Gall cwsmeriaid band eang a llinell dir newid rhwydwaith yn awr o dan broses ‘un cyffyrddiad’ newydd, lle mai dim ond cysylltu â’u darparwr newydd y mae’n rhaid iddynt ei wneud.
Sut mae Newid Un Cyffyrddiad yn gweithio
Ers 2015, mae pobl wedi gallu newid rhwng darparwyr ffôn a band eang ar rwydwaith Openreach – fel BT a Sky – drwy ddilyn proses lle mae eu darparwr newydd yn rheoli’r newid. Ond mae cwsmeriaid sy’n newid i rwydwaith gwahanol neu o rwydwaith gwahanol, fel Virgin Media, wedi gorfod cysylltu â’u darparwr presennol hefyd i gydlynu’r newid.
Gydag amrywiaeth o rwydweithiau ffeibr optig sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn cael eu hadeiladu, mae Ofcom eisiau ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i bobl symud rhyngddynt a manteisio ar lefelau dewis na welwyd eu tebyg o’r blaen. O dan y broses Newid Un Cyffyrddiad newydd, dim ond cysylltu â’u darparwr newydd y mae angen i gwsmeriaid llinell dir a band eang ei wneud er mwyn gwneud y newid.
Mae ein rheolau’n golygu, o dan Newid Un Cyffyrddiad, nad oes yn rhaid i gwsmeriaid dalu ffioedd cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad newid – felly dim mwy o orfod talu am yr hen wasanaeth ar ôl i’r un newydd ddechrau. Yn ogystal, rhaid i ddarparwyr roi iawndal i gwsmeriaid petai pethau’n mynd o chwith yn ystod y broses newid, neu eu bod yn cael eu gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith.
Cyfnod pontio
Ers mis Gorffennaf, mae darparwyr wedi bod yn treialu’r broses newydd, ac wedi llwyddo i’w defnyddio i drosglwyddo cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae’r diwydiant wedi rhoi gwybod i ni y gallai swm bychan o’r newidiadau fod yn aflwyddiannus o dan y system newydd, oherwydd problemau sydd heb eu datrys wrth gyfateb gwybodaeth am gwsmeriaid.
Gan hynny, bydd cyfnod pontio o chwe wythnos lle bydd prosesau newid presennol yn cael eu cadw fel amddiffyniad wrth gefn. Rhaid i ddarparwyr ddefnyddio Newid Un Cyffyrddiad yn y lle cyntaf, ac rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau’n digwydd drwy’r broses newydd. Dim ond os oes angen hynny y dylid defnyddio’r dewis wrth gefn.
Ein cyngor i’r holl gwsmeriaid sydd eisiau newid darparwr band eang neu linell dir yw cysylltu â’r darparwr newydd rydych chi eisiau ymuno ag ef, a bydd yn rhaid iddynt egluro i chi beth yw’r broses ar gyfer newid darparwr a beth mae angen i chi ei wneud.
Cymerwch olwg ar ein cyngor ar ddod o hyd i’r fargen orau ar gyfer eich anghenion a dewis y darparwr gorau.