Newid eich darparwr ffôn neu fand-eang heb ganiatâd

Cyhoeddwyd: 1 Awst 2023

Mae yna nifer o gwmnīau yn cystadlu bellach i gynnig gwasanaethau band-eang a ffôn i gwsmeriaid.

Gall gwmnïau ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau gwerthu a marchnata i ennill cwsmeriaid. Tra bod y mwyafrif o'r rhain yn cael eu gweithredu'n gyfrifol, gall rai cwmnïau ddefnyddio gweithgareddau anonest fel cam-werthu.

Mae yna sawl gwahanol ffordd o gam-werthu, un ohonynt yw 'slamio' -sef cael eich symud o'ch darparwr i un arall heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd.

Weithiau, ni fyddwch chi'n ymywybodol o hyn nes eich bod yn cael bil wrth gwmni gwahanol.

Rwyf eisiau cyflwyno cwyn am slamio

Mae Ofcom o'r farn fod slamio yn gwbl annerbyniol ac yn ffordd eithafol o gam-werthu. Mae taclo slamio yn flaenoriaeth bwysig i Ofcom.

Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o reolau llym yn erbyn slamio. Bydd cwmnïau telathrebu sy'n torri ein rheoli yn wynebu dirywon o hyd at 10 y cant o'u trosiant blynyddol.

Ym mis Mawrth 2010, cyflwynodd Ofcom reoliadau (ar gyfer cwsmeriaid preswyl a busnesau bychan) er mwyn gwarchod cwsmeriaid rhag beryglon cam-werthu a slamio gwasanaethau ffôn. Cafodd y rheoliadau hyn eu cryfhau ymhellach ym Mehefin 2015 gan ymestyn y rheolau i gam-werthu a slamio gwasanaethau band eang.

Y rheolau:

  • yn gwahardd gweithgareddau marchnata a gwerthu annerbyniol yn cynnwys slamio;
  • yn nodi'r math a'r lefel o wybodaeth sydd angen cyflwyno i'r cwsmeriaid wrth werthu ac wedi gwerthu (ond cyn bod y gwasanaeth wedi ei drosglwyddo). Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth bwysig am y termau a'r amodau allweddol ar gyfer y gwasanaeth, yn cynnwys rhwymedigaethau cytundebol a hawliau canslo;
  • manylu ar anghenion cadw cofnodion ar gyfer gweithgareddau gwerthu a marchnata. Mae hyn yn cynnwys bod angen i'r darparwr gadw cofnod o ganiatâd y cwsmeriaid i droslgwyddo eu gwasanaeth o'u darparwr presennol i'r darparwr newydd;
  • gwneud yn glir pryd mae angen i ddarparwyr ganslo archebion gan ddarparwyr eraill. Mae canslo archebion at ddibenion eraill ac nid y rhai a fanylir yn y rheoliadau wedi'u gwahardd.

Byddwn yn cadw llygad ar sut mae’r cwmnïau yma’n cydymffurfio gyda’r rheolau hyn ac yn gweithredu yn erbyn unrhyw gwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau hyn.

Mae Ofcom hefyd yn siarad gyda'r cwmnīau ffôn yn rheolaidd. Mae'r data rydym yn casglu wrthyn nhw am gam-werthu hefyd yn ein helpu ni i benderfynu os oes angen ymchwiliad.

Dyma ganllawiau i'ch helpu chi i osgoi cael eich 'slamio':

  • Byddwch yn wyliadwrus rhag datgelu gwybodaeth bersonol ar y ffôn
  • Cytunwch i rywbeth ar y ffôn os ydych yn sicr pwy yw'r person sy'n siarad gyda chi a beth yw'r hyn rydych yn cytuno i'w brynu. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i'r person bostio'r wybodaeth atoch yn gyntaf cyn i chi gytuno i arwyddo unrhywbeth
  • Gofynnwch i weld papurau adnabod wrth bobl sy'n gwerthu ar riniog y drws i wirio eu bod yn cynrychioli'r cwmni.
  • Peidiwch roi'ch manylion ariannol os nad ydych yn sicr eich bod yn dymuno newid darparwr
  • Peidiwch ag arwyddo unrhywbeth os nad ydych wedi ei ddarllen yn ofalus a'ch bod yn hapus gyda'r hyn yr ydych yn ymrwymo i'w brynu.

Mae yna nifer o amddiffyniadau sy'n rhan o'r broses newid ar gyfer gwasanaethau ffôn a band-eang sydd wedi'u dylunio i sicrhau eich bod yn cael eich amddiffyn rhag gael eich 'slamio.'

Byddwch yn derbyn llythyr wrth eich hen gwmni ffôn a'ch cwmni newydd yn rhoi gwybod i chi eich bod yn symud darparwr a'r dyddiad bydd y trosglwyddiad yn digwydd.

Os nad ydych yn dymuno symud at gwmni newydd, yna dylech gysylltu â'r darparwr y  mae eich gwasanaeth wedi’i drosglwyddo iddo a dweud nad oeddech wedi cytuno i’r trosglwyddo. Os gwnewch chi hyn o fewn 10 diwrnod, yna gallwch stopio'r trosglwyddo a pharhau gyda'r cwmni gwreiddiol.

Os ydy'r darparwr yn gwrthod canslo'r trosglwyddiad, gallwch gysylltu gyda'ch darparwr presennol a gofyn iddyn nhw ganslo'r trosglwyddiad. Dylai hyn fod yn bosibl hyd at 24 awr cyn y mae'r trosglwyddiad yn digwydd ond mae'n gwell gwneud hyn o leiaf 48 awr cyn y dyddiad trosglwyddo.

Os ydy'r gwasanaeth wedi trosglwyddo'n barod, gofynnwch i'ch darparwr gwreiddiol i symud eich gwasanaeth atyn nhw.

Os ydych yn gwybod pa gwmni sydd yn rhan o hyn ac yn dymuno cwyno, dylech ddilyn eu proses cwynion swyddogol nhw. Os nad ydy'r gwyn wedi ei datrys ac os ydych yn gwsmer preswyl neu fusnes bychan, gallwch wneud cwyn at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR). Os ydych yn gwsmer busnes gyda dros 10 o weithwyr yna bydd angen i chi gael gafael yn eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hunan.

Mae gan ddefnyddwyr rôl hanfodol yn ein helpu i ddatrys problem slamio. Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion chi ein helpu i lansio ymchwiliadau  a chymryd camau wedyn os bydd raid. Gallwch ein helpu ni i sicrhau nad yw pobl eraill yn dioddef o’r math hwn o gam-werthu.

Rwyf eisiau cyflwyno cwyn am slamio

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig