- Proses newid band eang cyflymach, haws a mwy dibynadwy i'w chyflwyno o dan reolau newydd gan Ofcom
- Mae'r newidiadau'n golygu mai dim ond cysylltu â'r cwmni newydd y bydd angen i gwsmeriaid preswyl ei wneud
- Llai o drafferth wrth newid i gael bargen gwell neu wasanaeth cyflymach, mewn cyn lleied ag un diwrnod pan fo'n bosib
Bydd cwsmeriaid band eang a llinell dir yn ei chael yn haws newid darparwr a bachu bargen gwell nag erioed, o dan broses 'Newid Un Cam' newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.
Mae'r newid yn golygu mai dim ond cysylltu â'u cwmni newydd i newid y bydd angen i'r holl ddefnyddwyr band eang cartref - gan gynnwys cwsmeriaid cebl a ffeibr llawn - ei wneud, gan olygu nad oes angen siarad â'u darparwr presennol cyn symud.
Gall pobl eisoes newid rhwng darparwyr ar rwydwaith copr Openreach, megis BT, Sky a TalkTalk drwy ddilyn proses sy'n gweld eu darparwr newydd yn rheoli'r newid.
Ond am y tro cyntaf, bydd cwsmeriaid sy'n newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach i un sy'n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic – yn gallu defnyddio'r broses symlach.
Ar hyn o bryd, mae angen i'r cwsmeriaid hyn gysylltu â'u darparwr presennol a newydd i gydlynu'r newid, gan gynnwys ceisio pontio'r bwlch rhwng dod â'r hen wasanaeth i ben a chychwyn y gwasanaeth newydd.
Dangosodd ymchwil blaenorol gan Ofcom (PDF, 17.9 MB) fod pedwar o bob deg o bobl (41%) sy'n penderfynu yn erbyn newid wedi'u digalonni gan y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr. Penderfynodd nifer tebyg (43%) i beidio â newid gan iddynt gredu y bydd yn cymryd gormod o amser. Ac o'r rhai sydd yn newid, mae bron i chwarter (24%) sy'n cysylltu â'u darparwr presennol yn gorfod delio ag ymdrechion dieisiau i'w darbwyllo i aros.
Sut y bydd yn gweithio
Bydd y broses 'un cam' newydd yn ei gwneud yn haws cael pecyn cyflymach, bargen rhatach neu wasanaeth cwsmeriaid gwell pan fyddwch yn newid darparwr. Bydd hefyd yn ei wneud yn gyflymach – un diwrnod yn unig pan fydd yn dechnegol bosib.
- Bydd cwsmer yn cysylltu â'r darparwr newydd o'i ddewis ac yn rhoi eu manylion.
- Yna, mae'r cwsmer yn derbyn gwybodaeth bwysig gan eu darparwr presennol yn awtomatig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw daliadau ar gyfer terfynu'r contract yn gynnar y gallai fod yn rhaid iddynt eu talu, a sut y gallai'r newid effeithio ar wasanaethau eraill sydd gan y cwsmer gyda'r cwmni.
- Os yw'r cwsmer am fwrw ymlaen, bydd y darparwr newydd wedyn yn rheoli'r newid.
O dan ein rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd ddigolledu cwsmeriaid os bydd pethau'n mynd o chwith a'u bod yn cael eu gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith. Ac rydym wedi gwahardd taliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i'r dyddiad newid.
Mae'n rhaid bod pob darparwr wedi rhoi'r broses 'Newid Un Cam' ar waith erbyn mis Ebrill 2023. Bydd hyn yn golygu gwneud newidiadau sylweddol i'w systemau a bydd angen i ystod eang o gwmnïau weithio ar y cyd. Felly, rydym wedi egluro i'r diwydiant fod yn rhaid i'r gwaith ddechrau ar unwaith i gwrdd â'r terfyn amser.
Mae cyllidebau aelwydydd o dan straen ar hyn o bryd, felly gallai newid darparwr band eang helpu i gadw'ch biliau i lawr.
Rydym yn ei gwneud mor hawdd â phosib i chi adael eich darparwr band eang a manteisio ar y bargeinion sydd ar gael.
Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom
Gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn newyddiadurwr sydd am gysylltu â thîm cyfryngau Ofcom:
Ffoniwch: +44 (0) 300 123 1795 (newyddiaduron yn unig)
Gyrrwch eich ymholiad atom (newyddiaduron yn unig)
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd eisiau cyngor neu gwyno i Ofcom: