Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn ein Hadolygiad Strategol o Gyfathrebiadau Digidol; a’r ‘Ymgynghoriad ar atebion ar gyfer mynediad i Bolion a Phibellau’ (“Ebrill 2017 Ymgynghoriad DPA”) a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill 2017 fel rhan o’n hadolygiad i’r farchnad mynediad lleol cyfanwerthol (WLA).
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â mynediad i bolion a phibellau Openreach. Yn ein Hymgynghoriad DPA ym mis Ebrill 2017, gwnaethom nodi ein cynigion a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Openreach roi mynediad i seilwaith, gan gynnwys ar gyfer beth y gellid defnyddio hyn a sut y dylai hyn weithio o ran proses. Yn ogystal â hynny, aethom ati i nodi ein cynigion cyffredinol ynghylch sut y gellid pennu ffioedd rhentu a sut byddai'r costau yn cael eu hadennill, gan ddweud y byddem yn rhoi mwy o fanylion yn yr haf. Mae’r ymgynghoriad hwn yn datblygu mwy ar y cynigion hyn o ran prisiau.
Erbyn hyn, rydym wedi nodi ein cynigion prisiau manwl ar osod ffioedd rhentu, y terfyn ariannol ar gyfer adennill costau addasu rhwydwaith, a newidiadau i ofynion adroddiadau ariannol rheoleiddio. Mae’r cynigion hyn yn rhan o’n hadolygiad o'r farchnad mynediad lleol cyfanwerthol ac mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu ein Hymgynghoriad DPA ym mis Ebrill 2017
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi 2017.
Ymateb i’r ymgynghoriad hwn
Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymatebion ymgynghoriadau (RTF, 1.4 MB).
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Wholesale local access market review: duct and pole access remedies (April 2017)
Wholesale local access market review (March 2017)
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA