Galwadau telewerthu byw

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2012

Galwadau telewerthu byw yw pan fydd rhywun yn eich ffonio chi i geisio gwerthu rhywbeth i chi.

Efallai bod rhywun yn eich ffonio heb wahoddiad o sefydliad nad ydych chi wedi cael unrhyw gysylltiad ag ef, yn ceisio gwerthu cynnyrch neu wasanaeth fel gwydr dwbl neu wasanaethau ynni cartref.

Neu, fe allent fod yn eich ffonio chi o gwmni rydych chi’n delio ag ef yn rheolaidd, er enghraifft garej yn eich atgoffa bod angen MOT ar eich car, neu ddarparwr ffôn symudol yn eich annog i uwchraddio eich cytundeb presennol.

Er bod cwmnïau a sefydliadau yn cael gwneud galwadau telewerthu byw, ni chânt eich ffonio chi os yw’r isod yn berthnasol:

  • rydych chi wedi dweud wrthyn nhw o’r blaen nad ydych chi am gael galwadau telewerthu ganddyn nhw; neu
  • rydych chi wedi cofrestru eich rhif gyda’r TPS (y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn) neu’r CTPS (y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn Corfforaethol), oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i gwmni wneud galwadau marchnata i chi o’r blaen (e.e. drwy roi tic mewn blwch neu dynnu tic o flwch ar ffurflen wrth ddechrau gwasanaeth newydd neu gael cynnyrch gan y cwmni).

Mae’r gyfraith yn gwahaniaethu rhwng galwadau telewerthu byw (pan fydd unigolyn ar y lein) a galwadau marchnata awtomatig pan fydd neges farchnata wedi’i recordio’n cael ei chwarae.

Os yw eich problem yn ymwneud â galwadau marchnata awtomatig, darllenwch yr arweiniad Galwadau Marchnata Awtomatig

Pan fydd rhywun yn gwneud galwadau telewerthu byw, rhaid i’r asiant sy’n eich ffonio chi roi enw’r galwr. Hefyd, os byddwch chi’n gofyn am y wybodaeth, rhaid iddo roi cyfeiriad y galwr neu rif ffôn di-dâl hefyd. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybod i'r galwr nad ydych chi’n dymuno cael galwadau marchnata neu werthu byw mwyach.

Gallwch roi gwybod i'r galwr dros y ffôn, e-bost neu lythyr. Ond rydym yn argymell eich bod chi’n ysgrifennu at y galwr ac yn cadw copi o unrhyw ohebiaeth neu’n gwneud nodyn o bwy y gwnaethoch chi siarad ag ef a pha bryd.

Pan fyddwch chi wedi rhoi gwybod i'r galwr, ni ddylai wneud unrhyw alwadau telewerthu byw i’r rhifau rydych chi wedi’u rhoi iddo.

Hefyd, gallwch gofrestru eich rhif ffôn symudol neu linell dir gyda’r TPS (y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn).

Mae’r TPS yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gofnodi eu dewis i beidio â derbyn unrhyw alwadau telewerthu nad ydyn nhw wedi gofyn amdanyn nhw. Pan fyddwch chi wedi cofrestru gyda’r TPS, bydd y rhifau rydych chi wedi’u rhoi yn cael eu hychwanegu at restr swyddogol o rifau y mae pob sefydliad yn y DU (gan gynnwys elusennau, mudiadau gwirfoddol a phleidiau gwleidyddol) wedi’u gwahardd rhag eu ffonio at ddibenion gwerthu a marchnata.

Er bod sefydliadau masnachol sy’n cynnig gwasanaethau i leihau galwadau niwsans, y TPS yw’r unig restr swyddogol ar gyfer dewis peidio â chael galwadau telewerthu byw. Mae cofrestr y TPS wedi’i sefydlu ac yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i sefydliadau sy’n gwneud galwadau telewerthu byw i sgrinio eu rhestrau yn erbyn rhestr y TPS yn unig. Nid yw’r TPS ac Ofcom yn gysylltiedig ag unrhyw sefydliadau masnachol sy’n cynnig gwasanaethau i leihau galwadau niwsans. Os byddwch chi’n dewis edrych ar y dewisiadau sydd ar gael gan y cwmnïau masnachol hyn, byddai’n ddoeth i chi wneud yn siŵr eich bod yn deall yn union pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig i chi, ac a oes unrhyw ffioedd yn gysylltiedig.

