Heddiw, rydym wedi agor ymchwiliad i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
O dan rheolau Ofcom, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol ddosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i’w gasglu a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i’w gasglu.
Fodd bynnag, ar draws 2021/22, dim ond 81.8% o bost Dosbarth Cyntaf a ddosbarthwyd o fewn un diwrnod gwaith a 95.4% o bost Ail Ddosbarth cafodd ei ddosbarthu o fewn tri diwrnod gwaith.
Yn ogystal, gosodir targed i'r Post Brenhinol o gwblhau 99.9% o'r llwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthiad. Cwblhaodd 94.09% o lwybrau dros y cyfnod hwn.
Hefyd mae angen i’r Post Brenhinol ddosbarthu 91.5% o gynhyrchion Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith yn 118 ardal cod post yn y DU, ond ni chyrhaeddodd y targed yn unrhyw un o’r ardaloedd cod post hyn.
Caiff perfformiad yn erbyn y targedau hyn ei fesur fel lefel perfformiad gyfartalog yn flynyddol ac eithrio cyfnod y Nadolig.
Mae Ofcom yn ystyried bod cydymffurfiaeth â thargedau ansawdd targedau yn fater tra difrifol. Bydd ein hymchwiliad yn casglu tystiolaeth i ddeall y rhesymau dros y diffyg sylweddol hwn mewn perfformiad, ac yn penderfynu a yw’r Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau.