Ymchwiliad i berfformiad ansawdd gwasanaeth Openreach mewn marchnadoedd mynediad llinellau ar les a mynediad lleol cyfanwerthol yn 2022/23

Cyhoeddwyd: 5 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 14 Mawrth 2024

Ar agor

Ymchwiliad i

Openreach

Achos wedi’i agor

27 Mehefin 2023

Achos ar gau

18 Mawrth 2024

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i berfformiad ansawdd gwasanaeth Openreach yn y marchnadoedd mynediad llinellau ar les a mynediad lleol cyfanwerthol yn ystod 2022/23

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amod SMP 10.1; a'r Safonau Ansawdd Gwasanaeth a nodir yng Nghyfarwyddyd 1 a Chyfarwyddyd 3 a nodir yn Atodlenni 1 a 3 yn y drefn honno i'r Cyfarwyddiadau i BT o dan adran 49 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 ac Amod SMP 10 a nodir yng Nghyfrol 7 yr Adolygiad o'r Farchnad Telathrebu Sefydlog Cyfanwerthol (WFTMR)

Gan ddilyn ein hymchwiliad mae Ofcom bellach wedi rhoi penderfyniad i BT Telecommunications plc ('BT plc' neu 'BT').

Mae'n ofynnol i BT fodloni safonau perfformiad Ansawdd Gwasanaeth ('QoS') penodol ar draws y marchnadoedd llinellau ar les, Cysylltedd rhwng Cyfnewidfeydd a mynediad lleol cyfanwerthol. Gweithredir y safonau hyn o dan yr Amodau SMP a bennir ar gyfer BT plc o dan WFTMR. Penodwyd Openreach Limited (Openreach) gan BT plc fel asiant i reoli a gweithredu busnes rhwydwaith BT y mae'r safonau hyn yn berthnasol iddo.

Canfu Ofcom fod BT, trwy Openreach, wedi mynd yn groes i Amod 10.1 SMP a’r Safonau QoS a nodir yng Nghyfrol 7 o’r Adolygiad o’r Farchnad Telathrebu Sefydlog Cyfanwerthol (WFTMR), drwy fethu â bodloni tair rhwymedigaeth QoS.

  • Yr Amser Cymedrig i Ddarparu ar gyfer archebion wedi'u cwblhau oedd 38.36 diwrnod ar gyfer Gwasanaethau Ethernet Perthnasol a Mynediad Ffeibr Tywyll mewn rhai marchnadoedd llinellau ar les penodol a rhai marchnadoedd Cysylltedd rhwng Cyfnewidfeydd penodol (sy'n uwch na'r safon o ddim mwy na 38 diwrnod);
  • Cwblhawyd 93.8% o ddarpariaethau ar gyfer gwasanaethau MPF a GEA-FTTC ar amser yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr (sy'n is na'r safon 94%); a
  • Chwblhawyd 84.2% o atgyweiriadau ar gyfer diffygion sy'n destun Rheolaeth Gwasanaeth Lefel 2 ar amser yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr (sy'n is na'r safon 85%).

A ninnau wedi ystyried yr wybodaeth a gasglwyd am yr amgylchiadau a effeithiodd ar berfformiad yn 2022/2023, a’r camau a gymerwyd gan Openreach i gydymffurfio â rhwymedigaethau QoS BT o dan yr amgylchiadau hyn, mae Ofcom wedi penderfynu peidio â gosod cosb ariannol nac unrhyw rwymedi arall mewn perthynas â'r toriadau hyn.

Wrth wneud y penderfyniad hwn, bu i Ofcom ystyried y ffactorau canlynol hefyd:

  • Methwyd pob un o'r tair safon o drwch blewyn;
  • Gwelodd cyfnod rheoleiddio 2022/2023 wyth diwrnod o weithredu diwydiannol ('GD') gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ('CWU’);
  • Cyfrifodd Openreach fod effaith y GD ar ei berfformiad yn 2022/23 yn fwy na’r lwfans ar gyfer methu ym mhob un o’r tair safon;
  • Nid oedd y toriad yn un difrifol - mae Openreach wedi dangos ei fod wedi gwneud ymdrechion sylweddol i fodloni'r gofynion perfformiad.

Amcan craidd gosod cosb (fel y nodir yn y Canllawiau Cosb yr ydym wedi'u cyhoeddi) yw ataliaeth o ran derbynnydd ein penderfyniad a'r diwydiant ehangach. Ein barn ni yw na fyddai cosb neu rwymedi arall, yn yr achos hwn, yn briodol nac yn gymesur â'r tramgwyddau.

Mae Ofcom yn cymryd cydymffurfiaeth â safonau QoS o ddifrif, gan y gall achosi niwed i ddefnyddwyr pan fydd lefelau gwasanaeth yn disgyn islaw'r safonau disgwyliedig. Mae’n bwysig bod Darparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu'n cymryd cydymffurfiaeth â’u cyfrifoldebau rheoleiddio o ddifrif a phan aiff pethau o chwith, eu bod yn cydnabod hynny ac yn gweithredu’n gyflym ac yn gyfrifol i unioni unrhyw niwed a achoswyd a’u bod yn caniatáu i Ofcom ymchwilio, fel y bo'n briodol.

Caiff fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'n penderfyniad ei gyhoeddi maes o law.

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad ar ei menter ei hun i gydymffurfiaeth Openreach â'i dargedau perfformiad o ran ansawdd gwasanaeth yn ystod 2022/23.

Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i Openreach fodloni safonau perfformiad ansawdd gwasanaeth penodedig ar draws y marchnadoedd mynediad llinellau ar les a'r marchnadoedd mynediad lleol cyfanwerthol. Gweithredir y safonau hyn o dan yr Amodau SMP a bennir ar gyfer BT o dan WFTMR.

Ymhlith targedau eraill, rhaid i Openreach:

  • sicrhau nad yw'r Amser Cymedrig i Ddarparu ar gyfer archebion wedi'u cwblhau yn fwy na 38 diwrnod gwaith ym mhob blwyddyn berthnasol;
  • sicrhau ei fod yn cwblhau 94% o ddarpariaethau ar gyfer gwasanaethau MPF a GEA-FTTC, ar amser; a
  • sicrhau ei fod yn cwblhau 85% o’i atgyweiriadau ar gyfer diffygion sy'n destun Rheolaeth Gwasanaeth Lefel 2, ar amser.

Mae Openreach wedi hysbysu Ofcom, yn 2022/23 ei fod wedi:

  • cymryd amser cymedrig i ddarparu archebion wedi'u cwblhau o 38.36 diwrnod;
  • cwblhau 93.8% o ddarpariaethau ar gyfer gwasanaethau MPF a GEA-FTTC ar amser yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr; a'i fod wedi
  • cwblhau 84.2% o atgyweiriadau ar gyfer diffygion sy'n destun Rheolaeth Gwasanaeth Lefel 2 ar amser yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr.

Gosodwyd y rhwymedigaethau ansawdd gwasanaeth i sicrhau bod Openreach yn darparu lefel briodol o wasanaeth i'w gwsmeriaid. Bwriedir i'r rhwymedigaethau fod yn derfyn is, sy'n cael eu bodloni o dan bob amgylchiad heblaw rhai eithriadol iawn. Mae Ofcom yn cymryd cydymffurfiaeth â’r rhwymedigaethau ansawdd gwasanaeth o ddifrif a bydd yr ymchwiliad yn archwilio perfformiad Openreach mewn perthynas â’r flwyddyn 2022/23.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01273/06/23

Yn ôl i'r brig