Rhestr wirio ar gyfer contract ffôn neu fand eang newydd

Cyhoeddwyd: 17 Mehefin 2022

ChecklistOs ydych chi’n bwriadu ymrwymo i gytundeb newydd ar gyfer ffôn symudol, ffôn cartref neu fand eang, bydd angen i chi wirio ambell beth cyn gwneud hynny.

Er enghraifft, a fydd y swm rydych chi’n ei dalu bob mis yn aros yr un fath dros gyfnod y contract, neu a fydd prisiau gwahanol yn berthnasol ar adegau gwahanol?

Ac os bydd y telerau, gan gynnwys y prisiau, yn newid neu’n codi’n annisgwyl yn ystod eich contract, beth ydy eich hawliau?

Mae’r canllaw yma’n nodi rhai ffactorau y gallech chi fod eisiau eu hystyried cyn llofnodi contract newydd ac mae’n egluro beth gallwch chi ei wneud os bydd y pris roeddech chi wedi cytuno arno’n codi’n annisgwyl.

  • Mae rhai contractau’n cael eu cynnig ar sail dreigl lle gallwch ganslo o fis i fis, tra bo eraill yn eich clymu am 12, 18 neu 24 mis. Dylech bob amser ganfod am faint yr ydych wedi’ch clymu ac ystyried am ba hyd yr hoffech chi gael eich clymu?
  • Fel defnyddiwr (mae rheolau gwahanol yn berthnasol i fusnesau) ni ddylai’ch contract ar gyfer eich gwasanaeth telegyfathrebu fod yn fwy na 24 mis. Mae rhai contractau ar gyfer ffonau symudol yn gallu bod yn hirach. Felly mae’n bwysig ystyried y telerau ar gyfer y ffôn ei hun yn ogystal â'r amser ar yr awyr.
  • Os ydych chi’n cofrestru am gontract 12, 18 neu 24 mis, bydd rhaid talu fel arfer i ymadael yn gynnar â'r contract. Ni ddylai’r taliadau hyn, sef ‘taliadau ymadael yn gynnar’, fod yn fwy na’r taliadau sydd ar ôl ar y contract (ac mewn rhai achosion gallent fod yn llawer llai).

Mae’n debyg mai’r pris rydych yn ei dalu bob mis yw un o’r ffactorau pwysicaf wrth i chi ddewis contract. Gall fod yn un o’r canlynol:

  • Sefydlog - un pris yw hwn sy’n aros yr un fath dros gyfnod y contract e.e. £20 y mis am 24 mis.
  • Haenog - byddwch chi’n talu gwahanol brisiau ar wahanol adegau, e.e. £10 y mis am y 12 mis cyntaf a £15 y mis am yr ail 12 mis. Neu £10 y mis, ynghyd â chynnydd o X% yn unol â chwyddiant.
  • Amrywiol - bydd eich darparwr yn cadw’r hawl i gynyddu'r pris misol rydych chi'n ei dalu yn ôl ei ddisgresiwn.

Ni waeth sut fath o gontract sydd gennych, fe ddylech chi gael gwybod faint rydych yn ei dalu bob mis. Os nad ydych yn siŵr iawn beth rydych yn cytuno iddo, neu’n anghyfforddus â'r math o gontract sy’n cael ei gynnig, peidiwch â’i dderbyn

Os bydd eich darparwr yn cynyddu'r pris rydych yn ei dalu bob mis y tu hwnt i’r hyn y cytunoch chi iddo, dylai:

(a) rhoi rhybudd o fis o leiaf i chi o’r cynnydd yn y pris; a

(b) gadael i chi ymadael â’ch contract heb gosb os byddwch chi'n dewis gwneud hynny.

Weithiau, efallai y bydd eich darparwr yn cynyddu prisiau ar gyfer gwasanaethau sydd y tu allan i’ch swm misol rheolaidd (gallai hyn gynnwys galwadau rhyngwladol, galwadau i’r gwasanaeth ymholiadau rhifau ffôn, rhifau cyfradd premiwm neu unrhyw wasanaethau eraill lle rydych chi'n talu ar sail ‘talu wrth ddefnyddio’).  Os bydd hyn yn digwydd fe ddylai eich darparwr barhau i roi gwybod i chi am y newidiadau hyn. Ond, dim os gallai’r cynnydd arfaethedig eich rhoi chi o dan anfantais (er enghraifft os ydych chi'n gwneud galwadau rheolaidd i'r rhifau hyn) y mae’n rhaid iddo gynnig yr hawl i chi ymadael â'ch contract heb gost.

