Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi’r tablau cynghrair diweddaraf ar y cwynion rydym yn eu derbyn am brif gwmnïau ffôn cartref, band eang, gwasanaethau symudol a theledu-drwy-dalu y DU.
Mae'r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd, am gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau band eang cartref, ffôn llinell dir, ffôn a band eang symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu. Rydym yn cynnwys pob darparwr sydd â chyfran o'r farchnad dros 1.5%.
Vodafone oedd y darparwr band eang y cwynwyd amdano fwyaf. Roedd hanner yr holl gwynion am Vodafone yn deillio o ddiffygion, problemau gwasanaeth a darparu’r gwasanaeth. Denodd Sky y nifer isaf o gwynion ymhlith darparwyr band eang.
Virgin Mobile oedd y darparwr ffonau symudol y cwynwyd amdano fwyaf – y prif resymau dros gwynion cwsmeriaid i Ofcom oedd problemau ynglŷn â newid darparwr a sut y cafodd cwynion eu trin. Tesco Mobile oedd y darparwr gwasanaethau symudol talu’n fisol a ddenodd y nifer isaf o gwynion.
Virgin Media oedd y darparwr teledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano o hyd, a’r brif reswm dros y cwynion oedd y ffordd y mae cwynion yn cael eu trin. Parhaodd Sky i ddenu'r nifer isaf o gwynion ymhlith darparwyr teledu-drwy-dalu.
Plusnet oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd amdano fwyaf, tra y denodd Sky nifer isaf o gwynion.
Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom: "Mae miliynau o bobl ar hyd a lled y wlad yn dibynnu ar eu gwasanaethau cyfathrebu i allu gweithio, dysgu a chadw mewn cysylltiad â’r rhai sy’n agosaf atynt.
"Felly mae'n hanfodol bod cwmnïau'n parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar gwsmeriaid – yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed – a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau y mae cwsmeriaid yn eu profi."
Mae gwybodaeth am gwynion yn helpu pobl i feddwl am ansawdd y gwasanaeth pan fyddant yn chwilio am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella eu perfformiad. Mae ein hyb ansawdd gwasanaeth yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut y gall pobl ddewis y darparwr gorau ar eu cyfer.
Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, ac mae’n bosib y bydd yr wybodaeth a dderbyniwn yn golygu y byddwn yn lansio ymchwiliadau.
Cwynion am fand eang cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion am ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid
Pan fo’r gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer y cwynion am ddarparwyr fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag 1, credwn fod modd cymharu eu canlyniadau. Yma, dylid ystyried bod nifer y cwynion gan ddarparwyr llinell dir canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn gymaradwy: 1. cyfartaledd y diwydiant, Swyddfa'r Post a BT; 2. Vodafone a TalkTalk a 3. Virgin Media a Plusnet.
Cwynion am wasanaethau symudol talu’n fisol fesul 100,000 o gwsmeriaid
Roedd y gwahaniaeth mesuradwy go iawn rhwng nifer y cwynion am ddarparwyr symudol misol canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE; 2. Sky Mobile, EE ac O2; 3. cyfartaledd y diwydiant, BT Mobile ac iD Mobile; 4. iD Mobile a Vodafone.