Taclo galwadau a negeseuon niwsans

Cyhoeddwyd: 11 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2023

Mae nifer o wahanol fathau o alwadau a negeseuon niwsans, y prif rai yw galwadau telewerthu byw, negeseuon testun sbam, galwadau marchnata wedi'u hawtomeiddio, galwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.

Mae cyfrifoldeb rheoleiddiol dros fynd i'r afael â galwadau niwsans yn cwmpasu nifer o sefydliadau.

Fodd bynnag, mae'r prif gyfrifoldebau yn nwylo Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Yn benodol:

  • Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n arwain o ran mynd i'r afael â galwadau telewerthu byw, galwadau negeseuon marchnata wedi'u hawtomeiddio a negeseuon sbam. Mae'n gyfrifol hefyd am gadw rhestr rhifau ffôn pobl a busnesau sy'n dymuno tynnu allan o dderbyn unrhyw alwadau marchnata nas gofynnwyd amdanynt neu ffacsau marchnata nas gofynnwyd amdanynt. Mae'r  Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) yn cadw'r cofrestrau hynny ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Comisiynydd sy'n gyfrifol am ddwyn achos gorfodi i sicrhau nad yw'r galwadau marchnata uniongyrchol yn cael eu gwneud i rifau sydd wedi'u cynnwys ar gofrestr y TPS heb gael caniatâd.
  • Mae Ofcom yn canolbwyntio ar alwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.

Ers 2013, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â'r niwed a achosir i ddefnyddwyr gan negeseuon a galwadau niwsans. Bu i ni nodi ein meysydd ffocws allweddol ar gyfer taclo galwadau niwsans ym mis Mai 2020, a fu'n cynnwys:

  • Cymryd camau gorfodi wedi’u targedu yn erbyn pobl neu gwmnïau nad ydynt yn dilyn rheolau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom;
  • Codi ymwybyddiaeth o sgamiau'r Coronafeirws (Covid-19) a'u taclo, a pharhau i gefnogi gwaith Stop Scams UK;
  • Gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cyfathrebu i wella'r ffordd y maent yn ymyrryd â galwadau niwsans ac yn eu hatal, trwy adolygu'r datrysiadau a ddarperir i gwsmeriaid gan eu darparwyr;
  • Gweithio gyda rheoleiddwyr ac asiantaethau gorfodi eraill i nodi cyfoeoedd newydd i atal galwadau niwsans a sgamiau; a
  • Rhannu gwybodaeth ag eraill, gan gynnwys ein partneriaid rhyngwladol ac asiantaethau gorfodi.

Mae ein diweddariad ym mis Mawrth 2021 yn adrodd ar y cynnydd ym mhob un o'r meysydd uchod dros y 10 mis diwethaf ac yn nodi sut mae ein hymdrechion ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddefnyddwyr.

Negeseuon a galwadau niwsans: diweddariad ar gynllun gweithredu ICO-Ofcom ar y cyd 2021 (PDF, 1.0 MB)

Diweddariadau'r gorffennol

Nodwch fod y dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

ICO and Ofcom joint action plan 2020 update (PDF, 327.1 KB)

ICO and Ofcom joint action plan 2019 update (PDF, 404.7 KB)

ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2018 update (PDF, 277.0 KB)

ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2016 update (PDF, 563.9 KB)

ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2015 update (PDF, 239.8 KB)

ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2014 update (PDF, 239.8 KB)

ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2013

Panel ymchwil galwadau niwsans

Mae ymchwil rheolaidd Ofcom i alwadau niwsans yn mesur amlder y galwadau niwsans mae defnyddwyr y DU yn eu derbyn ar eu ffonau llinell dir cartref. Rydym yn cywain data amser real am y mathau hyn o alwadau, gan gynnwys dyddiad, amser a hyd y galwadau niwsans a disgrifiad llawn o'r profiad e.e. y cwmni/person sy'n ffonio, diben yr alwad ac a oedd modd adnabod rhif y person oedd yn galw.

Panel ymchwil galwadau niwsans

Ymchwil Tracio

Mae Ofcom yn gweithredu arolygon tracio omnibws. Mae Ofcom yn gofyn i gyfranwyr i adrodd, am gyfnod o bedair wythnos cyn yr arolwg, eu profiad o alwadau niwsans wnaethon nhw dderbyn ar eu llinell dir a/neu eu ffonau symudol. Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn cynnal yr ymchwil hwn deirgwaith y flwyddyn, ym mis Ionawr, Mai a Medi. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein calendr gwybodaeth ystadegol

Mae gan Ofcom bwerau o dan adrannau 128 i 130 Deddf Cyfathrebiadau 2003 ("y Ddeddf") i weithredu, gan gynnwys gosod dirwyon, yn erbyn unrhyw un sydd yn camddefnyddio rhwydwaith neu wasanaeth gyfathrebu yn barhaus mewn ffordd sy'n achosi neu sy'n debygol o achosi dicter nad yw'n angenrheidiol, neu anghyfleustra neu boen meddwl.

Mae'n ofynnol bod Ofcom yn cynhyrchu polisi cyffredinol sy'n egluro sut rydym yn bwriadu defnyddio'r pwerau hyn ac i ystyried y polisi wrth eu gweithredu. Rydym wedi cyhoeddi datganiad sy'n esbonio sut rydym yn gweithredu ein polisi cyffredinol sydd wedi bod yn weithredol ers 1 Mawrth 2017.

Rydym hefyd yn cynnal rhaglen archwilio barhaus sy'n monitro ac yn gorfodi mewn achosion o alwadau mud ac sy'n cael eu gadael sy'n achosi niwed ac yn cyhoeddi diweddariadau am ein gwaith gorfodi ffurfiol yn ein  Bwletin Gorfodi Cystadleuaeth a Defnyddwyr

Mae Ofcom wedi sefydlu Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda naw darparwr cyfathrebiadau sylweddol. Mae hwn yn gosod fframwaith ar gyfer cydweithio gwirfoddol am fesurau technegol rhwng y sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd, yn cynnwys sut fyddan nhw'n cyflawni'r nod cyffredin o leihau effaith galwadau niwsans anghyfreithlon ar ddefnyddwyr.

Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Nuisance Calls (Technical Measures) Memorandum of Understanding (MoU) (PDF, 128.4 KB)

Nuisance Calls (Technical Measures for Transit CPs) Memorandum of Understanding (MoU) (PDF, 236.8 KB)

Yn ôl i'r brig