Ydych chi’n cael problemau â'ch pecyn band eang? Ddim yn cael y cyflymder a gafodd ei addo i chi, neu ydych chi wedi dod o hyd i well bargen drwy wefan cymharu prisiau?
Mae newid eich band eang yn haws nag erioed. Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw cysylltu â’r darparwr rydych chi am newid iddo. Byddan nhw’n gallu egluro’r camau y mae angen i chi eu dilyn a byddan nhw’n trefnu’r newid ar eich rhan.
Mae rheolau Ofcom yn golygu y gallwch chi adael eich darparwr heb gael cosb os nad ydych chi’n derbyn y cyflymder band eang a gafodd ei addo i chi pan wnaethoch chi ymrwymo i’r contract.
Ni ddylech chi golli mwy nag un diwrnod gwaith o wasanaeth wrth newid darparwr, a dylai darparwyr eich digolledu os bydd pethau’n mynd o le.
Newid Un Cam
O fis Medi 2024 ymlaen, bydd proses newydd o newid ar gyfer yr holl wasanaethau band eang a llinell dir o’r enw ‘Newid Un Cam’ yn cael ei defnyddio. Bydd y broses hon yn haws, yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy i gwsmeriaid.
O dan y broses hon, does dim rhaid i chi siarad â’ch darparwr presennol. Yn lle hynny, gall eich darparwr newydd drefnu’r trosglwyddiad ar eich rhan. Yn syml, bydd angen i chi roi ychydig o fanylion iddynt gan gynnwys eich cyfeiriad ac enw eich darparwr presennol.
Bydd y manylion hyn yn cael eu cyfateb â chofnodion eich darparwr presennol, a byddant yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi ar unwaith i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r newid. Gall hyn gynnwys ffioedd terfynu cynnar neu effaith y newid ar unrhyw wasanaethau eraill rydych chi’n eu cael ar hyn o bryd. Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r newid, bydd y darparwr newydd yn trefnu hyn ar gyfer y dyddiad newid rydych chi’n ei ffafrio lle bo hynny’n bosibl yn dechnegol.
Ar ddiwrnod y newid, ar ôl cadarnhau bod eich gwasanaeth newydd yn gweithio’n iawn, bydd eich darparwr newydd yn rhoi gwybod i’ch hen ddarparwr i roi’r gorau i’ch gwasanaeth presennol ac ni ddylech chi orfod talu am unrhyw daliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad hwn. Ni ddylai unrhyw wasanaeth gael ei golli am fwy nag un diwrnod gwaith yn ystod newid.
O dan ein rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd eich digolledu mewn ffordd hawdd ac amserol os bydd pethau’n mynd o chwith, er enghraifft, os na fydd gennych chi wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith, neu os byddant yn colli unrhyw apwyntiadau gwasanaeth neu osod. Rhaid i ddarparwyr dalu iawndal o’r fath o fewn 30 diwrnod i gwblhau newid hwyr, neu ddyddiad unrhyw apwyntiad a fethwyd.
Os ydych chi'n newid eich meddwl, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch darparwr newydd i ganslo’ch cais i newid.
Newid bwndel
Os ydych chi’n defnyddio bwndel o wasanaethau gan ddarparwr, er enghraifft ffôn cartref a band eang, byddwch chi’n dilyn y broses a ddisgrifir uchod fel rheol.
Ond, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’ch hen ddarparwr er mwyn canslo gwasanaethau eraill rydych chi hefyd yn eu newid fel rhan o fwndel - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu. Bydd eich hen ddarparwr yn rhoi gwybodaeth i chi am eich opsiynau o ran y gwasanaethau hyn yn y wybodaeth y byddant yn ei hanfon atoch ynglŷn â’r newid.
Ffioedd terfynu cynnar a’r cyfnod newid meddwl
Os ydych chi eisiau newid darparwr cyn i gyfnod eich contract sylfaenol ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd terfynu’n gynnar (oni bai nad ydych chi’n cael y cyflymder a addawyd i chi). Os ydych chi’n defnyddio proses newid un cam, bydd eich darparwr presennol yn rhoi gwybod i chi’n awtomatig am unrhyw ffioedd terfynu.
A chofiwch, mae gennych chi’r hawl i ganslo eich archeb o fewn 14 diwrnod calendr (y cyfnod ‘newid meddwl’). Fodd bynnag, os yw eich gwasanaeth eisoes wedi dechrau, efallai y codir tâl arnoch chi am gyfran o’r gwasanaeth rydych chi eisoes wedi’i ddefnyddio pan fyddwch chi’n canslo a/neu unrhyw gostau gosod.
Rheoli eich newid dros eich hun
Efallai y byddwch yn dewis gofyn i'ch darparwr newydd beidio â rheoli'r newid ar eich rhan, er enghraifft os byddai'n well gennych gael cyfnod o orgyffwrdd rhwng y darparwr newydd a chanslo eich hen wasanaeth. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi archebu'r gwasanaeth gyda'ch darparwr newydd a chysylltu â'ch hen ddarparwr ar wahân i ganslo'ch contract presennol ar yr adeg briodol. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol na fyddai'r broses newid un cam yn berthnasol yn yr achos hwn.