Mae pobl sy’n derbyn parseli'n profi lefelau bodlonrwydd sylweddol wahanol gan ddibynnu ar ba gwmni parseli sy’n danfon eu pecyn, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.
Mae Adroddiad Monitro'r Post blynyddol Ofcom yn nodi data a thueddiadau allweddol yn y sector post, gan gynnwys profiadau pobl o anfon a derbyn post.
Dywed dau draean (65%) o bobl fod y post yn bwysig iddynt o ran cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, er bod hyn yn ostyngiad o dri chwarter (75%) y llynedd. Dywed wyth o bob 10 (79%) fod yna bethau y bydd angen bob amser iddynt eu hanfon drwy’r post, ond mae hyn yn ostyngiad o 84% y llynedd.
Er bod wyth o bob 10 derbynnydd parseli (78%) yn fodlon ar ddanfoniadau gan gwmnïau parseli ar gyfartaledd, mae dau draean (65%) wedi cael problem gyda danfoniad yn ystod y chwe mis blaenorol. Mae’r cwynion mwyaf cyffredin yn ymwneud ag oedi wrth ddanfon, parseli’n cael eu gadael mewn lleoliad amhriodol, dim digon o amser i ateb y drws neu’r gyrrwr danfon heb gnocio’n ddigon uchel.
Eleni, rydym wedi cryfhau ein rheoliadau i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg gan gwmnïau parseli. Rydym yn monitro gweithrediad y mesurau diogelu newydd hyn yn agos ac wedi ehangu ein hymchwil ddefnyddwyr i bennu gwaelodlin ar gyfer profiadau pobl o anfon a derbyn parseli.
Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu’n agos â chwmnïau i ddeall y newidiadau y maent wedi’u gwneud i weithredu ein rheolau a’n canllawiau newydd. Os na fyddwn yn gweld gwelliannau sylweddol yn y gwasanaeth i gwsmeriaid, byddwn yn ystyried a oes angen camau gorfodi neu dynhau rheoleiddio ymhellach. Gallwn hefyd gymryd camau gorfodi os nad yw cwmnïau’n cydymffurfio â’n rheolau newydd.
Cymharu cludwyr
Os bydd rhywun yn prynu rhywbeth ar-lein a bod eu parsel wedi’i ddifrodi neu os nad yw’n cyrraedd, efallai y bydd modd gofyn i'r manwerthwr ar-lein wneud iawn am hynny o dan gyfraith defnyddwyr. Wedi hynny gall yr anfonwr ofyn i'r cwmni parseli wneud iawn, ac weithiau mae'n bosib y bydd angen i dderbynnydd gysylltu â'r gweithredwr parseli.
Nododd ein hymchwil fod llai na hanner y derbynyddion parseli sy’n cysylltu â’r cwmni parseli'n fodlon â’r broses gysylltu (41%), y modd yr ymdriniwyd â’u cwyn (43%) a’r datrysiad o'u problem (47%).
Mae amrywiad sylweddol rhwng gweithredwyr parseli – Amazon, DHL, FedEx ac UPS sydd â’r lefelau bodlonrwydd uchaf yn y tri maes hyn, ac Evri ac Yodel sydd â’r lefelau bodlonrwydd isaf.
Mae gweithredwyr parseli wedi gwneud nifer o welliannau i brosesau ymdrin â chwynion eleni wrth i'n mesurau diogelu newydd ddod i rym. Mae hyn yn cynnwys gwell gwybodaeth ar eu gwefannau; gwelliannau i linellau ffôn a sgwrs fyw; a darparu opsiynau i gwsmeriaid ofyn am e-bost neu alwad yn ôl.
Ar draws y ddwy don o ymchwil ddefnyddwyr a gynhaliwyd gennym eleni, ceir arwyddion cychwynnol o welliant ym mhrofiad cwsmeriaid mewn rhai meysydd. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd ac yn darparu diweddariad pellach yn Adroddiad Monitro'r Post blynyddol y flwyddyn nesaf.
Y Post Brenhinol a'r gwasanaeth cyffredinol
Mae'r adroddiad heddiw hefyd yn archwilio perfformiad ariannol ac effeithlonrwydd y Post Brenhinol fel y darparwr gwasanaeth cyffredinol.
Y llynedd, gostyngodd cyfeintiau parseli'r Post Brenhinol a chollodd gyfran o'r farchnad parseli. Dirywiodd refeniw hefyd a gostyngodd maint yr elw yn sylweddol. Hefyd, mae gennym bryderon o hyd am allu’r Post Brenhinol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd digonol, ac, o ystyried perfformiad diweddar a’r risgiau a’r ansicrwydd hyn, mae ein pryderon ynghylch cynaladwyedd hirdymor y gwasanaeth cyffredinol wedi cynyddu ymhellach ers y llynedd.
O ystyried bod galw defnyddwyr am wasanaethau post yn newid yn sylweddol, mae Ofcom yn cywain tystiolaeth is gathering evidence i bennu a oes angen i’r gwasanaeth cyffredinol esblygu i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well. Byddwn yn cyhoeddi ein dadansoddiad yn rhan gyntaf y flwyddyn nesaf.Yn y pen draw, Llywodraeth a Senedd y DU fyddai’n penderfynu a oes angen unrhyw newidiadau i isafswm gofynion y gwasanaeth cyffredinol.