeddus gynyddol wedi bod am ddyfodol hirdymor y gwasanaeth cyffredinol.
Rydym yn credu, felly, bod hon yn adeg dda i ystyried dyfodol mwy hirdymor y gwasanaeth cyffredinol, cyn unrhyw adolygiad yn y dyfodol o’r fframwaith rheoleiddio.
Yn ogystal â chasglu mewnbwn gan ystod eang o bobl a sefydliadau o bob rhan o’r DU, bydd ein hadolygiad yn tynnu ar ein gwaith monitro presennol; ein hadolygiad cyfnodol o anghenion defnyddwyr; ein rhaglen reolaidd a’n rhaglen ysbeidiol o arolygon defnyddwyr; a chymariaethau rhyngwladol.