Ymgynghoriad: Treialu atebion i ddefnyddwyr

Cyhoeddwyd: 25 Medi 2019
Ymgynghori yn cau: 20 Tachwedd 2019
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae helpu cwsmeriaid i gael bargen deg am eu gwasanaethau cyfathrebu yn flaenoriaeth i Ofcom, ac mae gennym ni raglen barhaus sy’n benodol ar gyfer hyn. Mae ein gwaith yn ymwneud ag ystod o ymyriadau a mesurau rheoleiddio. Er mwyn ein helpu ni i asesu effeithiolrwydd tebygol mesurau newydd posib, rydyn ni’n cynnig rheol newydd a fyddai’n ein galluogi ni i fynnu bod darparwyr yn cymryd rhan mewn treialon ar gyfer atebion i gael cwsmeriaid i ymgysylltu. Byddai’r rheol hon, ochr yn ochr â’n gwaith ymchwil a’n gwaith arall yn casglu tystiolaeth, yn adnodd ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gael y bargeinion gorau.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Trials team
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig