Negeseuon e-bost marchnata

Cyhoeddwyd: 13 Awst 2019

Mae ebost wedi chwyldroi ein cyfathrebiadau.

Ond mae'r ffaith ei bod hi mor hawdd i gysylltu â phobl drwy ebost ag anfanteision hefyd, yn enwedig os ydych chi'n gweld bod eich mewnflwch yn llawn ebyst sy'n hysbysebu nwyddau nad ydynt o ddiddordeb i chi.

Gall ebyst marchnata gael eu hanfon gan gwmnïau cyfrifol (rydych chi wedi ymgysylltu gyda nhw yn y gorffennol), yn hysbysebu eu cynnyrch diweddaraf.

Fodd bynnag, gallan nhw hefyd gael eu hanfon gan sefydliadau llai cyfrifol sy'n anfon miloedd o ebyst i gyfeiriadau ar hap. Mae hyn yn cael ei adnabod fel 'ebost sbam'.

Mae yna ddwy reol bwysig ynghlwm ag ebyst marchnata:

1. Nid yw'r sawl sy'n anfon yr ebost yn gallu cuddio pwy ydyn nhw ac mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu cyfeiriad dilys lle gallwch chi ddewis peidio derbyn rhagor o ebyst.

2. Ni ddylai'r sefydliadau anfon ebyst marchnata atoch chi heblaw eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd iddynt wneud hynny.

Os oes yna berthynas cwsmer rhyngddoch chi a'r sawl sy'n anfon yr ebyst, yna gallan nhw anfon ebyst marchnata atoch chi am nwyddau a gwasanaethau tebyg, dim ond eich bod chi'n cael y dewis i beidio derbyn rhagor o negeseuon fel hyn yn y dyfodol.

Nid yw'r gyfraith yn cynnwys ebyst marchnata sy'n cael eu hanfon at gwmnïau.

I stopio ebyst marchnata o ffynhonnell ganyfddadwy o'r DU neu sefydliad rydych chi'n ei adnabod eisoes, defnyddiwch y ddolen 'datdanysgrifio' (fel arfer ar waelod yr ebost) neu dilynwch gyfarwyddiadau yn yr ebost i ddatdanysgrifio.

Neu gallwch chi ebostio'r sawl sy'n anfon y neges a gofyn iddyn nhw beidio anfon ebyst marchnata atoch chi (gan gofio cadw copi o'r ohebiaeth).

Os nad yw'r ebyst o ffynhonnell ganfyddadwy yn y DU, neu sefydliad sy ddim yn adnabyddus i chi, peidiwch a'u hateb.

Yn hytrach, dylech ddarllen y canllawiau a ddarparwyd ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a/neu cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd.

Os ydych chi'n dal i dderbyn llawer o ebyst sbam, gwiriwch y dewisiadau diogelwch yn eich rhaglen ebost. Dylai fod modd hidlo'r rhan fwyaf o'r sbam yn syth i ffeil 'sothach'.

Gallwch chi hefyd stopio ebyst wrth anfonwyr penodol. Gwiriwch y cyfawyddiadau ar gyfer y rhaglen ebost rydych chi'n ei defnyddio.

Beth os nad ydy hyn yn datrys y broblem?

Os ydych chi'n dal i dderbyn ebyst marchnata neu sbam, wedi i chi ddatdanysgrifio, neu os ydych chi wedi gofyn i'r anfonwr i beidio anfon ebyst atoch chi, dylech gwyno i'r ICO.

I anfon cwyn, peidiwch trosglwyddo eich ebyst sbam i'r ICO. Anfonwch eich cwyn ar-lein neu ffoniwch yr ICO ar 0303 123 1113

Gallwch anfon llythyr at: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig