Mae pobl Prydain yn treulio dim ond hanner yr amser ag oedden nhw bum mlynedd yn ôl yn siarad ar ffonau llinell dir. Felly, pam mae'n rhaid i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid band eang ddal i dalu ‘rhent llinell’, hyd yn oed os nad ydyn ni’n defnyddio ein ffonau cartref?
Y rheswm am hyn yw bod gwasanaethau ffôn a band eang cartref y rhan fwyaf o bobl yn cael eu darparu gan ddefnyddio’r un cysylltiadau. Nid yw rhent llinell yn bris am eich ffôn cartref; mewn gwirionedd dyma bris cynnal y wifren (neu’r ‘llinell’) sy’n trosglwyddo eich band eang, eich llinell dir a hyd yn oed rhywfaint o’ch gwasanaethau teledu i’ch cartref.
Felly, p’un ai a ydych chi’n defnyddio'r llinell ar gyfer band eang, galwadau neu wylio’r teledu, mae eich cyflenwr yn codi tâl am gynnal hynny, fel arfer ar ffurf rhent llinell. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd unrhyw nam ar y rhwydwaith fel arfer yn gallu cael ei drwsio heb i chi orfod talu ffi untro.
Ers 2016, ni all cwmnïau band eang hysbysebu costau band eang a rhent llinell ar wahân. Yn hytrach, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos beth yw cost lawn a chynhwysol ymrwymo i gontract band eang. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod rhent llinell yn rhan o gost darparu band eang. Fodd bynnag, mae rhai cwmnïau yn dal i wahanu’r rhain yn eu biliau.
Rheoli llinell
Os ydych chi’n defnyddio band eang lloeren neu symudol i gysylltu â’r rhyngrwyd yn eich cartref, ni fyddwch yn gorfod talu rhent llinell. Fodd bynnag, mae’n dal i gostio arian i ddarparu’r gwasanaethau hyn, felly mae’n bosibl na fydd y pris cyffredinol yn rhatach na band eang sy'n cael ei ddarparu drwy linell ffisegol. Mae rhai pecynnau band eang yn unig ar gael, ond nid yw’r rhain yn cynnwys gwasanaeth llinell dir. Fodd bynnag, nid ydyn nhw'n costio llai na bwndel band eang a ffôn cartref fel arfer.
Er bod yr amser rydyn ni’n ei dreulio ar linell dir wedi haneru, mae faint o ddata rydyn ni’n ei ddefnyddio ar rwydweithiau band eang ddeg gwaith yn fwy. Ar yr un adeg, mae gwariant cyfartalog cartrefi ar wasanaethau telegyfathrebiadau a theledu wedi bod yn gostwng.
Bydd ein hangen am ddata yn dal i dyfu yn sgil fideos diffiniad uchel iawn, cyfrifiadura cwmwl, gweithio gartref a ffrydio cerddoriaeth.