Adolygiad o’r farchnad ar gyfer gwasanaethau ffôn llinell dir yn unig

Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2017
Ymgynghori yn cau: 9 Mai 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Cyhoeddwyd y datganiad 26 Hydref

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ein casgliadau ar gyfer y farchnad ar gyfer gwasanaethau ffôn llinell dir yn unig yn dilyn ein Hymgynghoriad ym mis Chwefror.

Roedd gennym bryderon am ddefnyddwyr sy’n prynu gwasanaethau mewn cytundeb ar wahân ac nid fel rhan o fwndel gyda gwasanaethau eraill fel band eang neu deledu-drwy-dalu. Yn arbennig, roedden ni’n pryderu am gwsmeriaid nad ydynt yn prynu band eang sefydlog gan fod y farchnad yn eu trin yn annheg. Fe wnaethon ni sylwi bod defnyddwyr yn wynebu prisiau oedd yn codi ar gyfer rhentu’r llinell, er bod y costau cyfanwerthol yn disgyn.

Yn ein hymgynghoriad ym mis Chwefror, fe wnaethon ni gynnig gostyniadau prisiau wedi’u rheoli a’r gofyniad bod BT yn gweithio gyda ni i annog eu cwsmeriaid i ystyried pa fargeinion gwell oedd ar gael.

Rydym ni yn nawr wedi derbyn cynnig wrth BT sy’n cydfynd gydag ein cynigion rheoleiddio ar gyfer defnyddwyr llais yn unig. Yma rydym yn cyflwyno sut aethom ati i ystyried cynnig BT.

Rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy'n nodi ein cynigion pellach ar gyfer anghenion adroddiadau ariannol sydd angen i BT ddilyn wrth weithredu gwasanaethau llinellau tir ar wahãn.

Rheoli eich costau llinellau tir: Sut i ddewis y tariff gorau i chi, yn cynnwys cyngor penodol ar gyfer pobl ar gyflogau isel.

Newid darparwr llinellau tir: Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth dylech chi wneud os hoffech newid eich llinell tir a chael darparwr newydd.

Gostyngiad biliau ar gyfer cwsmeriaid llinellau tir yn unig BT: Erthygl yn esbonio adolygiad y farchnad ar gyfer gwasanaethau llinellau tir ar wahân

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Catherine Warhurst
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig