Telegraph pole HERO (1336 × 560px)

Ofcom yn ymchwilio i’r ffordd y mae’r rhwydwaith band eang BRSK yn gosod polion telegraff

Cyhoeddwyd: 30 Medi 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw’r darparwr rhwydwaith band eang BRSK wedi methu ymgynghori ag awdurdod cynllunio lleol cyn gosod polion telegraff.

O dan y Cod Cyfathrebiadau Electronig, mae cwmnïau telegyfathrebiadau dynodedig yn elwa o weithdrefnau cynllunio symlach sydd wedi’u dylunio i hwyluso’r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau symudol a band eang gwell. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gydymffurfio ag amodau penodol a nodir yn y Rheoliadau Cyfathrebiadau Electronig a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth.

Ar ôl i gŵyn ddod i law, rydym yn ymchwilio i weld a yw BRSK wedi methu cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau Cyfathrebiadau Electronig i ymgynghori ag awdurdod cynllunio lleol, a rhoi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i awdurdod cynllunio lleol cyn gosod polion telegraff yn ardal Birmingham.

Mae’r gofyniad i ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio yn rhan bwysig o’r rheoliadau hyn, gan ei fod yn sicrhau bod y darparwr yn cael gwybodaeth briodol am bryderon lleol ac yn rhoi rhywfaint o gydbwysedd i’r gweithdrefnau cynllunio symlach.

Er y gall darparwr, yn gyfreithiol, barhau i osod polyn telegraff, drwy’r gwaith ymgysylltu hwn gall awdurdodau cynllunio dynnu sylw’r darparwr at ystyriaethau lleol perthnasol – fel peryglon posibl neu bryderon ynghylch amwynder gweledol – a gosod amodau priodol (heb fod yn rhwymol) y maent am i’r darparwr gydymffurfio â nhw.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.

Yn ôl i'r brig