Sut mae cwyno am wasanaethau post
Er mai gwaith Ofcom yw rheoleiddio’r diwydiant post, ni allwn ymchwilio i gwynion unigol am gwmnïau post a pharseli.
Os oes gennych broblem gyda'ch gwasanaeth post neu barseli, dylech gwyno wrth y cwmni'n uniongyrchol. Rhaid i bob cwmni fod â threfn gwyno y gallwch ei dilyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen cwynion.
Problemau
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cwsmeriaid y Post Brenhinol i gyflwyno hawliad am iawndal.
Mae’r Post Brenhinol yn rhoi hawl i gwsmeriaid gael swm penodol o iawndal am bost manwerthu (e.e. post wedi’i stampio neu ei ffrancio gan gynnwys Danfoniad Arbennig wedi’i Warantu a Llofnodi) sy’n cael ei golli, ei ddifrodi neu ei ohirio.
- Ar gyfer eitemau sy’n cael eu postio gyda’r Post Brenhinol heb werth cynhenid neu lle na all hawlydd ddarparu prawf o bostio, bydd iawndal am golled, difrod ac oedi o leiaf chwe stamp llythyr safonol Dosbarth Cyntaf.
- Ar gyfer eitemau sy’n cael eu postio gyda’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau safonol Dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth, sy’n cael eu colli neu eu difrodi, sydd â gwerth cynhenid, gyda phrawf o’u postio a phrawf o’u gwerth (fel anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad am bostio a iawndal am golled go iawn hyd at werth yr eitem, neu £20, pa un bynnag yw’r isaf.
- Ar gyfer eitemau sy’n cael eu postio gyda’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau Llofnodi, sy’n cael eu colli neu eu difrodi, sydd â gwerth cynhenid, gyda phrawf o bostio a phrawf o werth (fel anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad postio ynghyd ag iawndal am wir golled hyd at werth yr eitem, neu £50, pa un bynnag yw’r isaf.
- Ar gyfer eitemau sy’n cael eu postio gyda’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau Danfon Arbennig, sy’n cael eu colli neu eu difrodi, sydd â gwerth cynhenid, gyda phrawf o bostio a phrawf o werth (fel anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad postio ynghyd â’r iawndal am golled wirioneddol hyd at werth yr eitem, neu’r gwerth sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch Danfon Arbennig a brynwyd, pa un bynnag yw’r isaf.
Bydd iawndal am bost manwerthu sydd wedi’i oedi yn dod yn daladwyd dri diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad danfon pryd y dylai gyrraedd.
Taliadau o £5 a £10 am oedi ac oedi sylweddol ar gyfer Danfon Arbennig (heb eu postio ar gyfrif).
Mae post manwerthu wedi’i ailgyfeirio yn gymwys i gael iawndal am oedi.
Gall defnyddwyr y gwasanaeth Eitemau i’r Deillion hawlio iawndal am golled, difrod ac oedi.
O ran eitemau a gollwyd, ni ystyrir bod post ar goll tan 15 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Post Brenhinol.
Mae’r Post Brenhinol yn dewis ei amseroedd casglu a dosbarthu ei hun. Nid yw Ofcom yn rheoleiddio’r amseroedd hyn.
Fodd bynnag, rhaid i’r Post Brenhinol ddweud wrth Ofcom os yw’n bwriadu newid ei amseroedd dosbarthu, a chyhoeddi’r newidiadau ar ei wefan.
Nod y Post Brenhinol yw cwblhau’r dosbarthu erbyn 3pm mewn ardaloedd trefol ac erbyn 4pm mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Post Brenhinol yn ceisio cynnal hyn bob diwrnod gwaith, ond mae amrywiadau o ran niferoedd, tarfu ar drafnidiaeth a phroblemau gweithredu yn golygu y gall fod adegau pan fydd eitemau’n cyrraedd yn hwyr.
Os yw eich eitemau yn cyrraedd yn hwyrach na’r amseroedd a nodwyd yn gyson, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid y Post Brenhinol.
Mae cynlluniau optio allan ar gael i helpu i leihau faint o bost diangen rydych chi’n ei dderbyn.
