Rydyn ni wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf i'r gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid gan y prif ddarparwyr ffôn cartref, symudol a band eang – ac mae'n ddarlun cymysg gan ddibynnu ar ba ddefnyddiwr rydych yn ei ddefnyddio.
Yn gyffredinol, gwelsom fod boddhad cwsmeriaid yn uchel. Ond mae pryderon am amserau aros mewn galwadau a sut mae darparwyr yn trin cwynion.
Rydym wedi galw ar ddarparwyr i ganolbwyntio ar wella'r gwasanaeth i gwsmeriaid, ond yn y cyfamser mae yna gamau y gallwch eu cymryd fel cwsmer os teimlwch nad ydych yn cael y gwasanaeth rydych yn ei haeddu.
Un o'r rhain yn syml yw newid darparwr.
Ni fu newid erioed mor hawdd. Gallwch newid rhwydwaith symudol gyda neges destun syml, a gyda rhai darparwyr, gallwch adael eich contract band eang os nad ydych chi’n cael y cyflymder a addawyd i chi pan wnaethoch chi gofrestru.
Newid darparwr ffôn symudol
Rydym wedi'i wneud yn gyflymach ac yn haws i adael eich darparwr symudol presennol. Mae rheolau Ofcom yn golygu y gallwch newid darparwr symudol trwy anfon neges destun syml, am ddim, at eich darparwr presennol.
Mae'r broses 'tecstio-i-newid' yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros faint o gyswllt sydd gennych â'ch darparwr presennol.
Mae'n bwysig cofio, os ydych mewn contract o hyd gyda'ch darparwr, y gallai fod angen i chi dalu i ddod â'ch contract i ben yn gynnar. Os nad ydych yn siŵr ai dyna'r achos, tecstiwch ‘INFO’ i 85075 i gael gwybod heb ofyn am god newid.
Newid darparwr band eang
Mae'r broses i newid eich darparwr band eang yn dibynnu ar bwy fydd eich darparwr newydd, a pha fath o gysylltiad sydd gennych ar hyn o bryd.
Y peth cyntaf i'w wneud yw cysylltu â'r darparwr rydych eisiau newid iddo, a byddan nhw'n esbonio'r broses y bydd angen i chi ei dilyn.
O dan ein cod ymarfer cyflymder band eang, os ydych eisiau gadael eich darparwr presennol oherwydd nad ydych yn derbyn y cyflymder a addawyd i chi pan wnaethoch ymrwymo i'r contract, gallwch adael heb gosb - cyn belled â bod eich darparwr wedi ymrwymo i'r cod.
Er hynny, cofiwch y gallai fod angen i chi dalu taliadau terfynu cynnar (oni bai nad ydych yn cael y cyflymder a addawyd i chi) os ydych chi eisiau newid darparwr cyn diwedd eich isafswm cyfnod contract. Gwiriwch gyda'ch darparwr presennol a fydd angen i chi dalu unrhyw daliadau pan fyddwch yn newid.
Os yw eich gwasanaeth band eang presennol yn gweithio dros rwydwaith ffôn Openreach, a'ch bod yn newid i ddarparwr arall sydd hefyd yn defnyddio'r rhwydwaith hwn, gallwch chi ddilyn proses newid 'un cam'. (Ymysg y cwmnïau sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach mae BT, EE, Sky, TalkTalk a Vodafone.)
O dan y broses hon, nid oes angen i chi gysylltu â'ch darparwr presennol o gwbl. Yn hytrach, gall eich darparwr newydd drefnu'r newid i chi.
Newid darparwr ffôn cartref
Mae amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth ffôn cartref i ddewis ohonynt, a gallwch naill ai gael gwasanaeth unigol neu ddewis un sy'n dod fel rhan o fwndel gyda gwasanaethau eraill fel teledu, band eang a symudol.
Eto, cofiwch fod gan rai darparwyr isafswm cyfnod gwasanaeth neu gontract cyn y gallwch chi newid. Os ydych eisiau newid darparwr yn gynt na hynny mae'n bosib y bydd angen i chi dalu taliadau terfynu cynnar.
Mae ein canllaw yn esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych am newid eich llinell dir i ddarparwr newydd.