Person using laptop with broadband router on table

Cynlluniau newydd ar gyfer newid darparwr band eang yn ddi-dor

Cyhoeddwyd: 28 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf: 3 Chwefror 2024
  • Cynigion ar gyfer proses 'un cam’ newydd i leihau'r drafferth o newid darparwr band eang
  • Mae pedwar o bob deg o bobl sy'n ystyried newid ond yn penderfynu peidio yn cael eu hannog rhag gwneud gan iddynt orfod siarad â'u hen ddarparwr a'u darparwr newydd
  • Byddai dull newydd yn golygu bod angen i gwsmeriaid preswyl sydd am newid darparwr gysylltu â’r cwmni newydd yn unig

Byddai cwsmeriaid band eang a llinell dir yn elwa o broses newid darparwr sy’n fwy cyflym, syml a dibynadwy, o dan gynlluniau Ofcom i gyflwyno proses 'un cam' newydd.

Yn dilyn newid rheol Ofcom yn 2015, gall cwsmeriaid sy'n newid rhwng darparwyr fel BT, Sky a TalkTalk ar rwydwaith copr Openreach eisoes ddilyn proses lle mae eu darparwr newydd yn rheoli'r newid. Ond mae eraill yn dal i wynebu trafferth ychwanegol wrth newid.

Ar hyn o bryd, mae angen i gwsmeriaid sy'n newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy'n defnyddio'r rhwydwaith Openreach i un sy'n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic – gysylltu â'u darparwr presennol a’r un newydd i gydlynu'r newid. Mae hyn yn cynnwys ceisio sicrhau nad oes bwlch rhwng diwedd yr hen wasanaeth a dechrau’r un newydd.

Mae ymchwil newydd Ofcom yn dangos bod pedwar o bob deg o bobl (41%) sy'n penderfynu peidio â newid yn cael eu hannog rhag gwneud gan y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr. Mae nifer tebyg (43%) yn oedi newid gan iddynt gredu y bydd yn cymryd gormod o amser. Ac o'r rhai sy'n newid, mae bron i chwarter (24%) sy'n cysylltu â'u darparwr presennol yn wynebu ymdrechion dieisiau i'w darbwyllo i aros. [1]

Ym mis Hydref, rhoesom reolau newydd ar waith gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr band eang newydd arwain y gwaith o reoli'r newid, ni waeth p'un a yw'r cwsmer yn symud rhwng gwahanol rwydweithiau ai beidio, neu i wasanaeth ffeibr llawn ar yr un rhwydwaith.[2]

Byddai'r broses 'un cam’ newydd yn ei wneud yn haws i bob cwsmer band eang preswyl fanteisio ar yr amrywiaeth o fargeinion sydd ar gael yn y farchnad. Bydd ein diwygiadau hefyd yn ei wneud yn gyflymach i newid – ymhen cyn lleied ag un diwrnod os yw'n dechnegol bosib.

Mae hyn yn dilyn rheolau newydd a gyflwynwyd yn 2019 sy'n galluogi cwsmeriaid symudol i newid gweithredwr drwy anfon neges destun am ddim yn unig.

Sut y byddai’r broses newid “un cam” newydd yn gweithio

Rydym wedi ystyried gwahanol opsiynau, a gynigir gan ddiwydiant, ar sut y dylid gweithredu'r rheolau newydd hyn yn ymarferol. Ein dewis ddull yw cyflwyno proses newid 'un cam’ newydd ar gyfer pob cwsmer llinell dir a band eang preswyl.[3]

O dan y broses hon:

  • Byddai cwsmer yn cysylltu â'r darparwr newydd o'i ddewis ac yn rhoi ei fanylion.
  • Byddai'r cwsmer wedyn yn derbyn gwybodaeth bwysig yn awtomatig gan ei ddarparwr presennol. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw daliadau terfynu contract cynnar y gallai fod yn rhaid iddynt eu talu, a sut y gallai'r newid effeithio ar wasanaethau eraill sydd gan y cwsmer gyda'r cwmni.

Os yw'r cwsmer am fynd yn ei flaen, byddai'r darparwr newydd wedyn yn rheoli'r newid.

one-touch-switch-overview-cym

Meddai Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: "Mae llawer o wahanol gynigion ar gael gan ystod eang o ddarparwyr band eang a llinell dir. Ac rydym am ei wneud hyd yn oed yn haws i bobl gael gwell bargen neu uwchraddio i wasanaeth cyflymach a mwy dibynadwy.

"Rydyn ni'n gwybod y gall rhai cwsmeriaid gael eu hannog rhag newid gan y drafferth o orfod delio â mwy nag un darparwr yn y broses. Felly, nod ein cynigion heddiw yw gwneud y broses mor ddi-dor â phosibl, i bawb."

Camau nesaf

Rydym yn ymgynghori ar y cynigion heddiw tan 31 Mawrth 2021, ac yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad yn yr haf. Bydd angen i gwmnïau wneud newidiadau sylweddol i'w systemau a'u prosesau. Felly bydd y rheolau newydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2022.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Traciwr profiad newid Ofcom 2020 .
  2. Roedd y rheolau newydd hyn yn rhan o'n gwaith i weithredu’r Cod Cyfathrebu Electronig Ewropeaidd (EECC). O dan y rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd ddigolledu cwsmeriaid os aiff pethau o chwith a'u bod yn cael eu gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith. Ac rydym wedi gwahardd taliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i ddyddiad y newid.
  3. Cyflwynwyd dau ddewis gan y diwydiant – proses 'Newid Un Cam’ (ein dewis ddull gweithredu), a phroses 'Cod i Newid':
code-to-switch-overview-cym

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig