Negeseuon testun sbam

Cyhoeddwyd: 23 Rhagfyr 2021

Anfon neges destun yw un o'r ffyrdd mwyaf pobologaidd o hyd o gadw mewn gysylltiad.

Felly nid yw'n syndod bod cwmnïau'n dewis marchnata eu cynnyrch drwy negeseuon testun.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio mwy am negeseuon testun sbam a sut i'w stopio.

Ydych chi'n chwilio am gymorth gyda negeseuon testun sbam?

Bwrw golwg ar ein cyngor ar sut i nodi neges destun sbam a sut i roi gwybod am neges amheus i 7726.

Neges destun sbam yw neges destun a anfonir i ffôn symudol sy’n marchnata cynnyrch neu wasanaeth penodol.

Mae sawl diben i’r negeseuon testun hyn. Er enghraifft:

Rheoli hawliadau - mae'r rhain yn bennaf yn ymwneud â hawliadau anafiadau personol a hawliadau am yswiriant gwarchod taliadau (PPI) a gamwerthwyd.

Rheoli dyledion – mae’r negeseuon hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau rheoli dyledion.

Os byddwch yn derbyn neges destun gan anfonwr rydych yn gyfarwydd ag ef, neu o god byr (mae cod byr fel arfer yn 5 digid ei hyd ond gall fod hyd at 8), atebwch 'STOP' i'r rhif ffôn neu god byr a ddangosir yn y neges destun.

Bydd hyn yn hysbysu'r sawl sy'n anfon nad ydych eisiau derbyn eu negeseuon testun mwyach.

Fodd bynnag, os yw'r neges destun o anfonwr anhysbys, neu o anfonwr nad ydych yn gyfarwydd ag ef, rydym yn argymell i chi beidio ag ymateb.

Bydd ymateb i'r neges destun yn cadarnhau bod eich rhif yn weithredol, a gallai olygu mewn gwirionedd y byddwch yn derbyn mwy o negeseuon, neu hyd yn oed galwadau llais.

Yn lle, gallwch roi gwybod am y neges destun i'ch gweithredwr rhwydwaith.

I roi gwybod am neges destun sbam, anfonwch y neges destun ymlaen i 7726.

Mae 7726 yn rhif y gall pob cwsmer symudol sy'n defnyddio rhwydweithiau'r DU ei decstio i roi gwybod am negeseuon SMS neu alwadau ffôn digroeso ar ffôn symudol. Dewiswyd y rhif '7726' am ei fod yn sillafu 'SPAM' ar bysellbad ffôn alffaniwmerig – mae hynny'n ffordd ddefnyddiol o'i gofio.

Ni chodir tâl arnoch am anfon negeseuon testun i 7726.

Mae sefydliadau’n anfon y negeseuon testun hyn i greu rhestr o gwsmeriaid posib y maent wedyn yn ei gwerthu i gwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yn y neges.

Yn achos hawliadau anaf personol, byddai'r rhestr yn cynnwys enwau pobl sydd â diddordeb mewn hawlio iawndal am anaf personol.

Mae’r rhestr hon wedyn yn cael ei gwerthu i gwmni sy’n rheoli hawliadau anaf personol. Bydd y cwmni hwnnw'n cysylltu â'r bobl ar y rhestr ac yn cynnig y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer delio â hawliadau posib iddynt.

.

Mae unrhyw un sy’n anfon negeseuon testun sbam yn torri’r gyfraith oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd iddynt yn flaenorol.

Ond, os oes perthynas cwsmer rhyngoch chi a’r anfonwr yn barod, caiff anfon negeseuon testun sbam atoch am gynnyrch a gwasanaethau tebyg, gyhyd â'ch bod chi’n gallu dewis peidio â derbyn y fath negeseuon.

Nid yw’r gyfraith yn berthnasol i negeseuon a anfonir i rifau busnes.

Pam cwyno?

Gall eich cwyn fod yn fuddiol iawn, i chi fel unigolyn ac i ddefnyddwyr yn gyffredinol.

A'r rheswm? Mae gan gwynion rôl hollbwysig wrth helpu rheoleiddwyr i daclo'r cwmnïau sy’n gyfrifol am negeseuon a galwadau niwsans. Heb eich cwynion chi, byddai rheoleiddwyr yn ei chael yn llawer mwy anodd dod o hyd i'r rhai sy’n gyfrifol a chymryd camau yn eu herbyn.

Er na fydd cwyno o bosib yn stopio'r holl alwadau neu negeseuon niwsans rydych yn eu derbyn yn gyfan gwbl, mae’n helpu'r rheoleiddwyr i weithredu’n fwy penodol yn y maes hwn.

Mae cwyno yn broses hawdd. Gallwch gwyno ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, a gall gymryd cyn lleied â 5 munud.

Sut allaf gwyno?

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn gyfrifol am orfodi'r rheolau ar negeseuon testun sbam.

Os ydych yn anhapus eich bod yn derbyn y fath negeseuon testun, neu'n parhau i'w derbyn ar ôl cyfarwyddo'r cwmni dan sylw i stopio anfon nhw, dylech gwyno i'r ICO.

Mae gan ICO bwerau i ymchwilio i unrhyw dor rheolau a amheuir, ac i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw sefydliad sy'n torri'r rheolau

Gallwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:

  • ffonio eu llinell gymorth: 0303 123 1113
  • mynd i wefan yr ICO
  • anfon llythyr: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig