Ymchwiliad i berfformiad Ansawdd Gwasanaeth y Post Brenhinol yn 2021/22

Cyhoeddwyd: 2 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd diwethaf: 3 Ionawr 2024

Ar gau

Ymchwiliad i

Royal Mail Group Limited ("Royal Mail")

Achos wedi’i agor

31 Mai 2022

Achos ar gau

1 Ionawr 2018

Crynodeb

Yn sgil ymchwiliad, rydym wedi penderfynu na fyddai'n briodol i ddyfarnu bod y Post Brenhinol wedi torri ei dargedau perfformiad ansawdd gwasanaeth ar gyfer 2021-22

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amod DUSP 1.9.1, ac Atodlen 7 Deddf Gwasanaethau Post 2011

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei phenderfyniad na fyddai'n briodol dyfarnu bod y Post Brenhinol wedi torri ei dargedau ansawdd gwasanaeth (QoS) ar gyfer cyfnod rheoleiddio 2021/22.

Gall Ofcom ystyried tystiolaeth a gyflwynir gan y Post Brenhinol ynghylch unrhyw ddigwyddiadau eithriadol, sydd y tu hwnt i reolaeth y cwmni, a allai esbonio pam ei fod wedi methu ei dargedau. A ninnau wedi archwilio cyflwyniad y Post Brenhinol, rydym yn cydnabod, am ran helaeth o 2021/22, bod Covid-19 wedi parhau i gael effaith sylweddol, treiddiol a digynsail ar weithrediadau'r Post Brenhinol. Roedd hyn yn cynnwys:

  • newidiadau annisgwyl yng nghymysgedd y traffig (h.y. meintiau anarferol o uchel o barseli a meintiau is o lythyrau);
  • cynnydd nad oedd modd ei ddarogan mewn absenoldebau staff; a
  • heriau parhaus a achoswyd gan fesurau cadw pellter cymdeithasol.

Yn ein barn ni, oni bai am effeithiau Covid-19, byddai lefelau perfformiad y Post Brenhinol wedi bod yn sylweddol uwch, ac mae'n bosib y gallai fod wedi cyrraedd ei dargedau. Gan hynny, ac fel y nodir uchod, bu i ni benderfynu nad oedd yn briodol dyfarnu bod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddio ar gyfer 2021/22.

Mae manylion llawn ein penderfyniad i'w gweld yn y ddogfen penderfyniad anghyfrinachol (PDF, 271.5 KB) a gyhoeddir heddiw.

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad ar ei menter ei hun i gydymffurfiaeth y Post Brenhinol â'i dargedau perfformiad o ran ansawdd gwasanaeth yn ystod 2021/22.

Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad penodol o ran ansawdd gwasanaeth wrth ddarparu cynhyrchion gwasanaeth cyffredinol. Ymhlith targedau eraill, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol:

  • cwblhau 99.9% o'r llwybrau dosbarthu ar bob diwrnod y mae dosbarthiadau'n ofynnol;
  • dosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu;
  • dosbarthu 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu; a
  • mewn perthynas â phost wedi'i stampio a'i fesuro, darparu 91.5% o gynhyrchion Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith ym mhob ardal cod post yn y DU (ar wahân i dair ardal cod post eithriedig).

Mesurir perfformiad yn erbyn y targedau hyn fel lefel perfformiad gyfartalog ar sail flynyddol ac eithrio dros gyfnod y Nadolig.

Ar 10 Mai 2022, cyhoeddodd y Post Brenhinol na fu iddo gyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2021/22, gan ei fod:

  • wedi cwblhau 94.09% o'r llwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod yr oedd angen dosbarthiad;
  • dosbarthu 81.8% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith;
  • dosbarthu 95.4% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith; a
  • heb gyrraedd y targed ardal cod post yn unrhyw un o'r 118 o ardaloedd cod post.

Mae Ofcom yn ystyried bod cydymffurfiaeth â thargedau ansawdd targedau yn fater tra difrifol. Yng ngoleuni'r perfformiad a adroddwyd gan y Post Brenhinol, bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan amod DUSP 1.9.1 mewn perthynas â'r flwyddyn 2021/22.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01260/05/22

Yn ôl i'r brig