Adroddiad: Dewis y darparwr band eang, symudol a llinell dir orau

Cyhoeddwyd: 10 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf: 10 Awst 2023

Dyma seithfed adroddiad blynyddol Ofcom ar sut mae lefelau gwasanaeth yn cymharu ar gyfer cwsmeriaid preswyl ar draws y diwydiant telathrebu.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â phrofiadau cwsmeriaid yn 2021. Yn gyffredinol roedd lefelau boddhad cwsmeriaid yn uchel, yn benodol ar gyfer gwasanaethau symudol, er bod hyn wedi gostwng ers 2021. Mae rhai agweddau ar ansawdd y gwasanaeth wedi gwella; er enghraifft, mae maint y cwynion a wnaed i Ofcom wedi gostwng o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, bu cynnydd yng nghanran y cwsmeriaid a oedd â rheswm dros gwyno ar gyfer gwasanaethau llinell dir a symudol.

Parhaodd boddhad ar drin cwynion ar yr un lefel ag yn 2021 ac mae lle i wella o hyd. At hynny, mae amserau aros ar alwad a chyfraddau gadael galwad cyfartalog wedi codi ers 2021. Ar amser pan fydd llawer o gwsmeriaid wedi profi ymchwydd sylweddol mewn prisiau, mae'n hanfodol bod darparwyr yn gwneud mwy i wella'r gwasanaeth i gwsmeriaid a rhoi trin cwsmeriaid yn deg wrth wraidd eu busnes.

Mae Ofcom yn cynnig lleihau amlder y tri offeryn tracio Cymharu Gwasanaeth Cwsmeriaid - yr Offeryn Tracio Boddhad Cwsmeriaid, yr Offeryn Tracio Rheswm dros Gwyno a'r Offeryn Tracio Ymdrin â Chwynion - i bob yn ail flwyddyn. Ar ôl gwneud gwaith maes ar gyfer yr arolygon yn 2022, byddem yn symud i donnau bob dwy flynedd o waith maes o 2024.

I gael mwy o wybodaeth am y newid hwn, darllenwch ein hysbysiad o newidiadau (PDF, 268.5 KB). Os ydych chi'n credu y byddai'r newid yn achosi unrhyw broblemau i'ch sefydliad, e-bostiwch marketresearch@ofcom.org.uk erbyn 9am ar 27 Gorffennaf 2023.

Dyma chweched adroddiad blynyddol Ofcom ar sut mae lefelau gwasanaeth yn cymharu ar draws y diwydiant telathrebu.

Rydym yn ei gyhoeddi i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am ba ddarparwr sydd orau iddynt, fel rhan o'n gwaith i sicrhau tegwch i gwsmeriaid.

Trwy daflu goleuni ar berfformiad prif ddarparwyr symudol, band eang a llinell dir y DU, mae'r adroddiad hwn yn galluogi pobl i edrych y tu hwnt i'r pris a gweld pa lefel o wasanaeth y gallant ei ddisgwyl gan ddarparwyr gwahanol. Mae'n gweithredu fel ysgogiad i ddarparwyr wella'u gwasanaeth i gwsmeriaid hefyd.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â phrofiadau cwsmeriaid yn 2021 ac felly effaith parhaus y pandemig Covid-19. Yn gyffredinol roedd lefelau boddhad cwsmeriaid yn uchel, yn benodol ar gyfer symudol, ac mae'n braf hefyd bod cwynion i Ofcom am y rhan fwyaf o ddarparwyr ostwng yn 2021. Er hynny, roedd yn flwyddyn heriol arall ar gyfer rhai agweddau ar wasanaeth i gwsmeriaid: parhaodd rhai cwsmeriaid i brofi lefelau gwasanaeth cwsmeriaid is ar adegau ac ni ddychwelodd lefelau gwasanaeth i'r rhai yn 2019 ar draws y diwydiant.

Adroddiad llawn

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.

Adroddiad rhyngweithiol

Atodiadau

Adroddiad

  • Diweddariad [18] Mai 2022 Dyma fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad a gyhoeddwyd ar 4 Mai 2021. Mae'n cynnwys cytundebau cwsmeriaid sydd wedi eu diwygio fesul sianelau, namau fesul 1000 cwsmeriaid bob mis a data cyfradd gadael galwadau. 

Adroddiad Rhyngweithiol

Atodiadau

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.

Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom sy'n bwrw golwg ar sut mae lefelau gwasanaeth yn cymharu ym maes telathrebu.

Rydyn ni'n ei gyhoeddi i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa ddarparwr sydd orau iddyn nhw fel rhan o'n gwaith i sicrhau tegwch i gwsmeriaid.

Drwy dynnu sylw at berfformiad prif ddarparwyr symudol, band eang a llinell gartref, mae'r adroddiad yn galluogi pobl i weld y tu hwnt i'r prisiau a dysgu pa lefel gwasanaeth gallan nhw ddisgwyl gan wahanol ddarparwyr. Mae hefyd yn ysgogi darparwyr i wella eu gwasanaeth cwsmeriaid.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys profiadau cswmeriaid yn 2019 a lefelau bodlonrwydd yn Ionawr 2020 cyn i'r pandemig Covid-19 ddod i'r DU. Mae'r pandemig yn debygol o fod wedi effeithio ar lefelau gwasanaeth a dderbyniwyd gan gwsmeriaid telathrebu (mewn meysydd fel gwasanaethau newydd ac amserau trwsio) a bydd yr effaith hwn yn rhan o'n hadroddiad blynyddol nesaf yn 2021.

Yr adroddiad

Adroddiad Rhyngweithiol

Mae'r adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Atodiadau

Mae'r atodiadau ar gael yn Saesneg yn unig.

Dyma trydydd adroddiad blynyddol Ofcom sy'n bwrw golwg ar sut mae lefelau gwasanaeth yn cymharu ym maes telathrebu.

Rydyn ni'n ei gyhoeddi i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa ddarparwr sydd orau iddyn nhw fel rhan o'n gwaith i sicrhau tegwch i gwsmeriaid. Rydyn ni hefyd eisiau annog darparwyr i wella ansawdd eu gwasanaethau.

Drwy dynnu sylw at berfformiad prif ddarparwyr symudol, band eang a llinell gartref y DU, mae'r adroddiad yn galluogi pobl i weld y tu hwnt i brisiau'r gwasanaeth.

Yr Adroddiad

Adroddiad Rhyngweithiol

Mae'r adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Interactive report: Choosing the best broadband, mobile and landline provider 2018

Atodiadau

Mae'r atodiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Ymchwil

Mae'r ymchwil isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Dyma'r ail adroddiad blynyddol am ansawdd gwasanaeth i'w gyhoeddi gan Ofcom.

Mae'n dangos ansawdd y gwasanaeth o safbwynt cwsmeriaid darparwyr llinell dir, band eang a symudol mwyaf y DU yn 2017. Mae'r wybodaeth wedi ei chasglu drwy ein data ymchwil a chwynion ein hunain ac yn uniongyrchol wrth ddarparwyr a thrydydd partïon.

Adroddiad

Penodau

Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.

Atodiadau

Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.

Ymchwil

Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.

Dyma adroddiad ansawdd gwasanaeth blynyddol cyntaf Ofcom. Mae'n dangos ansawdd y gwasanaeth a brofwyd gan gwsmeriaid darparwyr mwyaf llinell dir, band eang a symudol y DU yn 2016. Mae'r wybodaeth hon wedi ei chasglu drwy ein hymchwil ni ac yn uniongyrchol gan ddarparwyr.

Mae'r adroddiad hwn yn dilyn casgliadau cychwynol Adolygiad Cyfathrebu Digidol Ofcom, wedi ei gyhoeddi yn Chwefror 2016, wnaeth ganfod fod angen gwelliannau mewn ansawdd gwasanaeth ar draws y diwydiant telathrebu. Rydyn ni felly wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol i alluogi cwsmeriaid i gymharu ansawdd gwasanaeth darparwyr.

Rydyn ni'n cyhoeddi gwybodaeth ansawdd gwasanaeth yn flynyddol o leiaf, i ddiweddaru cwsmeriaid ynghylch sut mae eu darparwyr yn perfformio a byddwn yn ystyried diweddariadau mwy rheolaidd lle'n addas.

Crynodeb

Adroddiad Rhyngweithiol

Mae'r teclyn rhyngweithiol hwn sydd ar gael yn Saesneg yn unig yn helpu chi i gymharu perfformiad darparwyr yn fanwl. Gallwch chi ei ddefnyddio i wirio sut mae eich darparwr yn perfformio yn y meysydd sydd bwysicaf i chi. Mae gennym ni declyn bwrdd gwaith a fersiwn symudol (nodyn -mae'r ddolen hon yn eich tywys i wefan allanol).

Atodiadau

Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.

Ymchwil

Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig