Yn y gorffennol roedd llawer o gwmnïau a ddarparodd y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio gan weithredwyr rhwydweithiau symudol i adeiladu a datblygu eu rhwydweithiau - cydrannau fel gorsafoedd trawsyrru, antenau a meddalwedd sy'n helpu i gyflwyno'r gwasanaethau symudol rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.
Fodd bynnag, dros amser mae nifer y cwmnïau ledled y byd sy'n cynhyrchu technoleg o'r fath wedi gostwng yn sylweddol, gan olygu y bu cyfyngiadau ar weithredwyr o ran dod o hyd i'r cydrannau yr oedd eu hangen arnynt.
Dyma rwystr iddynt fedru cadw eu rhwydweithiau'n effeithlon ac yn hyblyg. Erbyn hyn mae nifer y cyflenwyr wedi gostwng i bwynt lle mae'r dewis yn gyfyngedig iawn ac y gallai diffyg cystadleuaeth gyfyngu ar arloesedd, gyrru costau i fyny neu ostwng ansawdd y gwasanaethau a gynigir i gwsmeriaid.
Er mwyn goresgyn y cyfyngiadau hyn, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi strategaeth ar waith ar gyfer ‘amrywiaethu gwerthwyr telathrebu’. Mewn termau syml mae hyn yn golygu y gall gweithredwyr rhwydweithiau ddod o hyd i dechnoleg o ystod ehangach o gyflenwyr.
Rhan o'r strategaeth hon yw Open RAN. Mae hyn yn sefyll am Rhwydwaith Mynediad Radio Agored (Open Radio Access Network), ac mae'n seilwaith rhwydwaith sy'n galluogi mwy o ddewis a hyblygrwydd mewn cadwynau cyflenwi telathrebu. Ystyrir mai dyma un opsiwn a allai helpu i wella amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi.
Mae Open RAN wedi cael ei gymharu i Lego, gan iddo alluogi i gyflenwyr adeiladu a gwella'u rhwydweithiau gan ddefnyddio darnau gwahanol o dechnoleg, a all gael eu defnyddio gyda'i gilydd yn yr un ffordd ag y gellir cyfuno brics Lego.
Mae'n galluogi gweithredwyr i 'gymysgu a pharu' elfennau gwahanol i adeiladu eu rhwydweithiau, yn hytrach na defnyddio cydrannau a ddarperir gan un cyflenwr yn unig. Gallai enghreifftiau gynnwys elfennau caledwedd a meddalwedd gwahanol (y gallai'r naill na'r llall ohonynt gael eu cynhyrchu gan gyflenwyr gwahanol, er enghraifft), y gall y gweithredwr rhwydwaith ddod o hyd iddynt a'u hintegreiddio i'w rhwydwaith presennol.
Mae hyn yn annog cystadleuaeth ac arloesedd ymysg cyflenwyr, a allai yn ei dro arwain at swyddogaethau a nodweddion newydd y gall y bobl sy'n defnyddio'r rhwydweithiau hyn elwa ohonynt.
Gan y gellir gyrrau cost cydrannau i lawr, mae hyn yn golygu y gallai buddsoddiad gweithredwyr fynd ymhellach, gan gyflwyno mwy o gapasiti a phrofiad gwell i gwsmeriaid y gweithredwyr.
Beth yw rôl Ofcom?
Mae Ofcom eisiau annog arloesedd a buddsoddi mewn rhwydweithiau, fel y gall pobl a busnesau ddibynnu ar wasanaethau cyflym, dibynadwy a diogel. Felly, rydyn ni'n cefnogi'r datblygiadau a fydd yn helpu cyflwyno'r amcanion hyn.
Rhan o hyn yw'r prosiect SONIC Labs (Y Ganolfan Rhyngweithredu Rhwydweithiau Agored SmartRAN), rhaglen ar y cyd rhwng Ofcom a Digital Catapult a fydd yn helpu i brofi datrysiadau newydd i'w defnyddio yn y dyfodol yn y gadwyn gyflenwi telathrebu.
Fe'i cyhoeddwyd fel rhan o'r strategaeth amrywiaethu telathrebu i helpu cefnogi arloesedd a chystadleuaeth yn marchnadoedd y gadwyn gyflenwi, ac fe'i ariennir ar y cyd gan yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac Ofcom.
Mae'r rhwydwaith SONIC wedi cael ei adeiladu ar draws lleoliadau gwahanol yn y DU, i brofi opsiynau technoleg a dysgu pa fanteision y gallai eu creu. Mae nifer o gwmnïau eisoes yn manteisio ar hyn a gyda'r prosiect bellach yn fyw, byddai gan gyflenwyr ledled y byd y golau gwyrdd i gymryd rhan a helpu siapio cadwynau cyflenwi'r dyfodol.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am SONIC Labs yn y fideo yma.