Sut mae diogelu eich hun rhag galwadau a negeseuon niwsans

Cyhoeddwyd: 6 Ebrill 2021

I nifer ohonom ni, mae galwadau niwsans yn annifyr ac yn ddiflas ac yn amharu ar ein bywydau bob dydd.

Ond gallant achosi pryder a gofid hefyd i rai pobl fregus.

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi rhai awgrymiadau ynghylch sut mae lleihau nifer y galwadau niwsans a chyngor ynghylch beth i'w wneud pan fyddwch chi'n eu cael.

Sut i leihau galwadau niwsans

Mae gwahanol fathau o gynnyrch a gwasanaethau a all helpu i rwystro galwadau niwsans, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am eu defnyddio.

Gall y rhain rwystro mathau penodol o alwadau (fel galwadau rhyngwladol, neu alwadau lle nad yw’r rhif yn cael ei ddatgelu) neu restr ddethol o tua 10 rhif.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gallu rhwystro'r galwadau rydych chi’n dymuno eu rhwystro, a dim byd arall.

Am ragor o wybodaeth gallwch chi:

  • Siarad â'ch darparwr ffôn am y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig. Mae gan wahanol ddarparwyr ffioedd gwahanol, fellly efallai y byddwch chi'n dymuno chwilio am y fargen orau. Gwybodaeth am rai o'r gwasanaethau hyn a'r ffioedd sy'n berthnasol
  • Ystyried cael dyfais rhwystro galwadau. Dyfeisiau y gallwch chi eu cysylltu â’ch ffôn yw’r rhain, neu sy’n rhan o ffôn yn barod o bosib. Mae modd defnyddio’r rhain i rwystro gwahanol fathau o alwadau. Mae rhai yn gofyn am enw’r sawl sy’n galw cyn trosglwyddo’r alwad i chi. I gael rhagor o wybodaeth am ddyfeisiau rhwystro galwadau, efallai y byddai o fudd i chi ddarllen cyngor o wefan Saesneg Which?.  Nid oes gan Ofcom unrhyw gysylltiad â Which? ac ni ddylid ystyried bod y ddolen hon yn golygu ein bod ni’n cymeradwyo ei ganfyddiadau.

Cyn i chi benderfynu pa gynnyrch rydych chi am ei ddefnyddio, a cyn i chi ei roi ar waith neu ei osod, darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus i wneud yn siŵr na fyddant yn rhwystro galwadau rydych chi’n dymuno eu cael.

Mae'r 'Telephone Preference Service (TPS)' yn galluogi defnyddwyr i ddewis peidio derbyn unrhyw alwadau digymell.

Gallwch gofrestru eich rhif ffôn -llinell dir neu symudol – ar-lein neu drwy ffonio 0345 070 0707. Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru a gall gymryd hyd at 28 diwrnod i fod yn weithredol.

Gall defnyddwyr ffonau symudol ychwanegu eu rhifau ffôn at gofrestr y TPS drwy yrru ‘TPS’ a’u cyfeiriad e-bost mewn neges destun at 85095. Byddant yn cael neges destun yn ôl gan y TPS yn cadarnhau bod y rhif ffôn symudol wedi’i ychwanegu at ei gronfa ddata.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith, nad yw telefarchnatwyr yn ffonio rhif sydd wedi cofrestru â’r TPS. Fodd bynnag, ni fydd cofrestru â’r TPS yn atal pob galwad di-alw-amdano. Gall cwmnïau eich ffonio chi o hyd os ydych chi wedi rhoi caniatâd iddyn nhw gysylltu â chi dros y ffôn yn flaenorol. Er mwyn rhwystro’r galwadau hyn, cysylltwch â’r cwmni dan sylw (yn ddelfrydol, drwy ysgrifennu ato) a gofynnwch iddo beidio â’ch ffonio chi at ddibenion marchnata.

Hefyd, bydd cwmnïau'n dal i allu’ch ffonio chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad dilys, ar yr amod nad yw’r alwad yn cynnwys unrhyw farchnata nac yn casglu data i’w ddefnyddio mewn galwadau marchnata yn y dyfodol. Mae rhai cwmnïau’n torri’r rheolau, er bod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gweithio’n galed i roi terfyn ar hyn. Gall cwyno am gwmnïau o’r fath helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i weithredu.

Er bod rhai cwmnïau masnachol sy’n cynnig gwasanaethau tebyg i leihau nifer y galwadau niwsans (ac mae rhai’n codi ffi am hyn), y TPS yw’r unig gofrestr y mae gan sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i’w gwirio cyn gwneud galwadau telewerthu byw. Nid yw’r TPS ac Ofcom yn gysylltiedig ag unrhyw rai o’r sefydliadau masnachol hyn. Os byddwch chi’n dewis edrych ar y dewisiadau sydd ar gael gan y cwmnïau masnachol hyn, byddai’n ddoeth i chi wneud yn siŵr eich bod yn deall yn union pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig i chi, ac a oes unrhyw ffioedd yn gysylltiedig.

Byddwch yn ofalus i bwy rydych chi’n rhoi eich manylion cyswllt.

Pan fydd angen i chi eu rhoi, er enghraifft, pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth, yn cystadlu mewn cystadleuaeth neu'n defnyddio gwefan cymarhu prisiau, sicrhewch eich bod yn edrych yn ofalus ar y blychau marchnata 'optio i mewn' neu 'optio allan'. Weithiau bydd y blychau hyn wedi'u cuddio yng nghanol y print mân ac maen nhw i'w gweld yn aml wrth ymyl lle mae'n rhaid rhoi llofnod.

Os byddwch chi'n rhoi tic mewn blwch "optio i mewn", rydych chi'n cadarnhau eich bod yn fodlon i'r cwmni eu gwmnïau eraill (sy'n cael eu galw'n "drydydd partïon" neu "bartion dibynadwy"), i gysylltu â chi.

Mae'r bocs "optio-allan" yn golygu eich bod yn cytuno i rywun arall i gysylltu â chi, oni bai eich bod yn rhoi tic yn y blwch,

Cadwch lygad allan am frawddegau fel "rhowch dic yn y blwch i optio allan" neu os ydych chi ar-lein, blwch naid yn eich gwahodd i dderbyn cylchlythyr cwmni.

Mae rhai busensau yn defnyddio gwasanaethau cyfeirlyfrau i greu eu rhestrau marchnata. Mae dewis peidio rhestru eich rhif ffôn yn y cyfeirlyfr yn gallu helpu chi i rwystro'r busnesau hyn rhag cael gafael ar eich rhif yn y dull hwn.

Beth i’w wneud pan fyddwch chi’n cael negeseuon a galwadau niwsans

Gallech chi hefyd sgrinio eich galwadau drwy ddefnyddio ffôn sy’n dangos rhif y galwr, sef gwasanaeth “Adnabod y Galwr”, neu drwy ddefnyddio peiriant ateb neu bost llais. Bydd hyn yn eich helpu i ddewis a ydych chi am ateb yr alwad neu ffonio’r galwr yn ôl.  Cofiwch fod rhai darparwyr yn codi ffi am ddangos rhif ffôn y galwr. Rhagor o wybodaeth am 'adnabod y galwr'

Dylech fod yn ofalus pan fydd pobl nad ydych chi’n eu hadnabod yn eich ffonio chi, oherwydd weithiau nid o’r rhif sy’n ymddangos ar y sgrin y bydd y galwr yn eich ffonio chi yn rif go iawn.

Pan fyddwch chi’n cael galwad niwsans, gallwch roi’r ffôn i lawr yn syth wrth gwrs. Mae nifer o bobl yn gwneud hyn. Ond os byddwch chi’n dewis siarad â’r galwr, mae’n rhaid iddo roi enw’r sefydliad i chi, yn ogystal â’i gyfeiriad neu rif ffôn di-dâl os byddwch chi’n gofyn am hynny. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybod i'r sefydliad nad ydych chi’n dymuno cael unrhyw alwadau gwerthu eraill.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n dymuno cael y cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n cael ei werthu, a bod y galwr yn rhoi pwysau arnoch chi dros y ffôn, efallai yr hoffech ddod â’r alwad i ben. Yna, gallwch roi amser i chi’ch hun feddwl mwy am y peth, a siopa o gwmpas.

Byddwch yn ofalus i bwy rydych chi’n rhoi eich manylion personol, gan gynnwys pan fyddwch chi’n ateb y ffôn, yn arbennig os bydd y galwr yn gofyn i chi wneud rhywbeth a allai olygu canlyniadau ariannol i chi. Dylech osgoi ateb y ffôn drwy ddweud eich rhif ffôn a’ch enw fel cyfarch, a dylech osgoi cynnwys y manylion hyn ar eich peiriant ateb neu bost llais.

Cyn dechrau sgwrs, gwnewch yn siŵr bod y galwr yn rhoi ei fanylion i chi yn gyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i wirio a yw’n ffonio o rywle credadwy (er enghraifft, o’ch cwmni cyflenwi trydan).

Byddwch yn ymwybodol na fydd y galwr yn rhoi’r manylion cywir i chi weithiau, er enghraifft y rhif “Adnabod y Galwr” cywir.

Os bydd rhywun yn eich ffonio ac yn gofyn am wybodaeth ariannol bersonol, peidiwch â’i darparu. Yn hytrach, rhowch y ffôn i lawr a ffonio'r rhif ffôn ar gyfriflen eich cyfrif, yn y llyfr ffôn neu ar wefan y cwmni neu adran y llywodraeth i ganfod a oedd yr alwad yn un dilys. Arhoswch bum munud cyn ffonio - mae hyn sicrhau bod y llinell wedi clirio ac nad ydych yn dal i siarad â'r twyllwr neu gyd-dwyllwr.

