Adolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2015
Ymgynghori yn cau: 8 Hydref 2015
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Y ddogfen hon

Mae'r ddogfen hon yn crynhoi prif elfennau'r adolygiad mae Ofcom yn ei gynnal i farchnadoedd cyfathrebu digidol y DU. Dyma ein hasesiad strategol cyntaf o'r sector telegyfathrebu mewn deng mlynedd a dim ond yr ail ers sefydlu Ofcom yn 2003. Nod yr adolygiad ydy sicrhau bod marchnadoedd cyfathrebu digidol yn parhau i weithio er budd defnyddwyr, dinasyddion a busnesau.

Ers cyhoeddi'r adolygiad ym mis Mawrth 2015, rydyn ni wedi cwrdd yn anffurfiol ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cwmnïau rydyn ni'n eu rheoleiddio, grwpiau defnyddwyr, arsylwyr y diwydiant, arbenigwyr academaidd a chyrff cyhoeddus. Roeddem hefyd wedi cynnal fforwm rhanddeiliaid ym mis Mai, ac yna cyfres o weithdai ar themâu penodol.

Mae'r ddogfen hon yn ymgynghori â rhanddeiliaid yn fwy ffurfiol. Rydyn ni'n gobeithio clywed gan bawb sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfathrebu digidol, gan gynnwys defnyddwyr, busnesau, darparwyr cyfathrebu a chyrff cyhoeddus, a hynny o bob cwr o wledydd a rhanbarthau'r DU. Rydyn ni hefyd eisiau clywed safbwyntiau llunwyr polisïau a deddfwyr sy'n gosod y fframwaith statudol rydyn ni'n gweithredu ynddo. Wrth gyhoeddi'r ddogfen hon, ein nod ydy sicrhau bod unrhyw gasgliadau byddwn ni'n eu llunio yn seiliedig ar asesiad cywir o'r holl dystiolaeth sydd ar gael. Rydyn ni'n awyddus i glywed gan y rheini sydd â safbwyntiau gwahanol ynghylch ein dadansoddiad, neu sy'n dymuno cynnig eu safbwyntiau eu hunain.

Ar hyn o bryd nid ydym wedi llunio unrhyw gynigion i newid ein strategaeth na'n dulliau rheoleiddio. Ar ôl i ni bwyso a mesur yr holl dystiolaeth a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, rydyn ni'n bwriadu gwneud hynny ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'n bosibl y gellid gweithredu unrhyw gynigion a wneir o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd y byddwn yn argymell newidiadau, naill ai i'r fframwaith Ewropeaidd neu i ddeddfwriaeth ddomestig.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Hydref 2015.

Ymatebion

Yn ôl i'r brig