Bydd proses newydd rydym wedi'i chyhoeddi heddiw yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach nag erioed i chi newid eich darparwr band eang neu ffôn cartref.
O dan y broses 'Newid Un Cam', y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â'ch darparwr band eang cartref newydd i newid, ni fydd angen i chi siarad â'ch darparwr presennol cyn symud.
Bydd hyn yn berthnasol i bob defnyddiwr band eang cartref, gan gynnwys cwsmeriaid cebl a ffeibr llawn. Mae hyn yn golygu y gallwch chi newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach i un sy'n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic.
Sut y bydd yn gweithio
Bydd y broses 'un cam' newydd yn ei gwneud yn haws cael pecyn cyflymach, bargen rhatach, neu wasanaeth cwsmeriaid gwell pan fyddwch yn newid darparwr. Bydd hefyd yn ei wneud yn gyflymach – gall digwydd o fewn un diwrnod yn unig pan fydd hyn yn dechnegol bosib.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn ein datganiad newyddion.
Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg.
Beth os ydw i eisiau newid cyn i'r broses hon ddechrau?
Newid cymhleth iawn i ddarparwyr yw hwn. Felly ni fydd y broses newid newydd yn dod i rym tan fis Ebrill 2023, er mwyn rhoi amser i ddarparwyr wneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau fel y bydd yn gweithio'n dda i gwsmeriaid.
Er hynny, mae llawer y gallwch ei wneud yn awr os ydych am newid eich darparwr band eang.
Mae rheolau Ofcom yn golygu y gallwch adael eich darparwr heb gael eich cosbi os nad ydych yn derbyn y cyflymder band eang a addawyd i chi pan wnaethoch ymrwymo i'r contract.
Newid un stop
Os yw eich gwasanaeth band eang presennol yn gweithio dros rwydwaith ffôn Openreach, a'ch bod yn newid i ddarparwr arall sydd hefyd yn defnyddio'r rhwydwaith hwn (sy'n cynnwys BT, EE, Sky a TalkTalk), gallwch ddilyn proses newid 'un stop'.
O dan y broses hon, nid oes angen i chi gysylltu â'ch darparwr presennol o gwbl. Yn hytrach, gall eich darparwr newydd drefnu'r newid i chi.
Unwaith y byddwch wedi cysylltu â'ch darparwr newydd i gychwyn y broses newid, mae'n rhaid i'ch darparwr newydd a'ch hen ddarparwr ill dau anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi am fanylion y newid, a brasamcan o pryd y bydd yn digwydd.
Newid rhwng rhwydweithiau
Os ydych yn newid i, neu o, wasanaeth band eang ffeibr llawn neu ddarparwr nad yw'n defnyddio rhwydwaith Openreach – fel Virgin Media – bydd angen i chi stopio eich gwasanaeth gyda'ch darparwr presennol a chychwyn gwasanaeth newydd gyda darparwr newydd. Dylech gysylltu â'r ddau ddarparwr.
Bydd eich hen ddarparwr yn cadarnhau bod eich contract yn dod i ben – ac yn esbonio unrhyw daliadau a allai fod yn berthnasol – a bydd eich darparwr newydd yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd eich contract newydd yn dechrau.
Newid bwndel
Os ydych chi'n defnyddio bwndel o wasanaethau gyda darparwr, er enghraifft ffôn cartref a band eang, byddwch fel arfer yn dilyn un o'r prosesau a ddisgrifir uchod.
Fodd bynnag, os ydych yn newid darparwr ar gyfer bwndel sy'n cynnwys gwasanaeth teledu, efallai y bydd rhai gwahaniaethau – yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu lloeren. Gall eich darparwr newydd roi gwybodaeth i chi am hyn.
Os oes gennych chi wasanaeth llinell dir a band eang gyda'r un darparwr, mae newid eich darparwr band eang yn debygol o olygu newid eich gwasanaeth llinell dir ar yr un pryd. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus i wneud hyn cyn ymrwymo i un o'r cynigion hyn.
Taliadau terfynu cynnar a chyfnod 'oeri'
Os ydych am newid darparwr cyn diwedd eich isafswm cyfnod contract, mae'n bosib y bydd angen i chi dalu taliadau terfynu cynnar (oni bai nad ydych yn derbyn y cyflymder a addawyd i chi). Gwiriwch gyda'ch darparwr presennol a fydd angen i chi dalu unrhyw daliadau pan fyddwch yn newid.
A chofiwch, mae gennych bob amser gyfnod 'oeri' o 14 diwrnod calendr, pan allwch ganslo eich cais am newid darparwr band eang – heb i dâl gael ei godi arnoch chi.