Ymchwiliad i ansawdd perfformiad gwasanaeth y Post Brenhinol yn 2023/24

Cyhoeddwyd: 13 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 21 Ionawr 2025

Ar agor

Ymchwiliad i

Royal Mail Group Limited (Royal Mail)

Achos wedi’i agor

24 Mai 2024

Crynodeb

Bydd yr ymchwiliad hwn yn edrych ar gydymffurfiad y Post Brenhinol ag ansawdd ei dargedau perfformiad gwasanaeth, a osodwyd ar Ddarparwr Gwasanaeth Cyffredinol Dynodedig (DUSP) amod 1.9.1, yn ystod 2023/24.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

DUSP condition 1.9.1, and Schedule 7 to the Postal Services Act 2011

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, mae Ofcom heddiw wedi cyflwyno Penderfyniad i’r Post Brenhinol sy’n canfod ei fod wedi mynd yn groes i amod 1.9.1 y Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol Dynodedig (DUSP) drwy beidio â chyrraedd y targedau cenedlaethol ar gyfer post dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth yn ystod 2023/24. Rydym hefyd wedi penderfynu rhoi cosb ariannol i’r Post Brenhinol am y tor-amod hwn. 

Mae gan Ofcom ddisgresiwn i addasu mesur perfformiad y Post Brenhinol i ystyried effaith digwyddiadau sy’n eithriadol ym marn Ofcom, ac sydd wedi effeithio ar ei berfformiad. Fodd bynnag, at ddibenion yr ymchwiliad hwn, nid oeddem yn credu ei bod yn briodol gwneud addasiadau o’r fath.

Mae hyn yn golygu, gan gynnwys y cyfwng hyder, bod y Post Brenhinol wedi:

  • Cyflawni 74.7% yn erbyn targed o 93% ar gyfer post Dosbarth Cyntaf, sy’n golygu ei fod 18.3 pwynt canran yn is na’r targed Dosbarth Cyntaf.
  • Cyflawni 92.7% yn erbyn targed o 98.5% ar gyfer post Ail Ddosbarth, sy’n golygu ei fod 5.8 pwynt canran yn is na’r targed Ail Ddosbarth.

Er bod gwelliannau i’w croesawu ym mherfformiad y Post Brenhinol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024 (chwarter olaf y cyfnod), nid oedd hyn yn ddigon i atal tor-amod sylweddol. Yn y pen draw, roedd hyn yn golygu bod defnyddwyr wedi cael gwasanaeth annibynadwy o ansawdd gwael, nad oedd wedi gwella fawr ddim o’i gymharu â pherfformiad y flwyddyn flaenorol – blwyddyn lle cafwyd aflonyddwch sylweddol, gan gynnwys 18 diwrnod o streicio.

Mae cydymffurfio â thargedau perfformiad yn fater difrifol iawn i Ofcom ac mae wedi rhoi cosb ariannol o £10.5 miliwn i’r Post Brenhinol. Rydym yn credu bod y gosb hon, a gafodd ei gosod yn unol â’n Canllawiau Cosbau, yn briodol ac yn gymesur, ac y bydd yn rhoi cymhelliant clir i’r Post Brenhinol wella canlyniadau i ddefnyddwyr yn gyson. O leiaf, rydym yn disgwyl gweld cynllun clir a chredadwy a gaiff ei rannu’n gyhoeddus, sy’n nodi sut bydd y Post Brenhinol yn mynd ati i wella. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cyflawni gwelliannau ystyrlon, cynaliadwy a pharhaus.

Mae swm y gosb yn cynnwys gostyngiad o 30% o’r gosb y byddai Ofcom wedi’i gosod fel arall. Mae’r gostyngiad yn adlewyrchu bod y Post Brenhinol wedi cyfaddef ei atebolrwydd ac wedi cytuno i setlo, sydd wedi galluogi Ofcom i ddod â’r mater hwn i ben yn gyflymach.

Ceir rhagor o fanylion yn ein canolfan newyddion.

Bydd fersiwn heb fod yn gyfrinachol o’n penderfyniad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Heddiw mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i gydymffurfiad y Post Brenhinol ag ansawdd ei dargedau perfformiad gwasanaeth yn ystod 2023/24.

Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad gwasanaeth o ansawdd penodol wrth ddarparu cynhyrchion gwasanaeth cyffredinol. Ymhlith targedau eraill, rhaid i'r Post Brenhinol:

  • ddosbarthu 93% o'r post dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu; a
  • ddosbarthu 98.5% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu

Mae perfformiad yn erbyn y targedau hyn yn cael ei fesur fel lefel perfformiad ar gyfartaledd yn flynyddol ac eithrio cyfnod y Nadolig.

Ar 24 Mai 2024, cyhoeddodd y Post Brenhinol nad oedd yn cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn ystod cyfnod 2023/24, gan ei fod yn:

  • dosbarthu 74.5% o'r post dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu; a
  • dosbarthu 92.4% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu

Mae Ofcom yn cymryd cydymffurfiaeth ag ansawdd y targedau gwasanaeth o ddifrif. Yng ngoleuni perfformiad y Post Brenhinol, bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio:

  • a oes sail resymol dros gredu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan amod DUSP 1.9.1 mewn perthynas â chyfnod rheoleiddio 2023/24, gan ystyried effaith unrhyw ddigwyddiadau y mae Ofcom yn eu hystyried yn eithriadol ac a effeithiodd ar berfformiad y Post Brenhinol;
  • y camau y mae'r Post Brenhinol wedi'u cymryd i wella ei berfformiad ers i'n hymchwiliad ar gyfer 2022/23 ddod i ben ac unrhyw effeithiau y mae'r camau hyn wedi'u cael ar ansawdd y gwasanaeth. Yn benodol, byddwn yn ystyried yr hyn y mae'r Post Brenhinol wedi'i wneud i wella ei reolaeth, ei gwelededd a'i oruchwyliaeth o swyddfeydd dosbarthu; a
  • lle mae methiant, a yw'n briodol gosod cosb ariannol ar y Post Brenhinol am y methiant hwnnw, a lefel unrhyw gosb.

Cyswllt

Enforcement team (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01285/05/24

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig