Cyhoeddwyd:
10 Mai 2023
Mae mwy o gwsmeriaid symudol yn newid darparwr – ac yn arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn gyda’i gilydd – yn dilyn newidiadau gan Ofcom sy’n gwneud y broses honno’n gyflymach ac yn haws.
Ers cyflwyno’r broses ‘neges i newid’ yn 2019, gall pobl newid darparwr symudol drwy anfon neges destun yn rhad ac am ddim. Bydd cod yn cael ei anfon at gwsmeriaid er mwyn iddyn nhw roi’r cod hwnnw i’w darparwr newydd. Bydd rhaid i’r darparwr newydd drefnu bod y newid yn cael ei gwblhau o fewn un diwrnod gwaith.
Fe wnaethom archwilio a yw cwsmeriaid wedi elwa o broses newid haws o ganlyniad i'n mesurau. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ein canfyddiadau.
Gwerthusiad terfyn rhaglen o effaith cyflwyno’r diwygiadau Newid Awtomatig (PDF, 154.9 KB)