Post â chyfeiriad arno
Ar gyfer post sydd â chyfeiriad arno, cysylltwch â’r Gwasanaeth Dewis Post (MPS) i dynnu eich cyfeiriad oddi ar restrau postio. Gallwch ffonio’r MPS ar 020 7291 3310.
Nodwch, os gwelwch yn dda, y gall gymryd hyd at bedwar mis i’ch cyfeiriad gael ei dynnu oddi ar rai rhestrau postio.
Post neu daflenni heb gyfeiriad
Os ydych chi eisiau atal post neu daflenni heb gyfeiriad rhag cael eu danfon i’ch cartref gan y Post Brenhinol, yna bydd angen i chi ofyn i’r Post Brenhinol eich ‘optio allan’ o’r gwasanaeth Drws i Ddrws. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Post Brenhinol.
Fel rhan o’i rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, rhaid i’r Post Brenhinol ddanfon i bob cyfeiriad yn y DU, bob dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Ond ar gyfer rhai cyfeiriadau, nid yw’n bosibl i’r Post Brenhinol ddanfon post hyd at y drws. Os felly, rhaid i’r Post Brenhinol ddweud wrthych na all ddanfon i’ch cyfeiriad ac egluro pam nad yw’n bosibl gwneud hynny. Rhaid i chi hefyd gael gwybod am y trefniadau danfon amgen y mae’r Post Brenhinol wedi’u gwneud ar eich cyfer, a sut i apelio yn erbyn ei benderfyniad.
Os byddwch chi’n cael yr hysbysiad hwn ac nad ydych chi’n fodlon â’r penderfyniad neu’r trefniadau danfon amgen y mae’r Post Brenhinol wedi’u gwneud, gallwch apelio’n ffurfiol yn erbyn y penderfyniad hwn gyda’r Post Brenhinol.
Os nad ydych yn hapus â chanlyniad eich apêl, gallwch ofyn am ail adolygiad. Ac os ydych chi’n dal yn anhapus â phenderfyniad y Post Brenhinol ar ôl ail adolygiad, dylid cyfeirio eich achos at Ofcom i’w ystyried.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae apelio i’w chael ar wefan y Post Brenhinol.
Danfoniadau a thaliadau
Danfoniad Arbennig wedi’i Warantu yw cynnyrch brys ac wedi’i yswirio’r Post Brenhinol, gyda gwarant y caiff ei ddosbarthu erbyn 9am neu 1pm y diwrnod canlynol.
Mae’n cynnwys system olrhain ar-lein a phrawf electronig o ddarpariaeth a iawndal hyd at £500 neu werth yr eitem, pa un bynnag yw’r isaf. Os ydych chi angen i rywbeth gael ei ddosbarthu erbyn y diwrnod canlynol (gyda rhai eithriadau daearyddol) dyma’r gwasanaeth i’w ddefnyddio.
Mae’r gwasanaeth ‘Llofnodi’ yn darparu prawf o bostio, llofnod wrth ddanfon i’r cyfeiriad (nid y derbynnydd o reidrwydd) a chadarnhad ar-lein bod eich eitem wedi cyrraedd. Mae’n cynnwys uchafswm o £50 o iawndal. Os ydych chi eisiau’r tawelwch meddwl o wybod bod eich eitem wedi cael ei danfon i’r cyfeiriad ond nid i’r derbynnydd, dyma’r gwasanaeth i’w ddefnyddio, ond cofiwch nad yw’r gwasanaeth hwn yn cynnwys amser danfon wedi’i warantu ac na ddylid ei ddefnyddio ar gyfer eitemau gwerthfawr.
Mae gwasanaeth ailgyfeirio'r Post Brenhinol yn caniatáu i gwsmeriaid ailgyfeirio post o'u hen gyfeiriad preifat i gyfeiriad newydd. Mae’r Post Brenhinol yn cynnig prisiau consesiwn i bobl sy’n cael budd-daliadau penodol. Mae gwasanaeth ailgyfeirio ar gael hefyd os ydych chi’n symud adeilad busnes. Gallwch wneud cais am ailgyfeirio ar-lein.
Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael i bob cwsmer, ac nid yw’n cynnwys pob math o bost. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Post Brenhinol.
