Cyhoeddwyd:
7 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf:
3 Gorffennaf 2023
Mae'r Llys Apêl wedi gwrthod apêl y Post Brenhinol yn erbyn penderfyniad Ofcom yn 2018 o roi dirwy o £50 miliwn i'r Post Brenhinol am dorri cyfraith cystadleuaeth.
Dywedodd Llefarydd ar ran Ofcom: "Rydym yn croesawu penderfyniad clir y Llys. Rhaid i bob cwmni ddilyn y rheolau, ac roedd ymddygiad y Post Brenhinol yn annerbyniol – yn enwedig gan ei fod yn rhwystro’r manteision i ddefnyddwyr post a allai wedi dod o gystadleuaeth effeithiol."