Man on laptop wearing headphones

Ofcom yn gwthio’r chwyldro cyflwyno ffeibr llawn i’r cam terfynol

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2025
  • Mae Ofcom yn bwriadu parhau i reoleiddio o blaid cystadleuaeth er mwyn dod â chysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy i fusnesau ac i gymunedau ledled y DU i hybu twf economaidd
  • Disgwylir i fand eang ffeibr llawn gyrraedd bron pob cartref a busnes erbyn 2027 gyda’r gefnogaeth iawn

Mae Ofcom wedi cyhoeddi bod band eang ffeibr llawn ar y trywydd iawn i fod ar gael i’r wlad gyfan bron erbyn 2027, wrth i’r rheoleiddiwr nodi sut mae’n bwriadu parhau i wthio momentwm y diwydiant ar gyfer cam terfynol y cyflwyno. 

Gan adeiladu ar ein rheoliadau conglfaen a gyflwynwyd yn 2021, rydym heddiw’n cyhoeddi cynigion i roi hwb pellach i gystadleuaeth a buddsoddiad mewn cysylltiadau ffeibr llawn, a allai – yn ôl data’r diwydiant telegyfathrebiadau – gyrraedd 96% o gartrefi a busnesau yn ystod y ddwy flynedd nesaf [1].

Mae cyflwyno ffeibr llawn ledled y DU yn llwyddiant yng nghyswllt seilwaith ym Mhrydain. Bedair blynedd yn ôl, roedd gan lai na chwarter cartrefi a swyddfeydd y DU fynediad, ac erbyn heddiw mae hyn wedi codi i bron i saith o bob 10. Ond nid ydym yn cymryd y momentwm hwn yn ganiataol heddiw, rydym yn nodi sut gallwn weithio gyda’r sector i gwblhau’r gwaith.

Mae’n golygu y bydd pobl a busnesau o bron i bob cwr o’r wlad yn cael band eang cyflymach a gwell, gan sbarduno twf economaidd a galluogi pawb i elwa o dechnolegau fel deallusrwydd artiffisial.

- Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Llwyddiant ym maes seilwaith ym Mhrydain

Bedair blynedd yn ôl, roedd llai na chwarter cartrefi a swyddfeydd Prydain yn gallu cael gafael ar fand eang ffeibr llawn [2]. Felly yn 2021 cyflwynodd Ofcom fframwaith rheoleiddio newydd i roi hwb ychwanegol i’r broses gyflwyno.

Roeddem wedi cymell rhwydweithiau presennol i fuddsoddi, gan ei gwneud yn rhatach ac yn haws i newydd-ddyfodiaid i’r farchnad adeiladu gan ddefnyddio pibellau a pholion telegraff Openreach. O ganlyniad, mae’r DU wedi gweld un o’r cyfraddau cyflymaf o ran cyflwyno band eang ffeibr llawn yn Ewrop, gyda buddsoddiad y diwydiant yn amrywio rhwng £3bn a £6bn bob blwyddyn.

Mae gan tua saith eiddo o bob 10 (69% neu 20.7m) fynediad at ffeibr llawn erbyn hyn, ac mae darpariaeth rhwydweithiau sy’n gallu delio â gigabits wedi cynyddu o 11.6m eiddo (40%) yn 2021 i 25m (83%) y llynedd. I gwsmeriaid, mae mwy na saith eiddo o bob 10 nawr yn gallu dewis rhwng dau neu fwy o rwydweithiau band eang gwahanol.

Mae Ofcom wedi casglu’r data diweddaraf gan gwmnïau telegyfathrebiadau, sy’n dangos y gallai darpariaeth ffeibr llawn gyrraedd 96% erbyn 2027 gyda’r cymorth a’r rheoleiddio cywir.

Rheoleiddio i hybu buddsoddiad a chystadleuaeth ymhellach

Bydd sicrhau band eang o ansawdd uchel sydd bron yn gyffredin yn helpu i sbarduno twf economaidd, datgloi potensial cymunedau anghysbell, galluogi enillion cynhyrchiant a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt ddod yn fwy digidol. Ond rydym yn cydnabod bod angen rhagor o fuddsoddiad o hyd ar gyfer yr ymdrech derfynol i sicrhau bod dyfodol ffeibr llawn y DU yn dod yn realiti.

Mae cystadleuaeth gan rwydweithiau band eang newydd yn datblygu ond bydd yn cymryd amser i ddod yn gynaliadwy, wrth i newydd-ddyfodiaid ymdrechu i adeiladu eu sylfaen cwsmeriaid a thyfu. Mae denu cwsmeriaid i symud o hen rwydweithiau i ffeibr llawn yn allweddol i lwyddiant pob darparwr, ac mae’r nifer sy’n eu defnyddio’n cynyddu’n gyson.[3]

Er mwyn helpu i gynnal momentwm y diwydiant a chefnogi’r gwaith o’i gyflwyno ymhellach, mae Ofcom heddiw yn nodi sut rydym yn bwriadu rheoleiddio’r marchnadoedd band eang cyfanwerthol rhwng 2026 a 2031 fel rhan o’n Hadolygiad o Fynediad Telegyfathrebiadau [4]. Drwy ymgynghoriad heddiw mae Ofcom yn cyflawni’r cyntaf o’i bum ymrwymiad o dan Gynllun Gweithredu rheoleiddio’r Llywodraeth, a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Gan adeiladu ar sylfaen gadarn ein rheoliadau yn 2021, bydd ein fframwaith arfaethedig yn rhoi sefydlogrwydd ac eglurder i’r farchnad, yn hyrwyddo cystadleuaeth deg a chynaliadwy, ac yn y pen draw yn helpu i sicrhau bod band eang ffeibr llawn ar gael ar draws llawer mwy o bentrefi, trefi a dinasoedd yn y DU.

Mae ein cynigion yn cynnwys:

  • Hyrwyddo cystadleuaeth. Gan adlewyrchu bod mwy na’r disgwyl o seilwaith newydd wedi cael ei adeiladu, rydym nawr yn cynnig nodi bod mwy o’r DU i gael cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau band eang, neu’r potensial am hynny. O dan ein cynlluniau, bydd cystadleuwyr yn dal i gael mynediad at bibellau a pholion Openreach, er mwyn iddynt allu cyflwyno eu rhwydweithiau ffeibr llawn newydd a chysylltu cwsmeriaid yn gyflym ac am gost is na chloddio eu hunain. Rydym hefyd yn cynnig cryfhau ein rheolau ar gynigion cyfanwerthol a disgowntiau Openreach, fel na all rwystro cystadleuaeth yn annheg.
  • Cyflwyno ffeibr ar gyfer Prydain wledig. Yn rhannau mwyaf gwledig neu anghysbell y wlad lle mae buddsoddi mewn rhwydweithiau newydd yn llai deniadol yn fasnachol, byddwn yn canolbwyntio ar hyrwyddo adeiladu ffeibr llawn gan Openreach. Ar wahân, lle nad yw Openreach yn debygol o wynebu cystadleuaeth, rydym hefyd yn cynnig safonau ôl-stop newydd o ran cyflymder ac ansawdd gwaith atgyweirio a gosod ar gyfer gwasanaethau ffeibr llawn.
  • Diogelu cwsmeriaid. Wrth i gystadleuaeth rhwydwaith ddatblygu, byddwn yn diogelu defnyddwyr drwy gapio’r pris nominal y gall Openreach ei godi ar ddarparwyr manwerthu – fel Sky neu TalkTalk – am gyflymderau llwytho i lawr hyd at 80Mbit yr eiliad, yn hytrach na 40Mbit yr eiliad ar hyn o bryd. Ni fydd prisiau cynnyrch cyflymach yn cael eu rheoleiddio o hyd, felly mae Openreach a darparwyr eraill yn cadw’r cymhelliant i fuddsoddi mewn rhwydweithiau gwell.
  • Cau’r rhwydwaith copr. Mae Ofcom yn cefnogi trosglwyddo’n llyfn o’r hen linellau copr i ffeibr. Ni ddylai Openreach orfod wynebu costau diangen am redeg dau rwydwaith ar yr un pryd, a bydd hefyd yn dechrau cau cyfnewidfeydd ffôn diangen dros y blynyddoedd nesaf.
  • Tu hwnt i 2031. Rydym yn disgwyl parhau â’n dull o gefnogi buddsoddiad a chystadleuaeth os yw’n dal i ddod i’r amlwg ymhen pum mlynedd. Os bydd angen gosod rheolaethau prisiau ar Openreach yn y dyfodol, dros amser byddai’r cwmni’n cael cyfle i ennill elw sy’n uwch na chost ei fuddsoddiad. Ar ôl 2031, os bydd cystadleuaeth effeithiol wedi datblygu, ni fydd angen i Ofcom reoleiddio.

Y camau nesaf

Mae ein cynigion ar agor ar gyfer ymgynghoriad tan 12 Mehefin 2025, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniadau ym mis Mawrth 2026 cyn i’r rheolau presennol ddod i ben ddiwedd y mis hwnnw.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

1. Mae data rydym wedi’i gasglu gan ddarparwyr am eu darpariaeth ddisgwyliedig ar sail cynlluniau cyflwyno rhwydwaith yn dangos y gallai 96% o eiddo gael mynediad at fand eang ffeibr llawn erbyn 2027 os bydd yr holl gyflwyno rhwydwaith yn digwydd.

2. Mae ffeibr llawn yn defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i gartrefi pobl, heb ddefnyddio unrhyw linellau copr. Mae ffeibr llawn yn gallu darparu cyflymderau llwytho i lawr o dros un gigabit (1,000 Mbit) yr eiliad ac felly dywedir ei fod yn gallu delio â gigabits. Yn ogystal â ffeibr llawn, mae mathau eraill o fand eang sy’n gallu delio â gigabits, fel rhwydwaith cebl Virgin Media sy’n defnyddio cymysgedd o dechnolegau.

3. Ar draws pob darparwr, lle mae ffeibr llawn ar gael mae’n cael ei ddefnyddio gan 35% ar gyfartaledd.

4. Fel rhan o’n hadolygiad, mae Ofcom hefyd yn nodi sut rydym yn bwriadu rheoleiddio’r farchnad gyfanwerthol ar gyfer cysylltiadau capasiti uchel. Mae busnesau’n dibynnu ar y cysylltiadau hyn i ddarparu eu cysylltiad â’r rhyngrwyd ac â gwasanaethau yn y cwmwl. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gan weithredwyr rhwydweithiau sefydlog a symudol i ddarparu cysylltedd fel rhan o’u rhwydweithiau eu hunain.

Yn ôl i'r brig