- Yr ail gosb mewn ychydig dros flwyddyn wrth i’r Post Brenhinol fethu gwella lefelau gwasanaeth yn sylweddol
- 74.7% o bost Dosbarth Cyntaf a 92.7% o bost Ail Ddosbarth wedi’i ddanfon mewn pryd, ymhell islaw’r targed o 93% a 98.5%
- Bydd Ofcom yn trosglwyddo’r ddirwy’n llawn i’r pwrs cyhoeddus
Mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £10,500,000 i’r Post Brenhinol heddiw am fethu cyrraedd ei dargedau danfon Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth ym mlwyddyn ariannol 2023/24.
Dyma’r eildro i’r cwmni dorri ei rwymedigaethau rheoleiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar ôl i ni roi dirwy o £5.6m iddo ym mis Tachwedd 2023 am ei berfformiad yn 2022/23.[1]
Sut rydym yn mesur perfformiad
Mae rheolau Ofcom yn mynnu bod y Post Brenhinol yn danfon 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i’w gasglu a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i’w gasglu, ym mhob blwyddyn ariannol. [2]
Os bydd y Post Brenhinol yn methu ei dargedau blynyddol, gallwn ystyried tystiolaeth o unrhyw amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth y cwmni – fel pandemig Covid-19 – ac a fyddai wedi cyrraedd ei dargedau pe na bai hynny wedi digwydd.
Canfyddiadau ein hymchwiliad
Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, dim ond 74.7% o bost Dosbarth Cyntaf a ddanfonodd y Post Brenhinol mewn pryd a 92.7% o bost Ail Ddosbarth. Roedd y cwmni’n dweud mai ei sefyllfa ariannol heriol oedd y rheswm am ei berfformiad gwael, ac oedi i’r bleidlais ar gytundeb a oedd yn dilyn gweithredu diwydiannol y flwyddyn flaenorol.
Nid ydym yn credu bod y naill reswm na’r llall yn rhesymau cyfiawn dros fethiant y Post Brenhinol i ddarparu’r lefelau gwasanaeth a ddisgwylir ganddo. Yn y pen draw, mater i’r cwmni yw rheoli ei sefyllfa ariannol gan ystyried ei rwymedigaethau.
Rydym felly wedi penderfynu bod y cwmni wedi torri ei rwymedigaethau drwy fethu darparu lefel dderbyniol o wasanaeth heb gyfiawnhad. Roedd y Post Brenhinol wedi cymryd camau annigonol ac aneffeithiol i geisio atal y methiant hwn, sy’n debygol o fod wedi effeithio ar filiynau o gwsmeriaid na chawsant y gwasanaeth roeddent wedi talu amdano.
Camau i wella perfformiad
Yn ogystal â rhoi dirwy i’r cwmni, rydym wedi bod yn pwyso ar y Post Brenhinol yn rheolaidd i gael gwybod beth mae’n ei wneud i weddnewid pethau. Er y bu rhywfaint o gynnydd, roedd ei berfformiad cyffredinol yn 2023/24 ychydig yn well na’r perfformiad a gofnodwyd yn 2022/23, ac mae angen iddo wneud yn well o lawer.
O leiaf, rydym yn disgwyl gweld cynllun clir a chredadwy sy’n cael ei rannu’n gyhoeddus sy’n nodi sut bydd y Post Brenhinol yn mynd yn ôl ar y trywydd iawn drwy welliannau ystyrlon, cynaliadwy a pharhaus i gwsmeriaid.
Ar ôl methu cyrraedd ei dargedau yn 2022/23, ni wnaeth y Post Brenhinol lunio cynllun gwella clir ar gyfer 2023/24. Ar ôl ymgysylltu ag Ofcom, roedd y cwmni wedi cyhoeddi diweddariad i’w gynlluniau gwella ym mis Mai eleni, ond rydym am iddo fynd ymhellach.
Cosb ariannol
Wrth benderfynu faint i ddirwyo cwmni, mae’n rhaid i ni ystyried beth sy’n briodol ac yn gymesur.
Wrth benderfynu ar lefel y ddirwy hon, rydym wedi ystyried y niwed a ddioddefodd cwsmeriaid o ganlyniad i wasanaeth gwael y Post Brenhinol. Mae gan Ofcom ddyletswydd hefyd i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy yn ariannol, felly rydym hefyd wedi ystyried y ffaith bod y Post Brenhinol wedi bod yn colli cannoedd o filiynau o bunnoedd.
Bydd y gosb ariannol o £10,500,000 yn cael ei throsglwyddo’n llawn i Drysorlys EM. Mae’r ddirwy’n cynnwys gostyngiad o 30% o’r £15,000,000 y byddem fel arall wedi’i roi, gan adlewyrchu cyfaddefiadau atebolrwydd y Post Brenhinol a chytundeb i setlo’r achos.
Gyda miliynau o lythyrau’n cyrraedd yn hwyr, dydy llawer gormod o bobl ddim yn cael yr hyn maen nhw’n talu amdano pan fyddan nhw’n prynu stamp. Mae gwasanaeth gwael y Post Brenhinol bellach yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd yn un o sefydliadau hynaf y DU.
yma’r ail dro i ni roi dirwy i’r cwmni ers y pandemig. Mae’r Post Brenhinol wedi darparu cynllun gwella, ac rydym yn gweld rhai arwyddion o gynnydd, ond mae’n rhaid iddo fynd ymhellach ac yn gyflymach i ddarparu’r gwasanaeth mae pobl yn ei ddisgwyl.
- Ian Strawhorne, Cyfarwyddwr Gorfodi
Bydd fersiwn heb fod yn gyfrinachol o’n penderfyniad llawn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
[1] Nid oedd y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio yn 2019/20, 2020/21 na 2021/22, oherwydd effaith pandemig Covid-19 ar weithrediadau’r cwmni, a oedd y tu hwnt i’w reolaeth.
[2] Heb gynnwys ‘cyfnod y Nadolig’, sy’n cael ei ddiffinio fel y cyfnod sy’n dechrau ar y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr ac sy’n dod i ben ar wyliau cyhoeddus y Flwyddyn Newydd yn y mis Ionawr canlynol.