Ymgynghoriad ar y newidiadau i’r Amodau Hawliau Cyffredinol

Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2018
Ymgynghori yn cau: 28 Mai 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Yr amodau cyffredinol ydy'r rheolau sy’n cael eu gosod gan Ofcom y mae’n rhaid i bob darparwr cyfathrebiadau eu dilyn er mwyn gweithredu yn y DU. Ar 19 Medi 2017, cyhoeddodd Ofcom ddatganiad a oedd yn diddymu'r amodau cyffredinol cyfredol, ac yn gosod amodau cyffredinol newydd a fyddai’n dod i rym ar 1 Hydref 2018.

Mae un o'r amodau hynny (amod C6.6) yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau’n cymryd camau i adnabod galwadau sydd â data adnabod y galwr annilys a’u rhwystro rhag cael eu cysylltu. Mae'r ddogfen hon yn ymgynghoriad ynghylch cynnig Ofcom i ddiwygio amod C6.6 i egluro na ddylid byth rhwystro galwadau i’r gwasanaethau brys rhag cael eu cysylltu.

Rydyn ni hefyd yn ymgynghori ar newidiadau ychwanegol i’n canllawiau ar gyfleusterau Adnabod y Galwr, yn dilyn adborth gan randdeiliaid. Mae’r newidiadau hyn yn ymwneud â delio â galwadau i’r gwasanaethau brys a chanllawiau ychwanegol i ddarparwyr cyfathrebiadau ar yr ymarfer gorau mewn perthynas â rhwystro neu stopio galwadau nad ydyn nhw’n rhai brys.

Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o fân newidiadau drafftio rydyn ni’n meddwl a fyddai’n ddefnyddiol eu gwneud i’r amodau cyffredinol newydd, cyn iddyn nhw ddod i rym yn nes ymlaen eleni.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Lara Singer
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig