Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf ar y cwynion rydym yn eu derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.
Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, pan ddechreuodd cyfyngiadau cyfnod clo y DU lacio.
Gostyngodd cwynion yn y chwarter hwn yn gyffredinol i lefelau a welwyd cyn y pandemig Covid-19.
Gwelwyd nifer y cwynion am Virgin Media yn benodol yn gostwng yn sylweddol ar draws pob un o'r pedwar sector, ar ôl i Ofcom godi pryderon gyda'r darparwr am ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y chwarter blaenorol.
Er hynny, nhw oedd y darparwr teledu-drwy-dalu a dderbyniodd y nifer uchaf o gwynion o hyd. Y prif reswm dros gwynion gan gwsmeriaid i Virgin Media oedd y ffordd y mae'r cwmni'n trin eu cwynion.
Cynhyrchodd TalkTalk y nifer uchaf o gwynion ar gyfer band eang a llinell dir, yn bennaf o ganlyniad i ddiffygion a phroblemau gwasanaeth.
Virgin Mobile oedd y gweithredwr symudol y cwynwyd fwyaf amdano, ochr yn ochr â Three a Vodafone; roedd Tesco Mobile, BT Mobile, Sky Mobile, EE ac O2 i gyd yn gyfartal fel y gweithredwyr y cwynwyd leiaf amdanynt.
EE a Sky oedd y darparwyr band eang a llinell dir y cwynwyd leiaf amdanynt, a bu i Sky ddenu'r nifer isaf o gwynion ar gyfer teledu-drwy-dalu.
Mae Shell Energy yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad cwynion am y tro cyntaf ar ôl iddynt brynu busnes telathrebu Swyddfa'r Post.
Mae'n galonogol i weld y ffigurau cwynion yn cwympo'n gyffredinol i'r lefelau a fu cyn y pandemig, ond ni all darparwyr orffwys ar eu bri o ran eu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae gan y rhai sydd â nifer cyson uchel o gwynion gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau eu bod yn bodloni disgwyliadau eu cwsmeriaid.
Meddai Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom
Mae'r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau wrth siopa o gwmpas am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella'u perfformiad. Mae ein hyb ansawdd gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth bellach ar sut y gall pobl ddewis y darparwr sydd orau iddynt.
Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.
Dylai unrhyw un sy'n cael problemau gwyno i'w darparwr yn y lle cyntaf. Os ydynt yn anfodlon ar y canlyniad, gall pobl fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.
Cwynion ynglŷn â band eang yn y cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion ynglŷn â ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion ynglŷn â ffonau symudol talu'n fisol fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion am deledu trwy dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid
Nifer cymharol y cwynion fesul gwasanaeth fesul 100,000 o danysgrifwyr
NODIADAU I OLYGYDDION
- Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr band eang sefydlog a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. EE a Sky; a 2. Vodafone a Shell Energy.
- Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr llinell dir a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. EE a Sky; 2. BT a Vodafone; 3. Vodafone a chyfartaledd y diwydiant; a 4. Virgin Media a Shell Energy.
- Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr symudol talu'n fisol a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. Tesco Mobile, BT Mobile, Sky Mobile, EE ac O2; 2. Sky Mobile, EE, O2 a chyfartaledd y diwydiant; 3. EE, O2, cyfartaledd y diwydiant ac iD Mobile; 4. Cyfartaledd y diwydiant, iD Mobile, Vodafone a Three; a 5. Vodafone, Three a Virgin Mobile.
- Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion TalkTalk a BT fesul 100,000 o ddarparwyr ar gyfer teledu-drwy-dalu'n llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy.