Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad heddiw i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu ar gyfer 2022/23.
O dan ein rheolau, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad penodol dros y flwyddyn, ac eithrio cyfnod y Nadolig. Ymysg targedau eraill, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol wneud y canlynol:
- dosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu;
- dosbarthu 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu;
- cwblhau 99.9% o lwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthu post.
Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi heddiw nad oedd wedi cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2022/23, gan ei fod wedi gwneud y canlynol:
- dosbarthu 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith;
- dosbarthu 90.7% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith;
- cwblhau 89.35% o lwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthu post.
Mae ansawdd gwasanaeth yn bwysig iawn i Ofcom. Wrth benderfynu a yw’r cwmni wedi mynd yn groes i’w rwymedigaethau, byddwn yn ystyried a fu unrhyw ddigwyddiadau eithriadol – y tu hwnt i reolaeth y cwmni – a allai egluro pam ei fod wedi methu ei dargedau.
Os nad oes esboniad boddhaol ar gael, a’n bod yn penderfynu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau, efallai y byddwn yn ystyried a ddylid gosod cosb ariannol.
Y llynedd, fe wnaethom rybuddio’r cwmni na allai ddefnyddio dylanwad Covid-19 fel esgus dros berfformiad gwael o ran dosbarthu.