Os na fydd eich darparwr yn rhoi’r hawl i chi ymadael a chithau’n credu y bydd y cynnydd mewn prisiau yn eich rhoi o dan anfantais oherwydd eich amgylchiadau, dylech ddweud hyn wrth eich darparwr a darparu tystiolaeth i gefnogi’ch cais.

  • Beth yn union ydych chi’n ei gael am eich arian? Ydy'r contract yn cynnwys lwfans defnyddio a beth ydy’r gost os ydych chi’n mynd drosto?
  • A oes unrhyw gostau ychwanegol - e.e. am filiau papur, am wasanaeth adnabod y galwr, am adalw negeseuon llais, neu am wneud taliad drwy ddull heblaw debyd uniongyrchol?
  • Beth sy'n digwydd os oes nam neu broblem â'r gwasanaeth? Oes cyfnodau wedi’u gwarantu ar gyfer trwsio? A oes iawndal a/neu ddulliau eraill o ddigolledu ar gael? Oes rhaid talu i beiriannydd ymweld? Pryd a faint?

Ffordd dda o gael gwybod pa fargeinion sydd ar gael yw edrych ar y safleoedd cymharu prisiau sydd wedi’u hachredu gan Ofcom.

Rydym wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd am y prif gwestiynau a all fod gennych i’ch helpu chi i ddewis darparwr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gwynion cwsmeriaid i ddarparwyr a’r cyfraddau bodlonrwydd cyffredinol.

Yn ogystal â rhoi gwybod i chi y pris(iau) misol rydych yn cytuno i’w dalu, dylai darparwyr hefyd roi’r canlynol i chi:

  • disgrifiad o’r gwasanaeth;
  • y prif daliadau;
  • telerau talu;
  • eich hawl i ganslo, a’r drefn ar gyfer canslo;
  • y dyddiad y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu (pan nad yw’n cael ei ddarparu’n syth); a
  • unrhyw gyfnod contract sylfaenol. Rhaid i’r wybodaeth yma gael ei darparu i chi yn glir ar bapur, er enghraifft mewn llythyr neu e-bost. Os ydych chi’n ymrwymo i gontract yn ystod galwad gwerthu, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth hon dros y ffôn, rhaid i'ch darparwr anfon yr wybodaeth hon atoch chi mewn da bryd ar ôl yr alwad (er enghraifft drwy e-bost neu lythyr).

Pan fyddwch chi’n prynu gwasanaeth band eang, fe ddylech chi gael rhywfaint o wybodaeth bwysig heb orfod gofyn amdani. Fe ddylech chi gael amcangyfrif o’r cyflymder rydych chi’n debygol o’i dderbyn ar adegau prysur, pan fydd y cyflymderau cyfartalog yn aml yn is. Mae’r adegau prysur hyn rhwng 8 a 10pm ar gyfer gwasanaethau cartref a rhwng 12 a 2pm ar gyfer gwasanaethau busnes. Dylai eich darparwr bob amser ddarparu isafswm cyflymder wedi’i warantu i chi ar gyfer eich gwasanaeth band eang.

Os ydych chi’n teimlo nad yw darparwr wedi rhoi gwybod i chi mewn ffordd briodol am newid i’ch contract neu fod contract wedi’i gamwerthu i chi, dylech gysylltu â’i adran gwasanaeth i gwsmeriaid a chwyno’n ffurfiol. Dylech chi bob amser ofyn am rif cyfeirnod wrth wneud cwyn.

Os na fyddwch chi wedi datrys y mater gyda'r darparwr ar ôl wyth wythnos (neu cyn hynny os cyrhaeddir sefyllfa ddiddatrys), efallai fod yr hawl  gennych i fynd â'ch achos at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Rhaid i'r darparwr roi gwybod i chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch ddefnyddio ein gwiriwr ADR

Gallwch hefyd gysylltu ag Ofcom . Mae data am gwynion yn ein helpu i dargedu ein gwaith gorfodi yn erbyn cwmnïau nad ydynt o bosibl yn cydymffurfio â’n rheolau

Yn ôl i'r brig