- Mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i dros 600,000 o gartrefi yng Nghymru
- Nifer yr aelwydydd heb fynediad at fand eang digonol yn gostwng o dan 1%
- Darpariaeth 5G yn gwella'n gyson
Erbyn hyn gall pedwar o bob deg cartref gael mynediad i'r cysylltiadau rhyngrwyd cyflymaf, mwyaf dibynadwy, wrth i dechnoleg ffeibr llawn gael ei chyflwyno ar garlam yng Nghymru ac mae'n parhau i gyfateb i argaeledd ar draws y DU.
Yn ôl adroddiad blynyddol Cysylltu'r Gwledydd Cymru (PDF, 1.5 MB) Ofcom, sy'n mesur argaeledd gwasanaethau band eang a symudol ar draws Cymru a'r DU, mae cysylltiadau ffeibr llawn bellach ar gael i o leiaf 600,000 o aelwydydd (40%) – cynnydd o 13 pwynt canrannol, neu 200,000 o gartrefi, o gymharu â'r llynedd.
Gall cysylltiadau ffeibr llawn – ynghyd â rhwydweithiau cebl wedi'u huwchraddio – ddarparu cyflymder lawrlwytho o un gigabit yr eiliad neu fwy (Gbit/e). At ei gilydd mae band eang cyfradd gigabit a ddarperir dros ystod o dechnolegau bellach ar gael i 52% o Gymru (bron i 800,000 o gartrefi).
Cysylltu ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd
Erbyn hyn gall y mwyafrif helaeth (95%) o gartrefi yng Nghymru gael band eang cyflym iawn, sy'n darparu cyflymder lawrlwytho o 30 Mbit yr eiliad o leiaf; er hynny, nid yw bron i dri o bob deg cartref yng Nghymru (30%) sydd â mynediad iddo wedi manteisio arno. Mae'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr llawn hefyd ar ei hôl hi o'i gymharu ag argaeledd, ar 28%.
Mae bron i 10,000 (0.7%) o gartrefi a busnesau nad oes ganddynt fynediad i fand eang 'digonol' – a ddiffinnir gan Lywodraeth y DU fel cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad. Mae llawer o'r rhain yn y rhannau anoddaf eu cyrraedd o Gymru, lle mae'n fwy cymhleth a chostus i adeiladu rhwydweithiau. Mae'r ffigur yma wedi gostwng o 15,000 y llynedd.
At hynny, amcangyfrifwn na all tua 6,000 o safleoedd yng Nghymru gael mynediad at wasanaeth band eang sefydlog digonol na gwasanaeth 4G da dan do. Powys yw'r awdurdod lleol yng Nghymru o hyd sydd â'r nifer uchaf o safleoedd (2,157) heb fynediad at fand eang digonol o naill ai wasanaeth 4G, cysylltiad sefydlog neu wasanaeth di-wifr.
Gall band eang lloeren fod yn ddewis amgen i bobl sydd heb fynediad at wasanaethau band eang traddodiadol. Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth y DU dreial newydd i ddarparu rhyngrwyd cyflym i fwy na dwsin o leoliadau anodd iawn eu cyrraedd ar draws y DU, gan gynnwys pencadlys Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Thŷ Cornel, canolfan gweithgareddau awyr agored yng Nghwm Crafnant, y ddau wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae ffeibr llawn yn helpu i fodloni gofynion cynyddol defnyddwyr, gyda miloedd yn fwy yn elwa o gyflymder uwch a chysylltiadau mwy dibynadwy. Ond mae rhai cartrefi mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn dal i brofi anhawster wrth gael band eang digonol ac mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod y cymunedau hyn yn cael y cysylltiadau sydd eu hangen arnynt.
Mae Ofcom yn chwarae ei rhan yn y broses hon ac yn cefnogi Tasglu Chwalu Rhwystrau Llywodraeth Cymru, sydd wedi amlygu'r angen am hyrwyddo manteision cysylltedd digidol i ddefnyddwyr, gan gynnwys gweithgareddau gosod lleol. Cydnabyddwn y bydd gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau a'r darparwyr sydd ar gael yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr cyflymach sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru
Cynnydd yn y ddarpariaeth 5G
Mae darpariaeth symudol yn sefydlog ar y cyfan - mae gan 62% o Gymru fynediad at ddarpariaeth ddaearyddol 4G da gan bob un o'r pedwar gweithredydd gyda'r ddarpariaeth yn amrywio'n sylweddol rhwng etholaethau Senedd Cymru mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru.
Bydd Cymru'n gweld ymchwydd sylweddol mewn darpariaeth symudol erbyn 2025 o ganlyniad i raglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir y cytunwyd arni rhwng Gweithredwyr y Rhwydweithiau Symudol a Llywodraeth y DU.
Mae argaeledd gwasanaethau 5G yn parhau i dyfu ond ar ei hôl hi o gymharu â rhai o'r gwledydd eraill. Mae lefel y ddarpariaeth y tu allan i safleoedd gan weithredwyr unigol yng Nghymru bellach yn rhychwantu amrediad o 10-46%, yr ail isaf o bedair gwlad y DU.
Nodiadau i olygyddion
- Mae fersiwn rhyngweithiol o'r adroddiad, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn galluogi i bobl edrych ar gymariaethau rhwng darpariaeth yn eu hardal.
- Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi'r Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol sy'n cymharu argaeledd band eang a'r nifer sy'n manteisio arno ar draws 17 o wahanol wledydd.
- Amcangyfrifwn fod 5G ar gael gan o leiaf un gweithredydd rhwydwaith symudol yng nghyffiniau 10-46% o safleoedd. Mae'r amrediad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir i ni gan weithredwyr ac wedi'i chyfeirio gan ein gwaith mesur ein hunain.