Rhaglen monitro cydymffurfiaeth â mynediad i wasanaethau brys yn ystod toriadau trydan

Cyhoeddwyd: 24 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd diwethaf: 24 Gorffennaf 2023

Ar gau

Gwybodaeth am y rhaglen

Argaeledd mynediad i wasanaethau brys yn ystod toriadau trydan

Achos wedi’i agor

11 Gorffennaf 2022

Achos ar gau

20 Gorffennaf 2023

Crynodeb

Mae rôl Ofcom o ran rheoleiddio telathrebu yn golygu sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag niwed, gan gynnwys wrth i'r rhwydwaith symud i VoIP. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod darparwyr yn cymryd pob mesur angenrheidiol i ddiogelu mynediad di-dor i Sefydliadau Brys fel rhan o unrhyw Wasanaeth Cyfathrebiadau Llais a gynigir.

Ym mis Hydref 2018, bu i ni gyhoeddi arweiniad ar sut y gall darparwyr barhau i gyflawni eu rhwymedigaeth i sicrhau mynediad di-dor i sefydliadau brys yn ystod toriad trydan ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy'n defnyddio technoleg gwasanaethau cyfathrebiadau llais a gludir dros fand eang. Bydd y rhaglen gydymffurfiaeth hon yn archwilio a yw darparwyr yn cymryd pob mesur angenrheidiol yn unol â'r rheolau.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amod Cyffredinol A3.2(b) yr Amodau Hawliau Cyffredinol

Mae Ofcom bellach wedi cau ei rhaglen monitro cydymffurfiaeth a lansiwyd fel rhaglen ar ei menter ei hun i asesu argaeledd mynediad at wasanaethau brys yn ystod toriadau trydan.

Fel rhan o'r rhaglen, bu i ni gaffael gwybodaeth gan ystod eang o dros 30 o Ddarparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu (CP) i asesu a yw gofynion Amodau Cyffredinol A3.2(b) - a'n disgwyliadau fel y nodir yn ein dogfen ymgynghori a chanllaw ym mis Hydref 2018 ar ddiogelu mynediad i sefydliadau brys pan fydd toriad trydan ar safle cwsmer - wedi'u bodloni.

Gwnaethom gywain gwybodaeth gan ystod o CP gan gynnwys darparwyr rhwydweithiau a darparwyr band eang a VoIP.

Ar sail ein hymchwil a'r wybodaeth a gafwyd gan CP, bu'n bosib i ni bennu:

  • Sut mae darparwyr yn cyfathrebu ac yn sicrhau bod eu cwsmeriaid yn deall y risg na fydd gwasanaethau VoIP, heb system wrth gefn benodol, yn gweithio os bydd toriad trydan
  • Y datrysiadau cydnerthedd a gynigir gan ddarparwyr a sut y gall cwsmeriaid ofyn amdanynt
  • Sut mae darparwyr yn nodi cwsmeriaid sy'n ddibynnol ar linellau tir ac felly yn wynebu risg.

Nid yw'r rhaglen wedi nodi unrhyw bryderon cydymffurfiaeth arwyddocaol yr ydym o'r farn y bydd angen ymchwilio'n ffurfiol iddynt. Rydym yn croesawu'r ymgysylltiad cydweithredol gan CP drwy gydol y rhaglen fonitro. Mae'r ymgysylltiad hwnnw wedi arwain at wneud gwelliannau i'r camau y maent yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ac yn diogelu eu cwsmeriaid.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi llythyr agored (PDF, 191.2 KB) i bob CP i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau o dan GCA3.2(b) a GCA3.3.

Mae Ofcom bellach wedi cwblhau proses cywain gwybodaeth ac wedi derbyn tystiolaeth gan nifer o wahanol ddarparwyr wedi'u rheoleiddio (darparwyr) sy'n cynnig gwasanaethau Ffeibr i'r Safle a Phrotocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP).

Mae Ofcom wrthi'n dadansoddi'r wybodaeth a dderbyniwyd ac mae hefyd yn cwrdd ag ystod o ddarparwyr a roddodd ymateb, er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o'r mesurau y mae darparwyr yn eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad di-dor i Sefydliadau Brys ar gyfer cwsmeriaid sy'n defnyddio technoleg VoIP yn ystod toriad trydan.

Byddwn yn asesu a yw'r mesurau y mae darparwyr yn eu rhoi ar waith yn bodloni ein disgwyliadau fel y'u nodir yn ein harweiniad a hefyd y rhwymedigaethau yn Amod Cyffredinol A3.2(b). Byddwn wedyn yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach ac yn cyhoeddi ein canfyddiadau yn unol â hynny.

Gan ddilyn ymchwil gyda defnyddwyr ac ysgrifennu at ddarparwyr a reoleiddir ar sail anffurfiol, mae Ofcom wedi agor rhaglen monitro cydymffurfiaeth ar ei menter ei hun i asesu cydymffurfiaeth gan ddarparwyr a reoleiddir ("darparwyr") ag Amod Cyffredinol A3.2(b) Yn dilyn y cam cywain gwybodaeth cychwynnol, bydd Ofcom yn ystyried yr ymatebion i benderfynu a oes angen unrhyw gamau pellach, gan gynnwys gorfodi.

Mae rhwydwaith telathrebu'r DU yn mynd trwy newidiadau arwyddocaol. Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi'u darparu dros rwydwaith sydd wedi'i adwaen fel y Rhwydwaith Cyfnewidfa Ffôn Cyhoeddus ("y PSTN”).   Mae'r PSTN yn hen ac mae'n mynd yn fwyfwy anodd a drud i'w gynnal a chadw, felly mae angen iddo gael ei newid.  Yn y dyfodol, bydd yr holl alwadau llinell dir yn cael eu darparu dros dechnoleg ddigidol, a elwir yn Brotocol Llais dros y Rhyngrwyd ("VoIP”).

Darperir galwadau llais traddodiadol dros y PSTN i safleoedd drwy gysylltiadau gwifren copr. Gan fod y llinellau hyn yn cael eu pweru o'r gyfnewidfa ffôn leol, gellir gwneud galwadau brys yn achos toriad trydan ar y safle. I'r gwrthwyneb, ni fydd galwadau a wneir dros fand eang gan ddefnyddio technoleg VoIP yn gweithio mewn toriad pŵer oni bai bod mesurau ychwanegol ar waith, gan fod angen trydan o'r prif gyflenwad ar offer band eang y safle er mwyn iddo weithio.

Mae rôl Ofcom o ran rheoleiddio telathrebu yn golygu sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag niwed, gan gynnwys wrth i'r rhwydwaith symud i VoIP. Mae Amod Cyffredinol A3.2(b) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr sicrhau mynediad di-dor i Sefydliadau Brys fel rhan o unrhyw Wasanaeth Cyfathrebiadau Llais a gynigir. Ym mis Hydref 2018, yn dilyn ymgynghoriad, bu i ni gyhoeddi arweiniad ar sut y gall darparwyr barhau i gyflawni eu rhwymedigaeth i sicrhau mynediad di-dor i sefydliadau brys yn ystod toriad trydan ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy'n defnyddio technoleg VoIP.

Yng ngham cyntaf y rhaglen monitro cydymffurfiaeth hon, bydd Ofcom yn cywain gwybodaeth gan amrywiaeth o ddarparwyr rhwydwaith amgen a darparwyr VoIP er mwyn deall yr hyn y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â diwydiant i sicrhau bod darparwyr yn deall eu rhwymedigaethau a sut y maent yn berthnasol i fusnesau sy'n darparu gwasanaethau Ffeibr i'r Safle.



Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01261/07/22

Yn ôl i'r brig