Os byddwch yn archebu nwyddau gwerth £15 neu fwy o’r tu allan i’r UE ac nad ydych wedi talu TAW Mewnforio ymlaen llaw, bydd yn rhaid i chi dalu TAW Mewnforio ar y nwyddau hyn pan fyddant yn cyrraedd y DU.
Os yw’r nwyddau’n werth mwy na £105, mae toll dramor yn daladwy hefyd.
Fodd bynnag, bydd pa bynnag gwmni post yn y DU sy’n danfon eich nwyddau yn talu’r tollau hyn, a byddant wedyn yn codi’r ffioedd tollau a’r ffi weinyddol arnoch chi cyn i chi allu hawlio eich nwyddau ganddynt.
Er enghraifft, mae’r Post Brenhinol yn codi ffi weinyddol o £8 ar ben y taliadau tollau sy’n ddyledus. Gweler gwefan y Post Brenhinol i gael rhagor o wybodaeth ynghylch taliadau tollau ar eitemau sy’n cael eu harchebu o dramor.
Mae gwasanaeth Keepsafe y Post Brenhinol yn cadw post cwsmeriaid am hyd at ddau fis tra byddant i ffwrdd o’u cartref neu eu safle busnes. Cedwir y post yn eu swyddfa ddosbarthu leol.
Bydd y Post Brenhinol yn danfon eich post ar ôl i’r cyfnod Keepsafe ddod i ben. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Post Brenhinol.
Mae llythyr yn eitem sydd:
- hyd at 240mm o hyd
- hyd at 165mm o led
- hyd at 5mm o drwch
Mae llythyr ‘mawr’ yn eitem sydd:
- hyd at 353mm o hyd
- hyd at 250mm o led
- hyd at 25mm o drwch.
Os oes gennych lythyr mawr, rhaid i chi ddefnyddio stamp ‘mawr’. Os nad ydych yn siŵr a yw eich eitem yn llythyr mawr bydd canllaw maint a phwysau y Post Brenhinol, neu eich Swyddfa Bost leol yn gallu eich helpu.
Mae gwasanaeth PO Box y Post Brenhinol yn wasanaeth sy’n caniatáu i chi gasglu eich post o swyddfa ddanfon leol y Post Brenhinol, yn hytrach na’i gael wedi’i ddosbarthu.
Os bydd y Post Brenhinol yn derbyn eitem o bost heb ddigon o stampiau, ei bolisi yw rhoi gwybod i’r derbynnydd bod yr eitem ar gael i’w chasglu. Mae hyn yn rhoi dewis i’r cwsmer a yw am gasglu’r eitem gyda thâl ychwanegol o £1 neu wrthod casglu – gan ganiatáu i’r Post Brenhinol ddychwelyd yr eitem i’r anfonwr.
Mae’r Post Brenhinol yn dweud bod y ffi trafod yn angenrheidiol i dalu am gost asesu’r eitem ar gyfer y tâl cywir a’i dargyfeirio o’r ffrwd arferol o bost, er mwyn gallu gofyn i’r derbynnydd dalu’r tâl ychwanegol. Nid yw’n cynrychioli elw ychwanegol i’r Post Brenhinol.
Swyddfeydd post a blychau post
Gallwch ddefnyddio adnodd ar-lein y Swyddfa Bost Branch Finder drwy roi eich cod post i ddod o hyd i'ch Swyddfa Bost agosaf.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r adnodd hwn i ddod o hyd i’r Swyddfa Bost agosaf sy’n cynnig gwasanaethau penodol, fel prosesu trwyddedau gyrru neu Wasanaethau Cyflym Parcelforce.
Gallwch hefyd ffonio gwasanaethau cwsmeriaid Swyddfa’r Post ar 0345 611 2970.
Cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid y Post Brenhinol ar 03457 740 740. Dylech wneud nodyn o rif y blwch post, sydd i’w weld yng nghornel chwith isaf y plât casglu (er enghraifft GU27 66).
Os byddwch chi byth yn gweld bod y plât casglu ar goll o flwch post, gwnewch nodyn o leoliad y blwch a dywedwch wrth y Post Brenhinol fod y plât ar goll.