Ymchwiliad i berfformiad ansawdd gwasanaeth y Post Brenhinol yn 2022/23

Cyhoeddwyd: 9 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 9 Ionawr 2024

Ar gau

Ymchwiliad i

Royal Mail Group Limited (Y Post Brenhinol)

Achos wedi’i agor

15 Mai 2023

Achos ar gau

13 Tachwedd 2023

Crynodeb

Ymchwiliwyd i weld a yw’r Post Brenhinol wedi cydymffurfio â’i dargedau perfformiad ansawdd gwasanaeth, a osodwyd ar y Post Brenhinol yn amod 1.9.1 y Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol Dynodedig yn ystod 2022/23.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amod 1.9.1 y Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol Dynodedig, ac Atodlen 7 i'r Ddeddf Gwasanaethau Post 2011

Heddiw mae Ofcom wedi paratoi fersiwn anghyfrinachol o'r Penderfyniad a roddwyd i'r Post Brenhinol ar 13 Tachwedd 2023.

Ansawdd Gwasanaeth y Post Brenhinol 22-23 - penderfyniad terfynol (PDF, 591.3 KB) (Saesneg yn unig).

Yn dilyn ein hymchwiliad mae Ofcom wedi rhoi Penderfyniad i'r Post Brenhinol heddiw. Canfu Ofcom fod y Post Brenhinol wedi gweithredu'n groes i amod DUSP 1.9.1 drwy fethu â chyrraedd y targedau dosbarth cyntaf, ail ddosbarth a llwybrau dosbarthu cenedlaethol ar gyfer 2022/23. Mae'r Penderfyniad hefyd yn nodi ein dyfarniad i osod cosb ariannol ar y Post Brenhinol am ei fethiant i gyrraedd y targedau perfformiad dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth cenedlaethol.

Mae gan Ofcom ddisgresiwn i addasu perfformiad y Post Brenhinol i gymryd effaith digwyddiadau y mae Ofcom yn ystyried eu bod yn eithriadol ac sydd wedi effeithio ar ei berfformiad i ystyriaeth. Ar ôl addasu perfformiad y Post Brenhinol i ystyried effaith gweithredu diwydiannol, cau rhedfa Stansted a'r gwres eithafol ym mis Gorffennaf, methodd y Post Brenhinol o hyd â chyrraedd y targedau uchod o gryn dipyn heb esboniad.

Gyda'r addasiad:

  • Roedd uchafswm perfformiad cenedlaethol dosbarth cyntaf y Post Brenhinol yn 82% (sy'n disgyn islaw'r targed 93.0%);
  • Roedd uchafswm perfformiad cenedlaethol ail ddosbarth y Post Brenhinol yn 95.5% (sy'n disgyn islaw'r targed 98.5%); ac
  • Roedd targed dyddiol uchaf y Post Brenhinol ar gyfer llwybrau dosbarthu a gwblhawyd yn 89.35% (sy'n disgyn islaw'r targed o 99.90).

Mae Ofcom yn ystyried cydymffurfiaeth â thargedau perfformiad fel mater o'r pwys pennaf ac wedi gosod cosb ariannol o £5.6 miliwn ar y Post Brenhinol. Rydym o'r farn bod y gosb hon, a osodwyd yn unol â'n Canllawiau Cosbau, yn briodol ac yn gymesur â difrifoldeb yr achos hwn o dorri'r rheolau. Mae hefyd yn bwysig cymell y Post Brenhinol i wella ei berfformiad Ansawdd Gwasanaeth er mwyn darparu'r gwasanaeth i gwsmeriaid y maent wedi talu amdano ac y gallant ddibynnu arno.

Mae’r gosb hefyd yn cynnwys gostyngiad o 30% o’r gosb y byddai Ofcom wedi’i gosod fel arall. Mae'r gostyngiad yn adlewyrchu cydnabyddiaeth y Post Brenhinol o'i atebolrwydd a'i gytundeb i setlo sydd wedi galluogi Ofcom i ddod â'r mater hwn i ben yn gyflymach.

Yn ogystal â chanfyddiad ynghylch torri rheolau, rydym wedi nodi pryder penodol ynghylch gweithrediad swyddfeydd dosbarthu, sydd yn ein barn ni yn hanfodol i’r Post Brenhinol gyflawni ei rwymedigaethau Ansawdd Gwasanaeth. Ymhlith y materion yw'r angen i ddychwelyd swyddfeydd dosbarthu i arferion cyn-Covid, a chlirio post bob dydd, a darparu hyfforddiant a chymorth priodol i reolwyr swyddfeydd dosbarthu sy'n chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau mewn swyddfeydd lleol. Rydym yn arbennig o bryderus am y materion hyn yng ngoleuni’r lefelau absenoldeb uchel a nifer y swyddi gwag yn 2022/23 a olygodd efallai yr oedd angen gwneud penderfyniadau “yn y fan a'r lle” yn aml ynghylch beth i’w ddosbarthu, mewn amgylchiadau lle yr ymddengys nad oes gan y Post Brenhinol reolaeth, gwelededd a throsolwg digonol dros y broses benderfynu leol hon.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn ein datganiad i'r wasg.

Caiff fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'n penderfyniad ei gyhoeddi maes o law.

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i gydymffurfiaeth y Post Brenhinol â'i dargedau perfformiad o ran ansawdd gwasanaeth yn ystod 2022/23.

Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad ansawdd gwasanaeth penodol wrth ddarparu cynhyrchion gwasanaeth cyffredinol. Ymhlith targedau eraill, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol:

  • dosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu;
  • dosbarthu 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu; a
  • chwblhau 99.9% o'r llwybrau dosbarthu ar bob diwrnod y mae dosbarthiadau'n ofynnol.

Mesurir perfformiad yn erbyn y targedau hyn fel lefel perfformiad gyfartalog ar sail flynyddol ac eithrio dros gyfnod y Nadolig.

Ar 15 Mai 2023, cyhoeddodd y Post Brenhinol na fu iddo gyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2022/23, gan ei fod wedi:

  • dosbarthu 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith;
  • dosbarthu 90.7% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith; a
  • chwblhau 89.35% o'r llwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthiad.

Mae Ofcom yn ystyried bod cydymffurfiaeth â thargedau ansawdd targedau yn fater o'r pwys pennaf. Yng ngoleuni'r perfformiad a adroddwyd gan y Post Brenhinol, bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio:

  • a oes sail resymol dros gredu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan amod DUSP 1.9.1 mewn perthynas â chyfnod rheoleiddio 2022/23, gan gymryd effaith unrhyw ddigwyddiadau y mae Ofcom yn ystyried eu bod yn eithriadol ac yr effeithiwyd arnynt perfformiad y Post Brenhinol i ystyriaeth; a
  • phan fo methiant, p'un a allai fod yn briodol gosod cosb ariannol ar y Post Brenhinol am y methiant hwnnw, ynghyd â lefel unrhyw gosb.

Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01271/04/23

Yn ôl i'r brig