Ymgynghoriad: Adolygiad o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol - Hyrwyddo cystadleuaeth rhwydwaith band eang cyflym iawn a gwibgyswllt

Cyhoeddwyd: 1 Rhagfyr 2017
Ymgynghori yn cau: 12 Ionawr 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Ar 31 Mawrth 2017 fe gyhoeddon ni ein cynigion ar gyfer rheoleiddio’r farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol (WLA) yn y dyfodol, a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd band eang a ffôn (gan gynnwys band eang cyflym iawn) i ddefnyddwyr preswyl a busnes. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym ym nodi cynigion pellach ar gyfer hyrwyddo cystadleuaeth ar gyfer gwasanaethau cyflym iawn a gwibgyswllt drwy atal BT rhag targedu ffioedd cyfanwerthu gostyngol lle y mae cystadleuwyr yn dechrau adeiladu rhwydweithiau newydd.

Lluniwyd ein cynigion i annog buddsoddi mewn rhwydweithiau gwibgyswllt, hyrwyddo cystadleuaeth a chyflawni buddion ar gyfer defnyddwyr.

Rydym wedi nodi 12 Ionawr 2018 fel y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad pellach hwn cyn llunio ein casgliadau terfynol a chyhoeddi ein datganiad ar yr adolygiad yn gynnar yn ystod 2018, gyda mesurau newydd i ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
WLA 2017 team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig