Ymgynghoriad: Hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr: Adolygiad o'r Farchnad Telegyfathrebiadau Sefydlog Cyfanwerthol 2021-2026

Cyhoeddwyd: 29 Gorffennaf 2020
Ymgynghori yn cau: 16 Medi 2020
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Ym mis Ionawr 2020, gwnaethom gynnig y dull y bwriadwn ei ddefnyddio i brisio gwasanaethau mynediad lleol cyfanwerthol (WLA) yn y DU ac eithrio Hull. Ar gyfer ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn llai cystadleuol – Ardal Ddaearyddol 3 – roedden ni’n cynnig cael prisiau ar sail cost gan ddefnyddio dull sylfaen asedau rheoleiddiol (RAB) a fyddai’n caniatáu i BT adennill unrhyw fuddsoddiadau mewn rhwydweithiau ffeibr y mae’n eu gwneud.

O dan y dull RAB arfaethedig, byddai costau buddsoddi cyflwyno rhwydwaith ffeibr yn cael eu hychwanegu at sylfaen asedau BT ac yn cael eu hadennill ar draws yr holl gwsmeriaid, ffeibr a chopr, yn Ardal 3.

Ers cyhoeddi ein cynigion ym mis Ionawr, mae Openreach wedi ymrwymo i ymestyn ei rwydwaith ffeibr i 3.2 miliwn eiddo yn Ardal 3. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein dull arfaethedig o reoleiddio yn Ardal 3, yng ngoleuni’r ymrwymiad hwn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich hymatebion drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriadau  (ODT, 49.2 KB).

Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiadau sy'n cefnogi ein modelau costau yn fuan.

Other ways to respond

Yn ôl i'r brig