Mae gwasanaeth cyfatebol ar gael i gyrff corfforaethol, sef y CTPS (y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn Corfforaethol).

I gael rhagor o wybodaeth am y TPS, y CTPS, neu i gofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn, ffoniwch 0345 070 0707 neu ewch i wefan Saesneg allanol y TPS

Gall defnyddwyr ffonau symudol ychwanegu eu rhifau ffôn symudol at gofrestr y TPS drwy yrru ‘TPS’ a’u cyfeiriad e-bost mewn neges destun at 85095. Byddant yn cael neges destun yn ôl gan y TPS yn cadarnhau bod eu rhif wedi’i ychwanegu at ei gronfa ddata.

Na. Dylai cofrestru gyda’r TPS leihau nifer y galwadau telewerthu byw, ond ni fydd hyn yn atal yr holl alwadau di-alw-amdanynt.

Gall cwmnïau gysylltu â chi o hyd i gynnal ymchwil i’r farchnad, hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru gyda’r TPS. Ond ni chaiff y galwadau hyn gael eu cyfuno ag unrhyw farchnata na gwerthu.

Hefyd, nid yw cofrestru gyda’r TPS yn gweithio os ydych chi wedi rhoi caniatâd i gwmni gysylltu â chi dros y ffôn am resymau marchnata yn barod.

Efallai eich bod wedi gwneud hyn heb sylweddoli hyd yn oed. Er enghraifft, mae rhai ffurflenni’n cynnwys blwch i’w dicio pan fyddwch chi’n dewis optio i mewn i farchnata uniongyrchol gan y sefydliad hwnnw, neu’n optio allan mewn rhai enghreifftiau.

Drwy optio i mewn (neu optio allan) efallai eich bod wedi cytuno i dderbyn galwadau gwerthu a marchnata yn anfwriadol, er bod eich rhif wedi’i gofrestru gyda’r TPS.

Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi gwneud hyn, peidiwch â phoeni.

Gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl drwy gysylltu â’r galwr a rhoi gwybod iddo nad ydych chi’n dymuno iddo eich ffonio chi at ddibenion marchnata. Mae’n well gwneud hyn drwy ysgrifennu ato, gan gadw copi o unrhyw ohebiaeth, neu wneud nodyn o bwy y gwnaethoch chi siarad ag ef a pha bryd.

Weithiau pan fyddwch chi’n ffonio cwmni i holi am rywbeth neu i ofyn am ddyfynbris, bydd cyhoeddiad yn cael ei chwarae yn rhoi gwybod i chi eich bod yn optio i mewn yn awtomatig i dderbyn galwadau marchnata yn y dyfodol. Gallwch atal hyn drwy roi gwybod i’r sawl sy’n ateb eich galwad nad ydych chi’n dymuno hyn.

Pan fyddwch chi’n cofrestru eich rhif(au) gyda’r TPS/CTPS mae’n cymryd hyd at 28 diwrnod i hyn ddod i rym.

Os ydych chi’n dal i gael galwadau ar ôl 28 diwrnod, gallwch gwyno wrth y TPS. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig. Mae manylion sut mae cwyno wrth y TPS ar gael ar ddiwedd yr adran hon ar alwadau telewerthu byw. Bydd y TPS yn cysylltu â’r galwr dan sylw yn gofyn am eglurhad ac yn gofyn iddo dynnu’r rhif oddi ar ei restr.

Bydd hefyd yn anfon manylion y cwynion a ddaw i law at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth bwerau i ymchwilio a chymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud galwadau marchnata i ddefnyddwyr neu gyrff corfforaethol sydd wedi cofrestru gyda’r TPS neu’r CTPS.

Hefyd, gallwch gwyno’n uniongyrchol wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ddefnyddio’r ddolen sydd ar waelod y dudalen hon.

Dylech gofrestru â’r TPS os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod.

Hefyd, gallwch gwyno’n uniongyrchol wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ddefnyddio’r ddolen isod, oherwydd mae’r sawl sy’n eich ffonio chi ar ôl i chi ofyn iddo beidio â gwneud hynny, yn torri’r rheolau yn y maes hwn.

Dylai cwmnïau tramor sy’n galw ar ran sefydliadau yn y DU gydymffurfio â deddfwriaeth y DU.

Mae hyn yn golygu y dylent sgrinio eu rhestrau yn erbyn cofrestr y TPS cyn gwneud unrhyw alwadau marchnata a gwerthu nad oes unrhyw un wedi gofyn amdanynt.

Os ydych chi’n cael galwadau di-alw-amdanynt o dramor ar ran cwmni yn y DU, dylech gofrestru gyda’r TPS.

Os ydych chi wedi cofrestru’n barod, dylech gwyno wrth y TPS neu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd ar waelod y dudalen hon.

Yn anffodus, mae rhai cwmnïau'n ymsefydlu dramor er mwyn osgoi rheolau’r DU, ac nid ydynt yn defnyddio cofrestr y TPS. Os ydych chi’n cael galwadau telewerthu byw nad ydych chi wedi gofyn amdanynt, a hynny gan gwmnïau o dramor, dylech gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth oherwydd mae’n bosib y gall eich helpu chi.

Byddwch yn ofalus bob amser gyda galwadau telewerthu byw o dramor nad ydych wedi gofyn amdanynt, yn arbennig os byddant yn gofyn i chi anfon arian atynt neu ddefnyddio rhif ffôn premiwm (rhifau ffôn sy’n dechrau gyda 09).

Cwyno i'r TPS

Cewch gwyno wrth y TPS drwy:

  • ffonio 0345 070 0707
  • mynd i wefan y TPS
  • drwy'r post: Telephone Preference Service (TPS), DMA House, 70 Margaret Street, London W1W 8SS.

Cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cewch gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:

ffonio’u llinell gymorth: 0303 123 1113

mynd i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

neu drwy’r post: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Gwybodaeth ddefnyddiol i’w chynnwys wrth gwyno

Pan fyddwch chi’n cwyno, ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys:

  • y sefydliad a wnaeth yr alwad;
  • dyddiad ac amser yr alwad;
  • y rhif ffôn a wnaeth yr alwad; a
  • natur y gwerthu/marchnata a ddigwyddodd yn ystod yr alwad.

Mae’r wybodaeth hon yn werthfawr oherwydd mae’n helpu rheoleiddwyr i weithredu’n fwy penodol.

Dylech fod yn ymwybodol o alwadau sgam, fel y rheini sy’n gofyn i chi anfon arian ymlaen llaw neu brynu rhywbeth ymlaen llaw cyn i chi gael y wobr neu’r cynnig, gofyn i chi wneud galwadau ffôn drud i gael y wobr neu’r cynnig, neu ofyn i chi am eich manylion banc neu wybodaeth bersonol arall.

Am y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y sgamiau diweddaraf, dylech gysylltu ag Action Fraud - canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan allanol Saesneg Action Call.

Ond, os yw cardiau debyd, sieciau neu fancio ar-lein yn gysylltiedig â'r sgam,  dylech gysylltu â’ch banc neu gwmni cerdyn credyd fel cam cyntaf.

Dylech fod yn wyliadwrus o'r sgam ‘methu galwad’.

Mae dioddefwyr yn methu galwad gan rif sy’n dechrau gyda 070 neu 076.

Mae’r rhifau hyn yn cael eu defnyddio am eu bod yn ymddangos fel rhifau ffôn symudol. Ond, pan fydd y dioddefwr yn ceisio ffonio’r rhif, mae’r alwad yn cael ei cholli ar unwaith, neu bydd tôn lein brysur yn cael ei chwarae, a bydd y dioddefwr yn gorfod talu 50c am wneud yr alwad.

Os byddwch chi’n methu galwad gan rif sy’n dechrau gyda 070 neu 076 nad ydych chi’n ei adnabod, peidiwch â’i ffonio’n ôl.

Yn hytrach, gwnewch nodyn o’r rhif a chwyno wrth y rheoleiddiwr cyfradd premiwm, PSA (yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn) drwy:

Ffonio: 0300 30 300 20
gwefan allanol Saesneg PSA
neu ysgrifennu at: Phone-paid Services Authority, 25th Floor, 40 Bank Street, London, E14 5NR

I gael rhagor o wybodaeth am sefydliadau defnyddiol eraill efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â nhw ynghylch sgamiau, tarwch olwg ar y manylion cyswllt.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig