Cais am fewnbwn - Adolygiad o ddulliau Datrys Anghydfod Amgen (ADR) yn y sector telathrebu

Cyhoeddwyd: 29 Tachwedd 2023
Ymgynghori yn cau: 10 Ionawr 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae Ofcom wedi lansio adolygiad o’r prosesau a’r cynlluniau y gall pobl eu defnyddio i ddatrys anghydfod gyda’u darparwyr telathrebu.

Os yw cwsmer wedi codi cwyn gyda’i ddarparwr a'i fod yn anfodlon ar y canlyniad, neu os yw’n parhau i fod heb ei ddatrys ar ôl wyth wythnos, gall uwchgyfeirio ei gŵyn i gynllun datrys anghydfod amgen (ADR) am ddim, a fydd yn gwneud dyfarniad annibynnol ar yr achos.

Ar hyn o bryd mae Ofcom yn cymeradwyo dau gynllun ADR: Yr Ombwdsmon Cyfathrebiadau a'r Cynllun Dyfarnu Gwasanaethau Cyfathrebiadau a'r Rhyngrwyd (CISAS). Rhaid i bob darparwr telathrebu sy'n cynnig gwasanaethau i ddefnyddwyr a busnesau bach fod yn aelod o un o'r cynlluniau hyn.

Bydd ein hadolygiad yn ystyried a yw defnyddwyr a busnesau bach yn cael deilliannau hygyrch, teg a chyson o’r broses ADR hon. Rydym yn bwriadu ystyried:

  • a yw'r broses bresennol i ddefnyddwyr gyrchu ADR yn gweithio'n effeithiol i ddefnyddwyr;
  • a yw defnyddwyr yn derbyn gwasanaeth hygyrch a theg ym mhob  cam o’r broses ADR, o gyflwyno achos i dderbyn penderfyniad; ac
  • a ddylem wneud unrhyw newidiadau i'r ffordd yr ydym yn monitro perfformiad y cynlluniau ADR.

Rydym yn gwahodd sylwadau rhanddeiliaid ar gwmpas yr adolygiad hwn - gan gynnwys unrhyw faterion ychwanegol y dylem eu hystyried - erbyn 5pm 10 Hydref 2024.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 98.3 KB) (Saesneg yn unig).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
ADR Review Team, Network and Communications
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig