- Mae prisiau telathrebu cyfartalog wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i'r ddefnydd o ddata saethu i fyny
- Ond mae tua dwy filiwn o gartrefi yn y DU yn dal i stryglo i dalu am fynediad i'r we
- Gall tariffau fforddiadwy wedi'u targedu arbed dros £200 y flwyddyn i aelwydydd incwm isel, ond nid yw pob darparwr yn cynnig nhw a dim ond ychydig o bobl sy'n defnyddio nhw
- Bydd cwmnïau telathrebu'n wynebu ymyriadau pellach os na fyddant yn gwneud mwy i helpu'r rhai sydd fwyaf mewn angen
Mae Ofcom wedi rhybuddio cwmnïau telathrebu bod angen iddynt wneud mwy i gefnogi pobl mewn caledi ariannol, neu mae'n bosib y byddant yn wynebu ymyriadau newydd i ddiogelu cwsmeriaid yn well.
Y llynedd, gwnaethom adrodd ar yr heriau yr oedd rhai cwsmeriaid yn eu hwynebu wrth dalu eu biliau telathrebu, a'r hyn yr oedd darparwyr yn ei wneud i'w helpu nhw. Rydym yn croesawu'r camau y mae rhai cwmnïau wedi'u cymryd ers hynny i gyflwyno pecynnau cost isel ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau, neu i wella'r rhai sydd ganddynt eisoes.
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu bod cwsmeriaid band eang a symudol yn derbyn gwasanaethau gwell a bod prisiau wedi gostwng ar gyfartaledd. Er hynny, mae llawer o bobl ar incwm isel yn cael trafferth talu, ac nid yw pob un ohonynt yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae llawer o gwsmeriaid telathrebu'n cael mwy am lai
Mae’r farchnadoedd band eang a symudol yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau i gwsmeriaid, gyda chytundebau gwahanol ar gael i siwtio anghenion gwahanol. Mae ein hadroddiad Tueddiadau Prisio blynyddol yn rhoi dadansoddiad o'r hyn y talodd cwsmeriaid yn y DU am eu gwasanaethau band eang a ffôn yn 2020.
Roedd prisiau ‘cwsmer newydd’ cyfartalog y llynedd ar gyfer bwndelau band eang cyflym iawn a llinell dir bron 20% yn rhatach mewn termau real nag yn 2015, dros y cyfnod hwnnw cododd y defnydd cyfartalog o ddata band eang gan aelwydydd 342% a chododd cyflymder lawrlwytho cyfartalog 178%.
Yn yr un modd, roedd cost gyfartalog gwasanaethau symudol yn 2020, yn seiliedig ar ddefnydd cyfartalog ar draws yr holl ddefnyddwyr symudol 20% yn rhatach mewn termau real nag yn 2015, a defnyddiodd pobl 369% yn fwy o ddata.
Gallai llawer o bobl dalu llai a chael gwasanaeth cyflymach heddiw. Mae rhwydweithiau band eang ffeibr llawn, sy'n llawer mwy cyflym a dibynadwy na'r rhai y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu defnyddio heddiw, yn ehangu'n gyflym ac ar gael erbyn hyn i 21% o'r DU. Mae rhai gwasanaethau ffeibr llawn sy'n darparu cyflymder o tuag 1 Gdid yr eiliad ar gael am cyn lleied â £25 y mis.
Ond mae llawer yn cael trafferth talu eu biliau o hyd
Mae data newydd yr ydym wedi'i gywain ar fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu yn dangos bod tua dwy filiwn o aelwydydd yn ei chael yn anodd fforddio mynediad i'r rhyngrwyd.[1]
Ers ein hadroddiad diwethaf ar fforddadwyedd ym mis Rhagfyr, mae BT, Community Fibre, Hyperoptic, KCOM, Virgin Media a VOXI i gyd wedi cyflwyno tariffau cost isel ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau, neu maent wedi gwella'r tariffau yr oeddent eisoes yn eu darparu. Mae'r rhain ar gael am rhwng £10 ac £20 y mis a gallant arbed £200 y flwyddyn ar gyfartaledd i aelwydydd ar incwm isel.[2]
Er hynny, bu'r defnydd o'r tariffau wedi'u targedu hyn yn isel, gyda dim ond 40,000 o aelwydydd yn ymrestru arnynt. Mae hyn yn cynrychioli tua 0.15% o'r holl gartrefi yn y DU, sef dim ond 1% o'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau am fod allan o waith.
Dengys ein hymchwil ddiweddaraf hefyd fod 2% o gwsmeriaid band eang a 3% o gwsmeriaid symudol mewn ôl-ddyledion, a bod 0.1% o gwsmeriaid band eang a 0.2% o gwsmeriaid symudol yn cael eu datgysylltu gan eu darparwr bob mis. Rhwng Ionawr 2020 ac Ionawr 2021, cododd y cyfanswm dyled ymysg cwsmeriaid band eang a symudol o £475m i £550m.[3]
Mae darparwyr wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond mae mwy i'w wneud
Er bod chwe darparwr yn cynnig tariffau 'cymdeithasol' wedi'u targedu ar gyfer cwsmeriaid ar incwm isel, mae llawer o hyd nad ydynt yn eu cynnig, ac mae angen i ddarparwyr y rhai sydd ar gael wella sut maen nhw'n hysbysebu nhw gan fod y defnydd ohonynt yn isel.
Ar hyn o bryd nid yw'n ofynnol i ddarparwyr gynnig tariffau cymdeithasol, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid ymgymryd ag adolygiad ffurfiol o dariffau cymdeithasol.[4]
Fodd bynnag, os nad yw'r diwydiant telathrebu'n mynd i’r afael yn ddigonol â’n pryderon, credwn y byddai achos cryf dros ystyried a oes angen tariffau cymdeithasol mandadol er mwyn taclo’r bylchau sy’n weddill yn y cymorth, ochr yn ochr ag opsiynau posibl eraill.
Mae cryn dipyn o amrywiad hefyd yn y ffordd y mae cwmnïau gwahanol yn trin cwsmeriaid a allai fod mewn dyled neu'n cael trafferth talu eu biliau. Gallai hyn achosi i rai pobl dderbyn llai o gefnogaeth na rhai eraill, gan ddibynnu ar bwy yw eu darparwr.
Felly, rydyn ni’n ystyried a ddylid cryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer pobl sydd mewn dyled neu sy’n ei chael hi’n anodd talu. Rydym wedi gwahodd pob parti sydd â diddordeb i rannu eu barn gyda ni ar hyn.
Meddai Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Mae llawer ohonom yn cymryd medru mynd ar-lein a defnyddio ffôn symudol yn ganiataol, ond os ydych ar incwm isel neu'n wynebu caledi, gall fforddio talu am y gwasanaethau hanfodol hyn fod yn anodd iawn.
“Rydym yn pryderu bod llawer o aelwydydd ar yr incwm isaf yn ei chael yn anodd cadw rheolaeth ar eu biliau ac mae angen i ddarparwyr gymryd camau i sicrhau bod y cwsmeriaid hyn yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Bu i ni gyfweld â sampl cynrychioliadol o 7,191 o aelwydydd yn y DU rhwng Tachwedd 2020 ac Ebrill 2021, ac i raddau helaeth mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu profiadau cyfartalog yn y mis cyn y cyfweliad. Mae'r fethodoleg ymchwil lawn ar gael yn ein Hatodiad Technegol.
- Tariffau fforddiadwy wedi'u targedu gyda meini prawf cymhwystra incwm:
Cynnyrch | Pris | Cyflymder | Cymhwyster |
---|---|---|---|
BT Home Essentials | £15 y mis | 36 Mbit/s | Credyd Cynhwysol (UC), Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant) |
BT Home Essentials 2 | £20 y mis | 67 Mbit/s | |
Community Fibre | £10 y mis | 10 Mbit/s | UC, Lwfans JSA ar sail Incwm, ESA ar sail Incwm, Budd-dal Tai, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) |
Hyperoptic Fair Fibre 50 | £15 y mis | 50 Mbit/s | UC, JSA ar sail Incwm, ESA ar sail Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, PIP |
Hyperoptic Fair Fibre 150 | £25 a month | 150 Mbit/s | |
KCOM Lightstream Flex | £19.99 y mis | 30 Mbit/s | UC dim enillion, JSA, ESA ar sail Incwm, IS, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, PIP |
Virgin Media Essential Broadband | £15 y mis | 15 Mbit/s | Credyd Cynhwysol |
VOXI For Now | £10 y mis | 5G lle bo ar gael | UC (ar sail cyflogaeth), JSA, ESA |
3. Cyfanswm dyled cwsmeriaid band eang a symudol:
4. Rhoddodd deddfwriaeth Llywodraeth y DU i weithredu'r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd y pŵer i Ofcom osod tariffau cymdeithasol ar yr holl ddarparwyr lle mae eu hangen i'r helpu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, gellir arfer y pŵer hwnnw dim ond gan ddilyn cyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i Ofcom i adolygu fforddadwyedd gwasanaethau perthnasol, a chymeradwyaeth ddilynol yn unol ag argymhellion yr Ysgrifennydd Gwladol.
Notes to editors
1. We interviewed a representative sample of 7,191 UK households between November 2020 and April 2021, and findings largely reflect the average experiences in the month prior to interview. Full research methodology is available in our Technical Annex.
2. Targeted affordable tariffs with income eligibility criteria:
Product | Price | Speed | Eligibility |
---|---|---|---|
BT Home Essentials | £15 a month | 36 Mbit/s | Universal Credit (UC), Jobseeker’s Allowance (JSA), Employment Support Allowance (ESA), Pension Credit (Guarantee Credit) |
BT Home Essentials 2 | £20 a month | 67 Mbit/s | |
Community Fibre | £10 a month | 10 Mbit/s | UC, Income-based JSA, Income-related ESA, Housing Benefit, Personal Independent Payment (PIP) |
Hyperoptic Fair Fibre 50 | £15 a month | 50 Mbit/s | UC, Income-related JSA, Income-related ESA, Pension Credit, Housing Benefit, PIP |
Hyperoptic Fair Fibre 150 | £25 a month | 150 Mbit/s | |
KCOM Lightstream Flex | £19.99 a month | 30 Mbit/s | UC zero earnings, JSA, Income-related ESA, IS, Pension Credit, Housing Benefit, PIP |
Virgin Media Essential Broadband | £15 a month | 15 Mbit/s | Universal Credit |
VOXI For Now | £10 a month | 5G where available | UC (employment based), JSA, ESA |
3. Total debt of broadband and mobile customers:
4. The UK Government’s legislation to implement the European Electronic Communications Code gave Ofcom the power to impose social tariffs on all providers where needed to help the most vulnerable. However, that power can only be exercised following a direction from the Secretary of State to Ofcom to review the affordability of relevant services, and subsequent approval by the Secretary of State of Ofcom’s recommendations.