Mae gwybodaeth am gwynion yn helpu rheoleiddwyr fel Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom i gymryd camau penodol yn erbyn y rhai hynny sy’n gwneud galwadau yn anghyfreithlon.

Pan fyddwch chi’n cael galwad niwsans, gwnewch nodyn byr o’r alwad os yw hynny’n bosib, gan gynnwys y dyddiad, yr amser, enw’r cwmni (os ydych chi’n gwybod) a’r rhif ffôn a wnaeth eich ffonio chi (hyd yn oed os nad yw’n edrych fel rhif ffôn dilys). Yna cysylltwch â’r sefydliad neu’r rheoleiddiwr perthnasol i gwyno. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, gallwch chi gwyno beth bynnag. Wrth bwy y dylech chi gwyno a sut mae gwneud hynny.

Efallai y bydd y galwadau hyn yn gofyn i chi wasgu rhif er mwyn siarad ag asiant byw. Gallwch wrth gwrs ddewis rhoi’r ffôn i lawr. Ond, os byddwch yn dewis siarad â rhywun, ni fyddwch yn gorfod talu am yr alwad.

Os oedd rhif ffôn wedi’i gynnwys yn yr alwad, byddem yn eich cynghori i beidio â ffonio’r rhif, oni bai eich bod yn gyfarwydd â’r cwmni sy’n ceisio cysylltu â chi. Os byddwch yn penderfynu ffonio’r rhif, bydd costau'r alwad yn dibynnu ar sawl ffactor, fel math y rhif a alwyd ac a ydych yn galw o’ch ffôn llinell dir neu o’ch ffôn symudol, fel y nodir yn ein canllaw am gostau galwadau

Os ydyn nhw oddi wrth anfonwr rydych yn gyfarwydd ag ef, neu oddi wrth rif neu god byr (mae cod byr fel arfer yn 5 digid ond gall fod hyd at 8), anfonwch ‘STOP’ i'r rhif ffôn neu’r cod byr a ddangosir yn y neges destun. Ni ddylech orfod talu am hyn. Bydd hyn yn dweud wrth yr anfonwr nad ydych am gael negeseuon testun ganddynt mwyach.

Ond, os nad ydych yn gwybod pwy sydd wedi anfon y neges destun, neu os yw wedi dod oddi wrth sefydliad nad ydych yn gyfarwydd ag ef, rydym yn argymell i chi beidio ag ateb. Bydd ymateb yn cadarnhau bod eich rhif yn cael ei ddefnyddio a gall arwain at fwy o negeseuon oddi wrthynt, a hyd yn oed alwadau llais.

Yn hytrach, rhowch wybod i’ch cwmni rhwydwaith am y neges destun sbam. Anfonwch y neges destun ymlaen at 7726. Ffordd hawdd o gofio’r rhif ‘7726' - y rhain ydy’r rhifau ar allweddbad eich ffôn sy’n sillafu'r gair ‘SPAM'.

Mae’n bosib y cewch chi neges awtomatig yn diolch i chi am y wybodaeth, ac yn rhoi rhagor o gyfarwyddiadau i chi os oes angen, er enghraifft, anfon y rhif a anfonodd y neges destun sbam atoch chi yn ei flaen. Fyddwch chi ddim yn gorfod talu am anfon negeseuon testun sbam yn eu blaen i 7726.

Os nad ydych chi’n hapus i dderbyn y negeseuon testun hyn, neu’n dal i’w derbyn ar ôl dweud wrth yr anfonwr am stopio, dylech gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth dros y ffôn ar 0303 123 1113 neu ar-lein

Bwriad y cyngor hwn yw eich helpu i leihau galwadau a negeseuon niwsans, a delio â nhw.

Cofiwch y bydd eich darparwyr gwasanaethau presennol yn ceisio cysylltu â chi o bryd i'w gilydd am resymau pwysig, nad ydyn nhw’n ymwneud â marchnata. Er enghraifft, efallai y bydd angen i’ch darparwr cyfleustodau roi gwybod am nam, neu efallai y bydd eich banc angen cysylltu â chi am ei fod yn amau gweithgarwch twyllodrus yn eich cyfrif.

Dylech roi eich manylion cyswllt diweddaraf i’ch prif ddarparwyr gwasanaethau, er enghraifft os ydych chi’n newid rhif ffôn. Hefyd dylech roi gwybod iddyn nhw sut hoffech chi iddyn nhw gysylltu â chi, er enghraifft dros y ffôn, neges destun, drwy e-bost neu drwy’r post. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n derbyn unrhyw negeseuon a galwadau pwysig. Os nad ydych chi’n dymuno derbyn galwadau marchnata gan ddarparwyr gwasanaethau presennol, rhowch wybod iddyn nhw.

Llwythwch i lawr fersiwn PDF Saesneg o'r Canllaw hwn

Llwythwch i lawr fersiwn PDF llawn o'r Canllaw Galwadau Niwsans a Negeseuon

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig