Mae’r ddogfen hon yn nodi cynigion Ofcom ar gyfer rheoleiddio’r marchnadoedd telegyfathrebiadau sefydlog sy’n sail i gysylltiadau band eang, symudol a busnes, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2026 a mis Mawrth 2031. Mae ein cynigion wedi’u cynllunio i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau o safon sy’n gallu delio â gigabits – gan ddod â band eang cyflymach a gwell i bobl ac i fusnesau ledled y DU.
Ers casgliad ein hadolygiad diwethaf yn 2021 (yr WFTMR), rydym ni wedi gweld Openreach ac amrywiaeth eang o gwmnïau eraill yn adeiladu’n sylweddol, gan roi’r DU ar y trywydd iawn i sicrhau bod rhwydweithiau sy’n gallu delio â gigabits ar gael yn eang. Bellach, mae band eang sy’n gallu delio â gigabits ar gael i fwy na 25 miliwn o gartrefi (83% o’r DU) ac mae dros 20 miliwn o gartrefi (69%) nawr yn gallu cael band eang ffeibr llawn. Mae cystadleuwyr yn adeiladu rhwydweithiau hefyd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo sydd â dewis o rwydweithiau.
Rydym yn cydnabod y camau breision y mae’r diwydiant wedi’u cymryd i gyflwyno rhwydweithiau ffeibr llawn. Ond mae mwy i’w wneud. Mae angen rhagor o fuddsoddiad i ddarparu gwasanaethau o safon i bob rhan o’r DU. Rydym hefyd am weld cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau yn parhau i ddatblygu lle mae hyn yn gynaliadwy a lle mae’n sicrhau manteision i ddefnyddwyr.
Rydym yn cynnig bod gan BT bŵer sylweddol yn y farchnad (SMP) mewn nifer o farchnadoedd, ac felly rydym yn cynnig fframwaith rheoleiddio i fynd i’r afael â phryderon y gystadleuaeth sy’n codi o ganlyniad. Mae ein hatebion arfaethedig yr un fath ag yn ein hadolygiad diwethaf, ac eithrio lle mae datblygiadau diweddar neu bosibl yn y farchnad yn dangos bod angen diweddariad i roi sefydlogrwydd rheoleiddiol a chynnal cymhellion ar gyfer buddsoddi a chystadleuaeth rhwng rhwydweithiau.
Ymateb i’r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r Ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 12 Mehefin 2025.
Dogfennau ategol
The Fibre cost model is made up of five Excel workbooks (modules) with links between them. When downloading this model, please ensure that the links are correctly sourced to your downloaded modules. Similarly, both the Area 3 RAB model and the Dark fibre model have inputs that are linked to the Cost forecast model and these links may need to be updated to reflect your downloaded models. It is advised that the Dark fibre model should be used with the Cost forecast model also open (and links suitably updated) to ensure full scenario functionality.
Cyflwyniadau cyn-ymgynghoriad gan randdeiliaid
Sut i ymateb
Telecoms Access Review 2026
Networks & Communications
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA